Rwyf wedi derbyn gwŷs llys am beidio â thalu fy Nhreth y Cyngor
Os ydych wedi cael gwŷs llys, talwch y swm llawn sy'n ddyledus (gan gynnwys costau'r wŷs sef £40.00) cyn y dyddiad llys ac ni fydd yn rhaid i chi dalu costau ychwanegol. Ni chaiff rhagor o gamau adennill eu cymryd yn eich erbyn.
Talwch Dreth y Cyngor nawr Talwch e'
Pam ydw i wedi cael gwŷs llys?
Nid ydych wedi talu'n unol â'r rhandaliad ar yr Hysbysiad Galw am Dalu Treth y Cyngor (y bil) ac rydych eisoes wedi derbyn rhybudd ar ffurf llythyr atgoffa neu anfonwyd hysbysiad terfynol atoch.
Os ydych yn atebol ar y cyd, rhoddir gwŷs i bob parti, ond anfonir llythyrau atgoffa at y prif berson atebol, sef y person a enwir gyntaf ar yr hysbysiad galw.
Ni allaf dalu
Os na allwch wneud taliad llawn neu os oes gennych anghydfod atebolrwydd Treth y Cyngor heb ei ddatrys, gan gynnwys cais am Ostyngiad Treth y Cyngor heb ei benderfynu, ffoniwch ni ar unwaith ar 01792 635382 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9.00am - 4.00pm) neu e-bostiwch TrethyCyngor@abertawe.gov.uk i weld sut y gallwn helpu.
Hyd yn oed os ydych wedi colli'ch hawl i dalu mewn rhandaliadau ac rydych wedi cael costau ychwanegol, efallai yr ystyriwn drefnu gyda chi i glirio'r ddyled sydd wedi'i gwysio. Cofiwch, hyd yn oed os cytunir ar hyn, awn i'r llys beth bynnag i gael Gorchymyn Dyled.
NID OES angen i chi ymddangos yn y llys oni bai bod gennych amddiffyniad dilys (gweler isod). Gall yr achos barhau yn eich absenoldeb. Os hoffech wneud trefniadau i dalu am eich Treth y Cyngor neu i drafod unrhyw beth yn ei gylch, mae'r rhan fwyaf o'n cwsmeriaid yn ei chael hi'n haws cysylltu â ni cyn y gwrandawiad.
Amddiffyniadau dilys:
- Nid oedd unrhyw gofnod mewn perthynas â'r annedd yn y rhestr brisio am y cyfnod yr honnir bod y diffynnydd wedi bod yn atebol i dalu Treth y Cyngor ar ei gyfer
- Nid oedd y dreth wedi'i gosod yn gywir
- Nid oedd y dreth y gofynnwyd amdani'n unol â'r darpariaethau statudol neu ni ddosbarthwyd unrhyw hysbysiad ar y cyd ac yn unigol lle bo'n briodol
- Talwyd y swm y gofynnwyd amdano
- Mae mwy na 6 blynedd wedi mynd heibio ers y diwrnod y daeth y swm yn ddyledus
- Roedd yr awdurdod bilio'n torri'r ddyletswydd i gyflwyno hysbysiadau "cyn gynted ag y bo'n ymarferol" yn y flwyddyn berthnasol yn unol â Rheoliad 19(1) Rheoliadau Gweinyddu a Gorfodi
- Mae'r swm sy'n ddyledus mewn perthynas â chosb sy'n destun apêl neu gyflafareddiad:
- £70 methiant cyntaf i ddarparu, neu ddarparu gwybodaeth anwir yn fwriadol
- £280 ail fethiant i ddarparu'r un wybodaeth
- Dechreuwyd achos methdaliad neu ddirwyn i ben
NID yw'r canlynol yn enghreifftiau o amddiffyniadau dilys:
- ni allwch fforddio talu (ond siaradwch â ni a byddwn yn gwneud ein gorau i'ch helpu)
- rydych wedi cyflwyno cais am ostyngiad Treth y Cyngor, disgownt, esemptiad neu ostyngiad arall
- mae gennych apêl heb ei phenderfynu gyda'r Tribiwnlys Prisio ynghylch eich band Treth y Cyngor neu fater arall
- nid ydych wedi derbyn yr hysbysiadau a anfonwyd atoch - nid oes angen i ni brofi eich bod wedi eu derbyn, dim ond eu bod wedi'u hanfon
Beth os na wnaf ddim byd?
Os na fyddwch yn talu nac yn cysylltu â ni, gallwn wneud y canlynol:
- gofyn am Orchymyn Atafaelu Enillion
- defnyddio asiant gorfodi
- gwneud cais am Orchymyn Arwystlo
- dechrau achos methdaliad/diddymiad
Os defnyddir asiantiaid gorfodi (beilïaid) i gasglu swm Treth y Cyngor sy'n ddyledus, codir costau ychwanegol y byddai angen i chi eu talu ar ben yr hyn sy'n ddyledus gennych eisoes a gallai arwain at symud nwyddau o'ch eiddo.
Mae gennym yr hawl i gysylltu â Chyllid a Thollau EF i gael gwybodaeth am eich enillion. Byddwn wedyn yn cysylltu â'ch cyflogwr ac yn gofyn am Orchymyn Atafaelu Enillion. Mae hyn yn golygu y gallwn gymryd taliadau'n uniongyrchol o'ch cyflog. Er enghraifft, os ydych yn ennill £1,200 y mis, gallem adennill £84.00 bob mis. Am ragor o wybodaeth am sut gallwn ei ddidynnu: Rwyf wedi derbyn gorchymyn dyled ar gyfer Treth y Cyngor
Mwy o gymorth
Gallwch gael cefnogaeth neu gyngor annibynnol gan: