Toglo gwelededd dewislen symudol

Eich hawliau fel person hŷn

Pan fyddwn yn creu polisïau newydd neu'n diwygio polisïau, rydym yn sicrhau ein bod wedi edrych ar yr effaith ar hawliau plant a phobl ifanc.

Heneiddio'n dda yn Abertawe

Ynghyd â'n partneriaid ar Fwrdd Gwasanaethau Lleol Abertawe a Dinas Iach Abertawe, rydym wedi creu Heneiddio'n Dda a Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn 2015 - 2019. Mae hwn yn amlinellu ein nodau am ein gwaith gyda phobl hŷn. Trydydd cam y strategaeth yw Byw'n Hwy, Byw'n Well a bydd ar waith rhwng 2013 a 2023. Diben y cam hwn yn y strategaeth yw bod:

  • pobl yng Nghymru'n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi, beth bynnag yw eu hoed.
  • gan yr holl bobl hŷn yng Nghymru'r adnoddau cymdeithasol, amgylcheddol ac ariannol y mae eu hangen arnynt i fynd i'r afael â'r cyfleoedd a'r heriau maent yn eu hwynebu.

Fel rhan o'r gwaith cynnwys ar y trydydd cam, nododd pobl hŷn yn Ninas a Sir Abertawe, trwy Rwydwaith 50+, y blaenoriaethau allweddol canlynol:

  • Iechyd a chefnogaeth
  • Cyllid
  • Mynd o le i le a gweithgarwch cymdeithasol.

Mae aelodau o Grŵp Cyfeirio Rhwydwaith 50+ yn parhau i gynrychioli pobl hŷn yn Abertawe trwy gydol yr wythnos hon.

Heneiddio'n Dda yng Nghymru

Mae ein Cynllun Gweithredu ar Heneiddio'n Dda a Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yn seiliedig ar y rhaglen Heneiddio'n Dda yng Nghymru.

Rhaglen genedlaethol yw Heneiddio'n Dda yng Nghymru a gyflwynir gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Mae'n dwyn unigolion a chymunedau ynghyd â'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i ddatblygu a hyrwyddo ffyrdd blaengar ac ymarferol i wneud Cymru'n lle da i heneiddio i bawb.

Nodau'r rhaglen:

  1. Gwneud Cymru'n lle da i heneiddio i bawb
  2. Gwneud Cymru'n wlad o Gymunedau sy'n Cefnogi'r Rhai â Dementia
  3. Lleihau'r achosion o gwympo
  4. Lleihau unigrwydd ac unigedd digroeso
  5. Cynyddu cyfleoedd dysgu a chyflogaeth.