Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cynllun Lles Lleol 2023-28

Gweithio gyda'n gilydd i wella llesiant yn Abertawe.

Yn Abertawe, rydym yn credu yn hawliau pob person

Drwy'r cynllun hwn,  Gweithio gyda'n gilydd i wella llesiant yn Abertawe (PDF) [5MB] ein gweledigaeth yw gweithio gyda'n gilydd i wneud Abertawe'n lle sy'n ffynnu, lle caiff ein hamgylchedd naturiol ei werthfawrogi a'i gynnal a'i gadw a lle gall pob person gael y dechrau gorau mewn bywyd, cael swydd dda, byw'n dda, heneiddio'n dda a chael pob cyfle i fod yn iach, yn hapus, yn ddiogel a'r gorau y gallant fod.

Gan ddefnyddio gwybodaeth o'r Asesiad o Les Lleol 2022 mae gwrando ar bobl yn dweud wrthym fod Abertawe yn lle gwych i fyw, ond mae angen i ni gydweithio'n galetach i wneud yn siŵr y gall pawb fyw'n dda, elwa o Abertawe a bod yn falch ohoni.

Rydym am adeiladu ar lwyddiannau hyd yn hyn felly rydym wedi diweddaru ein hamcanion tymor hir presennol. Bydd y parhad strategol hwn yn ein helpu i ganolbwyntio ar y gweithredu ar y cyd angenrheidiol i wneud y gwahaniaeth mwyaf i fywyd unigolion.

1. Y Blynyddoedd Cynnar - Sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd i fod y gorau y gallant fod.

2. Byw'n dda, Heiidd'n dda- Gwneud Abertawe yn lle gwych i fyw, ym mhob cam bywyd.

3. Y Newid yn yr hinsawdd ac adferiad byd nature - Adfer a gwella bioamrywiaeth, mynd  i'r afael ag achosion y newid yn yr hinsawdd a lleihau ei effaith

4. Cymunedau Cryf-Adeiladu cymunedau cydlynus a chydnerth gydag ymdeimlad o falchder a pherthyn.

Hygyrchedd

Rydym eisiau i'n cynllun fod yn ddefnyddiol ac yn hawdd i bawb ei ddarllen, ac felly rydym wedi creu sawl fersiwn.

Ceir crynodeb o'r Cynllun yn ein 'Cynllun ar Un Dudalen', a gellir ei ddarllen yn gyflym. 

Cynllun ar Un Dudalen

Cynllun Lles Lleol ar Un Dudalen (PDF) [655KB]

Fersiwn darllenydd sgrin

Fersiwn darllenydd sgrin - Cynllun Lles Lleol (Word doc) [114KB] 

Fersiwn hawdd ei ddeall

Fersiwn hawdd ei ddeall - Cynllun Lles Lleol (Word doc) [15MB]

Sut y lluniwyd y cynllun

Datblygwyd Cynllun Lles Lleol Abertawe trwy wrando ar bobl a defnyddio tystiolaeth o'n Hasesiad Lles Lleol. Da chi, darllenwch ein  dogfen Ymateb i'r Ymgynghoriad Cynllun Lles Lleol (Word doc) [2MB] i ddarganfod mwy am sut yr aethom ati i ofyn i ddinasyddion, defnyddwyr gwasanaethau, arbenigwyr, staff, rheolwyr, plant, arweinwyr, ac ati, am eu cymorth. Mae hwn hefyd yn crynhoi'r hyn yr oeddent wedi'i ddweud, ynghyd â'r modd yr aethom ati i ymateb a defnyddio'r sylwadau a'r syniadau hyn i lunio cynllun gwell.

Ceir mwy o wybodaeth am y broses yn:

Atodiad B - Fforwm Partneriaeth (Word doc) [22KB]

Appendix C - 3 Horizons (Word doc) [234KB]

Atodiad D - Matrics Cwmpasu Prosiectau y BGC (Word doc) [13KB]

Appendix E - Online questionnaire (PDF) [229KB]

Atodiad F - Arolwg Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Hawdd ei Ddeall (PDF) [1MB]

Cyngor gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru

Cyngor gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Abertawe (PDF) [296KB]