Toglo gwelededd dewislen symudol

Addysg i oedolion - Dysgu Gydol Oes

Sylwer y cyntaf i'r felin gaiff cofrestru ac nid yw cofrestru'n bersonol neu dros y ffôn yn sicrhau eich lle.

Datganiad Cymhwystra i Gofrestru ar gyfer y Cwrs - sylwer bod y cyrsiau hyn ar gael i bobl 19 oed ac yn hŷn. Mae'r gofyniad oed ar waith o ganlyniad i ganllawiau ariannu Llywodraeth Cymru, sy'n nodi y clustnodir cymorth ariannol i ddysgwyr sy'n oedolion sy'n 19+ oed. Gwerthfawrogwn eich dealltwriaeth a'ch cydweithrediad wrth fodloni'r meini prawf cymhwysedd hyn.

Bydd y broses gofrestru ar-lein ar gyfer tymor yr Gwanwyn 2026 yn agor mewn tri cham

Dydd Llun 8 Rhagfyr 2025 am 9.30am
TG a llythrennedd Digidol - mae'r holl gyrsiau yn yr adran hon am ddim.
Gwella eich fathemateg a Saesneg - Sgiliau Hanfodol.

Dydd Mawrth 9 Rhagfyr 2025 am 9.30am
Celf a Chrefft - codir ffi o £40 ar gyfer yr holl gyrsiau yn yr adran hon gan gynnwys dosbarthiadau ar-lein.
Ffotograffiaeth Digidol - clodir ffi o £40 ar gyfer yr holl gyrsiau yn yr adran hon gan gynnwys dosbarthiadau ar-lein.
Iechyd a Lles - codir ffi o £40 ar gyfer cyrsiau wyneb yn wyneb yn unig, mae dosbarthiadau ar-lein am ddim.
Crefft Nodwydd a Creu Dillad - codir ffi o £40 ar gyfer yr holl gyrsiau yn yr adran hon.

Dydd Iau 3 Rhagfyr 2025 am 9.30am
Cerddoriaeth ac iaith - gweler y cyrsiau unigol am brisiau.
Trefnu Blodau a Flodeuwriaeth - codir ffi o £40 ar gyfer yr holl gyrsiau yn yr adran hon.
Coginio a Diogelwch Bwyd - mae'r holl gyrsiau yn yr adran hon am ddim.
Cyrsiau ymarferol - gweler y cyrsiau unigol am brisiau.

Bydd ein staff ar gael i'ch helpu i gofrestru'n bersonol yn ystod y diwrnodau cofrestru yn The ARC, Broughton Avenue, Portmead SA5 5JS neu ffoniwch 01792 637101.

Sylwer, y cyntaf i'r felin gaiff cofrestru ac nid yw cofrestru'n bersonol neu dros y ffôn yn sicrhau eich lle.

Darganfyddwch ein hamrywiaeth o gyrsiau

Bydd yr holl ddosbarthiadau ar gyfer tymor yr Gwanwyn 2026.

Cyrsiau Dysgu Gydol Oes

Manylion am ein cyrsiau ar gael i gofrestru ar-lein.

Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe (ALPS)

Mae Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe (ALPS) yn gweithio i ddarparu ystod eang o gyrsiau achrededig a rhai heb eu hachredu ar draws Dinas a Sir Abertawe i ddiwallu anghenion amrywiol dysgwyr.

Ffïoedd cyrsiau a chofrestru Dysgu Gydol Oes

Bydd y broses gofrestru ar-lein ar gyfer tymor yr Gwanwyn 2026 yn agor mewn tri cham.

Cyngor ac arweiniad ar addysg oedolion

Gwasanaeth arweiniad am ddim i oedolion.

Sgiliau Hanfodol

Gwella eich fathemateg, Saesneg, sgiliau Technoleg Gwybodaeth a ragolygon gwaith.

Sut y bydd eich data'n cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru

Mae'n ofynnol bod pob dysgwr sydd eisoes yn dysgu yn gweld Hysbysiad Preifatrwydd Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru, a'i fod yn cael ei ddangos yn ystod y broses ymrestru.

Tîm Dysgu Gydol Oes

Manylion cyswllt.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 12 Tachwedd 2025