Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Parc Singleton

Ymweliad hanfodol i deuluoedd o bob oedran. Mae gan Barc Singleton erwau o wyrddni diaddurn syml.

Hanes

Yn 1847 prynodd John Henry Vivian ty Feranda ar gyfer ei fab Henry Hussey Vivian a'i wraig Jessie. O fewn blwyddyn by farw Jessie tra'n rhoi genediagaeth i'w mab. Roedd Henry'n torri ei gallon a phenderfynodd peidio â byw yn y ty ac erbyn 1853 dim ond y porthdy oedd yn weddill gan fod rhan fwyaf o'r Feranda wedi ei ddymchwel. Adeiladwyd Eglwys San Paul yn Sgeti er cof am Jessie. Roedd Stad Singleton fel y'u hadnabyddid erbyn hynny wedi cyfuno rhyw 12 o ffermydd gan grynhoi mwy na 250 o erwau. Erbyn 1851 roedd yr Ardd Waliau wedi ei throi yn gegin ac yn ardd flodau at ddibenion y teulu Vivian.

Prynodd y Cyngor Bwrdeistref Sirol ystadau Singleton yn 1919 i'w ddefnyddio fel parc cyhoeddus. Daniel Bliss a hyfforddwyd yng ngerddi Kew, oedd yr ysgogwr pennaf i brynu Stad Singleton, ac fe ddechreuodd oruchwylio'e trawsnewidiadau i'r parc ac i'r gerddi yn gynnar yn 1920. Ei weledigaeth a'i gynlluniau ef sydd i'w gweld yn bennaf yng nghynllun y gerddi.

Cyfleusterau

Cyfeiriadau 

O Ganol y Ddinas, ewch ar hyd Heol Ystumllwynarth A4067. 

Côd Post - SA2 8PY