Toglo gwelededd dewislen symudol

Mudo i Gredyd Cynhwysol

Symud o fudd-daliadau etifeddol presennol i Gredyd Cynhwysol.

Mudo naturiol a gwirfoddol
Mudo wedi'i reoli
Beth os yw'r 'dyddiad cau' yn cael ei golli?
Pwy sy'n debygol o fod yn waeth eu byd ar CC ac a ddylai aros tan fudo wedi'i reoli?
Grwpiau sydd fwyaf tebygol o fod yn waeth eu byd ar CC

    Cyplau o oed cymysg
    Cyfalaf dros £16,000 a rhwng £6,000 ac £16,000
    Yn derbyn y premiwm anabledd mewn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith
    Yn derbyn y premiwm anabledd difrifol mewn Lwfans Cefnogaeth a Chymorth, Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith
    Hawlwyr Credyd Treth Gwaith sy'n derbyn Elfen Gweithiwr Anabl
    Hawlwyr sy'n derbyn yr elfen plentyn anabl is mewn Credyd Treth Plant
    Hawlwyr sy'n ofalwr ac sydd â gallu cyfyngedig i weithio/ymgymryd â gweithgarwch cysylltiedig â gwaith neu sy'n derbyn premiwm anabledd
    Hawlwyr nad ydynt yn derbyn eu hawl i fudd-daliadau llawn
    Hawlwyr y mae eu hawl i Fudd-dal Tai yn cael ei golli'n llawn oherwydd y cap ar fudd-daliadau
Materion eraill i'w hystyried cyn symud i CC yn wirfoddol
    Gofynion sy'n Ymwneud â'r Gwaith
    Gordaliadau hanesyddol
    Blaensymiau
    Gwneir hawliadau ar-lein fel arfer ac fe'u rheolir drwy ddyddlyfr ar-lein
    Trefniadau Talu Amgen (TTA)

 

Mae polisi a rheoliadau'r llywodraeth yn nodi cynlluniau i bawb sy'n hawlio 'budd-daliadau etifeddol' 'oedran gweithio' e.e. y rheini sy'n hawlio Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm, Credyd Treth Plant, Credyd Treth Gwaith a Budd-dal Tai oedran gweithio, i hawlio Credyd Cynhwysol (CC) yn lle.

Y term a ddefnyddir yw 'mudo' i CC, fodd bynnag ni fydd hawlwyr yn cael eu symud i CC, a bydd yn rhaid iddynt wneud cais amdano.

Mudo naturiol a gwirfoddol

Pan fydd amgylchiadau'n newid gan ddod â hen hawl i ben, ac mae'r hawlydd yn hawlio CC, gelwir hyn yn 'fudo naturiol' i CC.

Pan fo hawlydd ar fudd-dal presennol yn dewis hawlio CC, gelwir hyn yn 'fudo gwirfoddol' i CC. Mae'r hawliad am CC ei hun yn dod â'r hawl i bob budd-dal 'etifeddol' presennol i ben.

Mudo wedi'i reoli

Dyma broses ffurfiol y llywodraeth o roi terfyn ar yr hawl i 'fudd-daliadau etifeddol' a gwahodd hawlwyr i hawlio CC yn lle. Nid oes rhaid i hawlwyr dderbyn y gwahoddiad hwn, ond bydd eu budd-daliadau etifeddol yn dod i ben ni waeth beth ac ni fydd hawliadau newydd ar gyfer y budd-daliadau hynny'n bosib. Mae'r term 'gwahoddiad' felly braidd yn gamarweiniol.

Mae'r broses hon eisoes wedi dechrau ar draws gwahanol rannau o'r DU, a dechreuodd yn Abertawe ym mis Medi 2023.

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi dweud y bydd yr 'hysbysiad mudo' yn cynnwys rhif llinell gymorth benodol i hawlwyr ei ffonio os oes angen cymorth arnynt i wneeud eu hawliad. Bydd hawlwyr sy'n derbyn hysbysiad mudo wedi'i reoli yn cael gwybod am 'ddyddiad cau' o leiaf 3 mis o ddyddiad y llythyr a anofonwyd atynt (hysbysiad mudo) a bydd yn rhaid iddynt wneud hawliad ar gyfer CC erbyn y dyddiad hwn er mwyn osgoi bwlch yn eu hawl i gymorth prawf modd ac i fod yn gymwys ar gyfer 'amddiffyniad wrth bontio' i swm CC sy'n cyfateb i'w hawliad presennol.

Beth os yw'r 'dyddiad cau' yn cael ei golli?

Os caiff y dyddiad cau hwn ei golli, bydd yn bosib o hyd i wneud hawliad o fewn un mis calendr o'r dyddiad cau, ac ôl-ddyddio'r CC yn llawn i'r dyddiad cau gydag amddiffyniad wrth bontio llawn. Mae'n annhebygol y bydd y 'dyddiad cau terfynol' hwn yn cael ei hysbysebu'n eang gan mae'r bwriad yw annog hawlwyr i hawlio cyn y dyddiad cau. Bydd budd-daliadau etifeddol yn dod i ben ar y dyddiad cau ac felly mae bob amser er budd gorau hawliwr i hawlio CC cyn y dyddiad hwnnw.

Mae'r llywodraeth hefyd wedi bod yn annog pobl i wneud symudiad 'gwirfoddol' i CC (gweler uchod), gan nodi eu bod yn credu y gallai llawer o aelwydydd fod yn well eu byd pe byddent yn symud i CC yn syth.

Maent yn nodi eu hesboniad am y polisi hwn yn y ddogfen hon: Completing the move to Universal Credit (GOV.UK) (Yn agor ffenestr newydd)

Ym mis Awst 2023 fe'i diweddarwyd gyda chanfyddiadau o'r broses barhaus.

Cwblhau'r Symud i Gredyd Cynhwysol: learning from initial Tax Credit migrations - GOV.UK (www.gov.uk)

Fel rhan o ymgyrch yr Adran Gwaith a Phensiynau i annog pobl i symud yn wirfoddol i CC, mae gwybodaeth am hawlio CC yn cael ei chynnwys gyda ffurflenni adnewyddu credyd treth eleni: Mae Credydau Treth yn Dod i Ben (Credyd Cynhwysol) (Yn agor ffenestr newydd)

Mae'n bwysig nodi NAD yw'r daflen hon yn hysbysiad mudo.

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau hefyd yn defnyddio sianeli cyfryngau cymdeithasol fel rhan o'u hymgyrch i 'awgrymu' bod pobl yn symud i CC yn wirfoddol.

Mae angen i hawlwyr gael cyngor annibynnol cyn penderfynu symud i Gredyd Cynhwysol yn wirfoddol. Gall cyfrifianellau budd-daliadau ar-lein fod yn gamarweiniol. Felly mae'n bwysig ystyried y materion canlynol os ydych chi'n ystyried symud i CC yn wirfoddol.

Pwy sy'n debygol o fod yn waeth eu byd ar CC ac a ddylai aros tan fudo wedi'i reoli?

Dylai unrhyw un a fydd yn waeth ei fyd ar CC ac nid oes ganddo newid mewn amgylchiadau sy'n golygu bod angen iddo hawlio CC aros tan y 'mudo wedi'i rheoli' ffurfiol a ddisgrifir uchod. Gwiriwch bob amser, nid yw newid mewn amgylchiadau o reidrwydd yn golygu bod budd-daliadau etifeddol yn dod i ben ac felly ni fydd angen hawliad CC bob amser.

Mae mudo wedi'i reoli yn cynnwys amddiffyn wrth bontio, sy'n golygu na fydd y rhan fwyaf o hawlwyr yn waeth eu byd wrth hawlio CC. Mae amddiffyn wrth bontio yn golygu bod swm wedi'i gynnwys yn y cyfrifiad CC i sicrhau nad yw'r swm a dderbynnir yn llai na'r hyn a gawsoch ar fudd-daliadau etifeddol. Mewn nifer bach o achosion sy'n eithaf penodol, nid dyma fydd yr achos yn anffodus.

Bydd yr amddiffyniad hwn yn cael ei leihau os bydd eich 'uchafswm swm' ar gyfer CC, y trothwy y caiff eich incwm arall ei fesur yn ei erbyn, yn cynyddu. Mae'r trothwy hwn ('uchafswm swm' y CC) yn newid yn ôl oedran ac amgylchiadau pobl yn 'nheulu budd-daliadau' yr hawlydd, ac i ystyried pethau fel costau tai a chostau gofal plant. Os yw'r trothwy'n cynyddu oherwydd costau gofal plant cynyddol ni fydd hyn yn lleihau'r amddiffyniad wrth bontio, fodd bynnag mae pob cynnydd arall yn ei ostwng bunt am bunt. Mae hyn yn cynnwys pan fydd eich 'uchafswm swm' CC yn cynyddu ym mis Ebrill fel rhan o'r cynnydd blynyddol mewn budd-daliadau ac os yw'ch elfen costau tai CC yn cynyddu oherwydd cynnydd mewn rhent.

Mae canllawiau'r Llywodraeth ar hawlio CC ar gael ar-lein: Credyd Cynhwysol a Chi (GOV.UK) (Yn agor ffenestr newydd), fodd bynnag, y cyngor gorau yw cael cyngor annibynnol diduedd gan fod pob achos unigol yn wahanol.

Dylai unrhyw un sy'n ystyried symud i CC yn wirfoddol gael gwiriad budd-daliadau a chyngor annibynnol yn gyntaf:

Grwpiau sydd fwyaf tebygol o fod yn waeth eu byd ar CC

Ni fydd pawb sydd wedi'u cynnwys yn yr amgylchiadau isod yn waeth eu byd ar CC. Gwyddom fod llawer o'r cyngor hwn yn gymhleth a dyna pam rydym yn eich annog i gael gwiriad budd-daliadau cynhwysfawr a chyngor cyn symud - ni allwch ddychwelyd i fudd-daliadau etifeddol ar ôl hawlio CC.

Cyplau o oed cymysg

Nid oes cynnydd i bensiynwyr mewn CC - mae cyplau lle mae un aelod o'r cwpl yn iau nag oedran pensiwn fel arfer yn gorfod hawlio CC os yw'r hawliad i fudd-daliadau etifeddol yn dod i ben. I rai cyplau o oed cymysg yr aelod ieuengaf yw'r hawliwr, a byddant yn llawer gwell eu byd nag y byddent ar CC a gallant fod mewn sefyllfa lle gallant hawlio'u budd-dal presennol nes y gallant hawlio Credyd Pensiwn. Dylent osgoi symudiad gwirfoddol i CC heb gyngor priodol yn gyntaf.

Yn anffodus, gall lawer o gyplau oed cymysg 'fudo'n naturiol' i CC. Mae'r rheolau ynghylch cyplau o oed cymysg yn gymhleth a dylid ceisio cyngor bob amser.

Cyfalaf dros £16,000 a rhwng £6,000 ac £16,000

Nid yw hawlwyr ar gredydau treth yn destun terfyn cyfalaf a dim ond yr incwm trethadwy gwirioneddol, uwchlaw swm penodol, o gyfalaf sy'n cael ei ystyried. Nid oes gan hawlwyr sy'n derbyn credydau treth, y mae ganddynt gyfalaf (cynilion, buddsoddiadau, eiddo nad oes unrhyw un yn byw ynddo) o £16,000 neu fwy, hawl i CC. Ni ddylent wneud hawliad gwirfoddol ar gyfer CC gan y bydd CC yn cael ei wrthod. Bydd yr hawliad yn dod â'u hawl i gredyd treth i ben ac ni fydd hawliad newydd yn bosib.

Fodd bynnag, dan 'fudo wedi'i reoli', bydd cyfalaf dros £16,000 yn cael ei ddiystyru ar gyfer hawlwyr credyd treth yn unig ac ni fydd y rheol ynghylch peidio â chael cyfalaf o £16,000 neu fwy ar gyfer CC yn berthnasol. dyma fydd yr achos am 12 mis gan roi hawl gychwynnol i CC ar gyfer yr hawlwyr hyn.

Bydd gan hawlwyr Credyd Treth sydd â chyfalaf rhwng £6,000 a £16,000 'inwm tariff', swm tybiedig o incwm o gyfalaf, a ddidynnwyd yng nghyfrifiad y CC. Mae rheolau incwm tariff ar gyfer CC yn lleihau swm yr hawl i CC ar gyfradd lawer uwch nag y mae'r incwm trethadwy go iawn o log ar gynilion yn lleihau swm y credydau treth. Er y gall 'amddiffyn wrth bontio' ddarparu rhywfaint o amddiffyniad i'r grŵp hwn, mae unrhyw 'elfen drosiannol' a gynhwysir yn agored i gael ei leihau yn y ffordd a ddisgrifir uchod ac mae'r amddiffyniad cyffredinol sy'n caniatâu i hawlwyr gael £16,000 ac uwch wedi'i gyfyngu i 12 mis. Mae hwn yn faes cymhleth.

Yn derbyn y premiwm anabledd mewn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith

Nid oes unrhyw bremiymau anabledd yn CC. Os ydych yn derbyn yr elfen gweithgarwch sy'n gysylltiedig â gwaith neu'r elfen gymorth mewn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, gellir cario hyn drosodd fel yr elfen gallu cyfyngedig i weithio neu'r elfen gallu cyfyngedig ar gyfer gweithgarwch sy'n gysylltiedig â gwaith yn CC ar symudiad gwirfoddol i CC (nid yw hyn bob amser yn digwydd yn gywir, ceisiwch gyngor os na thelir yr elfen).

Bydd yn rhaid i hawlwyr sy'n derbyn unrhyw un o'r premiymau anabledd ar sail derbyn budd-dal anabledd nad ydynt eisoes wedi cael eu hasesu dan yr Asesiwad Gallu i Weitio gyflwyno nodiadau ffitrwydd a phasio'r Asesiad Gallu i Weithio er mwyn derbyn CC ychwanegol oherwydd salwch a / neu broblemau iechyd. Fodd bynnag, ni fydd llawer o hawlwyr y mae'r premiwm anabledd difrifol a'r premiwm anabledd uwch wedi'u cynnwys yng nghyfrifiad eu budd-daliadau etifeddol yn cael eu hamddiffyn yn llawn ar gais gwirfoddol ar gyfer CC.

Yn derbyn y premiwm anabledd difrifol mewn Lwfans Cefnogaeth a Chymorth, Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith

Gall pobl sy'n derbyn y premiwm anabledd difrifol mewn budd-daliadau etifeddol dderbyn yr Elfen PAD Drosiannol os oes ganddynt hawl iddi ar yr adeg mudo gwirfoddol i CC. Nid yw'r elfen ychwanegol hon o CC yn cynyddu pan fydd budd-daliadau'n cynyddu ym mis Ebrill ac mewn llawer o achosion nid yw'n cyfateb i'r symiau a delir mewn budd-daliadau etifeddol.

Mae'r Elfen PAD Drosiannol sydd wedi'i chynnwys ar gyfer y rheini sy'n symud i CC yn wirfoddol yn gostwng yn yr un modd â'r amddiffyniad wrth bontio sy'n berthnasol i fudo wedi'i reoli.

Lle bo'n bosib, dylai hawlwyr aros am fudo wedi'i reoli lle byddant o leiaf yn cael y sym cyfatebol o'u budd etifeddol i ddechrau. Er hynny, mae erydiad amddiffyn wrth bontio dros amser yn y pen draw yn golled wirioneddol i'r grŵp bregus hwn.

Hawlwyr Credyd Treth Gwaith sy'n derbyn Elfen Gweithiwr Anabl

Nid oes dim sy'n gywerth â'r elfen hon i'w gael mewn CC. Yr unig ffordd o dderbyn CC ychwanegol ar gyfer y costau ychwanegol o fod yn weithiwr anabl yw cael eich asesu fel un sydd â gallu cyfyngedig i weithio ac, o ganlyniad, bydd gennych hawl i'r lwfans gwaith a / neu canfyddir bod gennych allu cyfyngedig ar gyfer gweithgarwch cysylltiedig â gwaith i gael yr elfen gallu cyfyngedig ar gyfer gweithgarwch cysylltiedig â gwaith mewn CC.

Os ydych chi'n gwneud symudiad gwirfoddol i CC, gellir asesu bod gennych allu cyfyngedig i weithio / wneud gweithgaredd sy'n gysylltiedig â gwaith dim ond os ydych chi'n ennill dan £722.45 y mis neu os ydych chi'n cael budd-dal anabledd neu y canfuwyd eisoes fod gennych allu cyfyngedig i weithio dan y system CC (e.e. drwy hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth steil newydd) neu y gellir eich trin fel pe bai gennych allu cyfyngedig i weithio dan CC.

Felly, mae'n bwysig i weithwyr anabl sydd ar Gredyd Treth Gwaith gael gwiriad budd-daliadau a chyngor cyn ystyried symud i CC yn wirfoddol.

Hawlwyr sy'n derbyn yr elfen plentyn anabl is mewn Credyd Treth Plant

Mae'r elfen gyfatebol mewn CC yn cael ei thalu ar gyfradd is o'i chymharu â'r gyfradd a delir mewn Credyd Treth Plant (neu fudd-daliadau etifeddol eraill). Cynghorir i chi gael gwiriad budd-daliadau os oes gennych blentyn anabl i wirio na fyddwch yn derbyn llai ar CC.

Hawlwyr sy'n ofalwr ac sydd â gallu cyfyngedig i weithio / ymgymryd â gweithgarwch cysylltiedig â gwaith neu sy'n derbyn premiwm anabledd

Dan fudd-daliadau etifeddol pan fo'r un person yn ofalwr ac yn anabl neu y mae ganddo allu cyfyngedig i weithio, gellir talu'r premiwm gofalwyr a phremiwm anabledd i chi neu'r elfen gweithgarwch sy'n gysylltiedig â gwaith / gymorth ar yr un pryd. Mewn CC os yw'r un person yn ofalwr ac mae ganddo allu cyfyngedig i weithio / weithgarwch sy'n gysylltiedig â gwaith, dim ond yr elfen uchaf o'r ddwy sy'n gynwysedig.

Hawlwyr nad ydynt yn derbyn eu hawl i fudd-daliadau llawn

Ni fydd rhoi budd-daliadau cyfredol mewn cyfrifiannell ar-lein yn dangos a fyddech yn well eich byd ar CC os nad ydych yn hawlio'r holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.

Mae un o'r astudiaethau achos y cyfeirir atynt ym mhapur polisi'r Adran Gwaith a Phensiynau yn crybwyll mai un hawlydd yn unig sy'n derbyn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn y grŵp cymorth sy'n well ei fyd ar CC. Mae hyn yn gywir, fodd bynnag, cyn awgrymu symud i CC, pe bai'r hawlydd hwn wedi derbyn cyngor annibynnol, gellir awgrymu y gallai fod ganddo hawl i gael Taliad Annibyniaeth Personol ac os dyfernir hwn iddo efallai y bydd ganddo hawl i'r premiwm anabledd difrifol gael ei gynnwys yn y cyfrifiad o'i Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm. Bydd p'un a fyddai hyn yn berthnasol i chi yn dibynnu ar sut mae eich iechyd neu anabledd yn effeithio arnoch. Dylai unrhyw un yn y sefyllfa hon sy'n ystyried symud i UC yn wirfoddol ystyried hyn yn gyntaf.

Mae'r cyngor hwn i fwyafu'r buddion etifeddol i'r swm y dylent fod cyn symud i CC hefyd yn bwysig er mwyn sicrhau bod yr amddiffyniad wrth bontio mwyaf posib ar gael ar y pwynt y mae'r mudo wedi'i reoli yn digwydd.

Hawlwyr y mae eu hawl i Fudd-dal Tai yn cael ei golli'n llawn oherwydd y cap ar fudd-daliadau

Dan fudd-daliadau etifeddol mae'r cap ar fudd-daliadau (cyfanswm y budd-daliadau y gall teulu ei dderbyn) yn berthnasol i fudd-dal tai yn unig. Os caiff eich hawl i fudd-dal tai ei leihau i ddim oherwydd y cap ar fudd-daliadau, efallai y byddwch ar eich colled ar CC lle gellir lleihau'r dyfarniad cyfan, nid eich costau tai yn unig, i'r lefel cap ar fudd-daliadau.

Os ydy'r cap ar fudd-daliadau wedi effeithio arnoch, gofynnwch am gyngor i weld a allech gael eich eithrio neu a allech wneud cais am daliad tai dewisol.

Materion eraill i'w hystyried cyn symud i CC yn wirfoddol

Mae ystyriaethau eraill ar wahân i'r uchafswm CC y gallech fod â hawl iddo y dylech fod yn ymwybodol ohonynt er mwyn gwneud dewis cwbl wybodus ynghylch p'un a ddylid symud yn wirfoddol i CC ai peidio.

Gofynion sy'n Ymwneud â'r Gwaith

I hawlio CC, mae angen i'r ddau aelod o gwpl lofnodi 'ymrwymiad hawlydd' sy'n nodi'ch cyfrifoldebau a pha 'ofynion sy'n gysylltiedig â gwaith' fydd yn berthnasol. Yn wahanol i fudd-daliadau etifeddol, pan nad oes gan bartner hawlydd unrhyw ofynion neu mae ganddo ofynion cyfyngedig, dan CC mae'r ddau aelod o gwpl yn 'hawlydd' ac mae ganddynt ofynion unigol 'wy'n gysylltiedig â gwaith' yn unol â'u hamgylchiadau.

Mae gan Gyngor ar Bopeth arweiniad i helpu i wirio a ydych yn y grŵp gweithgarwch sy'n gysylltiedig â gwaith CC cywir: Check you’re in the right Universal Credit work-related activity group (Citizens Advice) (Yn agor ffenestr newydd)

Gordaliadau hanesyddol

Mae hwn yn broblem a all ddod i'r amlwg wrth wneud hawliad newydd am CC, gelir adennill hen ordaliad, nad oeddech yn gwybod dim amdano, o CC. Mae hyn yn arbennig o broblem os nad ydych bellach yn derbyn credydau treth ond rydych wedi gwneud yn flaenorol. Efallai yr oeddech yn hollol anymwybodol o ordaliad credyd treth yn y gorffennol.

Blaensymiau

Er ei bod yn bosib gofyn am 'flaensymiau' o CC pan fyddwch yn hawlio, a gall y taliad hwn wneud y trosglwyddiad i daliadau CC misol yn haws, caiff blaenswm ei adennill o daliadau CC parhaus sy'n golygu llai i fyw arno bob mis.

Os ydych yn ystyried symud i CC yn wirfoddol, mae'n werth gwybod os yw hawl i Fudd-dal Tai, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag incwm yn dal i gael eu talu pan fydd CC yn cael ei hawlio, bydd yr hawlogaeth yn dod i ben yn dechnegol ar y dyddiad yr hawlir CC, ond dylai fod pythefnos yn ychwanegol o'r budd-daliadau hyn nad ydynt yn ad-daladwy yn cael eu talu'n awtomatig ac ni fyddant yn cael eu didynnu o CC. Gallai hyn bontio'r bwlch yn ddigon i osgoi neu ofyn am flaenswm is. Ni fydd credydau treth yn parhau i gael eu talu wrth hawlio CC. Mae'r rheolau taliad ychwanegol hyn hefyd yn berthnasol i 'fudo wedi'i reoli' ac yn golygu bod cynllunio'r amser gorau i wneud yr hawliad CC yn bwysig.

Gwneir hawliadau ar-lein fel arfer ac fe'u rheolir drwy ddyddlyfr ar-lein

Er bod hyn yn ei gwneud yn haws neu'n well i rai hawlwyr, bydd rhai'n cael trafferth gyda hawliad ar-lein. Gellir gwneud hawliadau dros y ffôn mewn amgylchiadau eithriadol ac mae tystiolaeth o dreial mudo wedi'i reoli yn dangos bod canran llawer uwch na'r hyn a ddisgwylir fel arfer gan Yr Adran Gwaith a Phensynau wedi gwneud hawliadau dros y ffôn, ac wedi cael cymorth a chefnogaeth i wneud hynny. Gwneir y rhan fwyaf o hawliadau ar-lein, fodd bynnag mae'n bwysig cael cyngor i benderfynu os yw hawliad dros y ffôn, sy'n golygu bod yr hawliad yn cael ei reoli dros y ffôn ac yn ysgrifenedig, yn angenrheidiol neu'n well.

Gall ein Tîm Dysgu Gydol Oes helpu pobl i fynd ar-lein ac mae ganddynt gyrsiau ar sgiliau TG a llythrennedd digidol: Addysg i oedolion - Dysgu Gydol Oes.

Mae gan bob un o'n llyfrgelloedd fynediad am ddim at gyfrifiadur a wifi: Llyfrgelloedd

Gall Cyngor ar Bopeth helpu pobl i wneud cais am CC.

Trefniadau Talu Amgen (TTA)

Mae'n bwysig cofio y gall pobl sy'n hawlio CC ofyn am drefniadau talu amgen os bydd hyn yn eich helpu i reoli eich arian yn well a'ch bod mewn perygl o niwed ariannol drwy dderbyn un taliad misol gan gynnwys costau tai.

Gellir gofyn am Drefniant Talu Amgen i:

  • dalu costau tai Credyd Cynhwysol fel Taliad a Reolir (TR) yn uniongyrchol i'r landlord
  • i gael tâl yn amlach na thalliadau misol
  • rhannu taliad sydd wedi'i ddyfarnu rhwng partneriaid.

Mae'r arweiniad ar Drefniadau Talu Amgen ar gael yma: Trefniadau Talu Amgen (GOV.UK) (Yn agor ffenestr newydd)

Bydd rhai pobl yn well eu byd yn hawlio CC a chyda'r cynnydd presennol mewn costau byw nid ydym am eich atal os bydd hyn yn cynyddu eich incwm, rydym ond am sicrhau eich bod yn cael eich hysbysu'n llawn.

Close Dewis iaith