Maes parcio aml-lawr Dewi Sant
Hysbysiad cau dros dro: Maes Parcio Dewi Sant
Bydd Maes Parcio Dewi Sant ar gau o ddydd Sul 7 Medi 2025 er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.
- Bydd cerbydau sydd wedi'u parcio yn y maes parcio ddydd Sul yn gallu gadael o hyd, ond ni chaniateir mynediad i'r maes parcio o'r dyddiad hwnnw.
- Rydym yn ceisio sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau cyn gynted â phosib a byddwn yn darparu diweddariadau cyn gynted ag y bydd rhagor o wybodaeth ar gael.
- Gall deiliaid tocynnau tymor barcio ym Maes Parcio Aml-lawr y Cwadrant yn ystod y cyfnod cau.
- Mae lleoliadau cyfagos, gan gynnwys yr LC ac Arena Abertawe, wedi cael gwybod am y cynllun i gau'r maes parcio er mwyn helpu i leihau aflonyddwch.
Ymddiheurwn yn ddiffuant am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi ac rydym yn gwerthfawrogi eich dealltwriaeth wrth i ni gyflawni'r gwelliannau angenrheidiol hyn.
I gael diweddariadau pellach, gwiriwch yma neu dilynwch Gyngor Abertawe ar y cyfryngau cymdeithasol.
Meysydd parcio canol y ddinas
- 375 o leoedd
- 38 lle i'r anabl
- 10 lle parcio i riant / blentyn
- talu ac arddangos
- ar agor 24 awr
- cyfyngiad uchder: 1.83m
- nid oes lifft yn y maes parcio hwn
- Sut i dalu i barcio
Amser | Ffi safonol | Bathodyn Glas |
---|---|---|
Hyd at 1 awr | £1.00 | £1.00 |
Hyd at 2 awr | £2.00 | £1.00 |
Hyd at 3 awr | £3.00 | £2.00 |
Hyd at 4 awr | £4.00 | £2.00 |
Hyd at 6 awr | £5.00 | £3.00 |
Hyd at 8 awr | £5.00 | £4.00 |
Hyd at 24 awr | £5.00 | £5.00 |
Dydd Sul | £2.00 | £2.00 |
Parciwch yma ar gyfer
Marchnad Abertawe, LC, siopau canol y ddinas, Sinema Vue a Superbowl, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Amgueddfa Abertawe a lleoedd i fwyta.