Toglo gwelededd dewislen symudol

Garejys a dreifiau i denantiaid y cyngor

Gwybodaeth am adeiladu dreif a rhentu garej.

Garejys

Mae nifer cyfyngedig o garejys a sylfeini garejys (y gallwch godi eich garej eich hun arnynt) ar gael i'w rhentu.

Nid oes rhaid i chi fod yn denant i rentu un, ond mae ein tenantiaid yn cael eu blaenoriaethu. Yn aml mae rhestrau aros ar gyfer ardaloedd a dyrennir garejys yn ôl trefn dyddiad y cais. Defnyddir garejys ar gyfer parcio ceir yn unig ac mae amodau ynghlwm wrth y cytundeb rhentu. Codir rhent yn fisol a gellir ei dalu mewn unrhyw swyddfa dai ardal neu'r Ganolfan Ddinesig.

Byddwn yn atgyweirio unrhyw garejys y gellir eu cloi, ond ar gyfer garejys a adeiledir ar sylfeini garejys, y sawl sy'n rhentu sylfaen y garej sy'n gyfrifol am y garej hefyd.

Am fwy o fanylion am rentu garej, cysylltwch â'r swyddfa dai ardal berthnasol.

Sylwer - nid oes unrhyw garejys sy'n eiddo i'r cyngor yn ardal Gorseinon.

 

Dreifiau

Adeiladwyd llawer o eiddo yn Abertawe yn ystod adeg lle'r oedd canran bach yn unig o aelwydydd yn berchen ar gar; felly, ychydig iawn o gartrefi a adeiladwyd gyda dreifiau neu ddarpariaeth parcio ceir.

Os ydych chi'n ystyried adeiladu dreif neu ardal llawr caled ar eich eiddo:

  1. Mae angen i chi gael caniatâd gan eich swyddfa dai ardal cyn gallu adeiladu ardal llawr caled, a rhaid ei adeiladau i fanylebau penodol. Gallwch gyflogi'ch adeiladwr eich hun i wneud y gwaith hwn.
  2. Os rhoddir caniatâd, byddai angen i chi wneud cais i adeiladu cwrbyn isel neu groesiad, a fydd yn caniatáu i'ch car groesi'r palmant i'r dreif.

Yn ôl y gyfraith (Deddf Priffyrdd 1980), mae angen i chi wneud cais am groesiad. Mae'n anghyfreithlon ymyrryd â phalmentydd ac ymylfeini y tu allan i'ch eiddo, neu eu haddasu a'u difrodi - yr awdurdod priffyrdd YN UNIG sy'n gallu gosod croesiad.

Close Dewis iaith