Toglo gwelededd dewislen symudol

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016: gwybodaeth i landlordiaid

Gwybodaeth i landlordiaid am Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 - yn weithredol o 1 Rhagfyr 2022.

Canllawiau Llywodraeth Cymru

Estyniad ar gyfer Trwydded Llety â Chymorth

Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn caniatáu i landlord/ddarparwr cymorth llety â chymorth ddefnyddio trwydded yn lle contract meddiannaeth am chwe mis cyntaf deiliadaeth preswylydd. Ar ôl 6 mis i ddyddiad cychwyn y drwydded, bydd trwydded yn dod yn gontract meddiannaeth yn awtomatig. Fodd bynnag, mae'r Ddeddf yn caniatáu i landlord wneud cais i'r awdurdod lleol i estyn y drwydded hyd at 3 mis.

Mae rhan yr awdurdod lleol yn y penderfyniad i estyn y cyfnod perthnasol wedi'i nodi ym mharagraff 15 (5) o Ran 5, Atodlen 2 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.

Ni chaiff landlord (ac eithrio awdurdod tai lleol) roi hysbysiad o estyniad heb gydsyniad yr awdurdod tai lleol y darperir y llety yn ei ardal. Mae'r ddarpariaeth hon yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn ymwybodol o nifer yr estyniadau i drwyddedau a'r rhesymau drostynt.

O leiaf 6 wythnos cyn y daw cyfnod y drwydded i ben, gall y landlord/darparwr cymorth benderfynu gwneud cais am ganiatâd gan yr awdurdod lleol i estyn y drwydded. 

Beth yw'r broses ar gyfer gwneud cais i estyn trwydded?

Dylai unrhyw landlordiaid/ddarparwyr cymorth sy'n dymuno gwneud hyn wneud cais i'r awdurdod lleol am ganiatâd i estyn y drwydded.

E-bostiwch gwaharddiadaudrosdro@abertawe.gov.uk gyda ffurflenni wedi'u llenwi ac ar gyfer unrhyw ymholiadau.

Ym mhob achos, dylid ceisio caniatáu'r cyfnod hwyaf o 2 wythnos i Swyddogion yr awdurdod lleol wneud penderfyniad. Bydd swyddogion yn defnyddio eu disgresiwn lle nad yw'r pythefnos llawn wedi'i roi, fodd bynnag byddai angen i hyn fod oherwydd amgylchiadau esgusodol.

Gwaharddiadau dros dro

Mae contract safonol â chymorth yn cynnwys teler sy'n rhoi'r pŵer i'r landlord wahardd deiliad contract am gyfnod penodol (hyd at 48 awr).Ystyrir unrhyw waharddiad a gyhoeddir gan landlord/ddarparwr cymorth sy'n ei gwneud yn ofynnol yn ffurfiol i ddeiliad y contract adael yr annedd, gan amrywio o awr i 48 awr, yn waharddiad dros dro. Ni ellir arfer yr hawl i wahardd dros dro fwy na thair gwaith o fewn cyfnod 6 mis.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau statudol sy'n nodi'r gofynion y mae'n rhaid i landlordiaid eu bodloni er mwyn arfer y pŵer hwn: Llety â chymorth: canllawiau gwahardd dros dro (Llywodraeth Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)

Ni fwriedir i waharddiadau dros dro gael eu defnyddio i gosbi deiliad y contract.  Y bwriad yw eu defnyddio i sicrhau diogelwch preswylwyr eraill a staff prosiect neu i atal deiliad y contract rhag cael ei droi allan o lety a rhoi cyfle iddo feddwl am yr ymddygiad sydd wedi arwain at y gwaharddiad dros dro.Rhaid i landlordiaid gofnodi pob cam a gymerwyd i osgoi'r angen i arfer y pŵer gwahardd dros dro er mwyn rhoi tystiolaeth fod y pŵer wedi'i ddefnyddio fel dewis olaf ar ôl i bob dim arall fethu.

Rhaid i landlord gael Polisi Gwahardd Dros Dro er mwyn iddo allu defnyddio'r teler er mwyn gwahardd dros dro.

Dylid cynnal adolygiad o'r holl waharddiadau dros dro o fewn 14 diwrnod i'r gwaharddiad dros dro. Dylai'r broses ar gyfer cynnal adolygiad gael ei nodi ym Mholisi Gwahardd Dros Dro'r landlord.

Yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Abertawe'n cymryd rhan yn y cyfarfod adolygu yn dilyn y gwaharddiad lle bo modd.

Rhaid anfon unrhyw geisiadau i fod yn bresennol mewn adolygiad i: gwaharddiadaudrosdro@abertawe.gov.uk.