Gwasanaethau llyfrgell i blant a phobl ifanc
Mae croeso i blant o bob oedran ymuno â'r llyfrgell a chymryd rhan.
Mae gan bob llyfrgell:
- ardal arbennig ar gyfer plant, gyda phopeth o lyfrau lluniau i nofelau i bobl ifanc
- amrywiaeth eang o lyfrau gwybodaeth i helpu gyda'ch gwaith cartref neu brosiectau
- cyfrifiaduron, mynediad at y rhyngrwyd a gwasanaeth argraffu am ddim yn ystod clwb gwaith cartref
- llyfrau a DVDs i'w benthyca
- digwyddiadau rheolaidd yn ogystal â digwyddiadau arbennig yn ystod y gwyliau a sialens ddarllen yr haf flynyddol
Sylwer: mae'n rhaid i bob plentyn dan 8 oed fod yng nghwmni rhiant neu ofalwr cyfrifol ar bob adeg.
Chwilio drwy gatalog y llyfrgell i blant ar-lein
Dechrau Da
Mae Dechrau Da yn ceisio darparu pecyn o lyfrau am ddim i holl fabanod a phlant bach y DU, i ysbrydoli, sbarduno a chreu cariad at ddarllen a fydd yn rhoi dechrau da mewn bywyd i bob plentyn. Ond yn bennaf oll, rydym eisiau dangos bod llyfrau yn hwyl!
Rhoddir pecyn i bob baban rhwng chwech a naw mis oed a phecyn y Blynyddoedd Cynnar i bob plentyn bach tua dwy flwydd oed. Rhoddir y pecynnau gan Ymwelwyr Iechyd.
Os nad ydych wedi cael pecyn ar gyfer eich plentyn, cysylltwch â'ch Ymwelwyr Iechyd neu eich llyfrgell leol.
Clybiau gwaith cartref
Gwrandewch ar rigymau a chaneuon Cymraeg
Digwyddiadau'r llyfrgell
Tîm y llyfrgell i blant
- Enw
- Tîm y llyfrgell i blant
- E-bost
- llyfrgelloedd.abertawe@abertawe.gov.uk
- Rhif ffôn
- 01792 637503