Perfformiad a gwelliant
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau rheoli perfformiad i fodloni gofynion y Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 a'r Fframwaith Mesur Perfformiad Cenedlaethol.
Cliciwch ar unrhyw un o'r canlynol am wybodaeth bellach neu cysylltwch â'r Cyngor drwy e-bost: improvement@swansea.gov.uk.
Adolygiad perfformiad blynyddol
Hunanasesiad y cyngor ar ei berfformiad wrth gyflwyno blaenoriaethau a amlinellir yng Nghynllun Gwella Corfforaethol 2023-24 yw Adolygiad Perfformiad Blynyddol.
Archif perfformiad
Gwybodaeth am berfformiad amrywiol sydd wedi cael ei gyhoeddi yn y blynyddoedd blaenorol.
Adroddiadau monitro perfformiad - blynyddol a chwarterol
Mae'r adroddiad monitro perfformiad yn dangos cynnydd Cyngor Abertawe wrth iddo gyflawni ei amcanion ar gyfer y blaenoriaethau allweddol a ddisgrifir yn y Cynllun Corfforaethol.
Adroddiad adolygu gan gymheiriaid CLlLC
Darparodd CLlLC adolygiad cymheiriaid ar gyfer y cyngor yn ystod hydref 2014 cyn asesiad corfforaethol Swyddfa Archwilio Cymru.
Rheoli Risg Corfforaethol
Mae nodi a rheoli risg yn hanfodol wrth wella gwasanaethau'r cyngor a gwella atebolrwydd, yn ogystal â sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau a gweithdrefnau ffurfiol.
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
Mae diwallu anghenion y presennol gan ddiogelu anghenion cenedlaethau'r dyfodol yn egwyddor sydd wrth wraidd pob penderfyniad a wneir gan Gyngor Abertawe.
Hunanasesu a gwella yng Nghyngor Abertawe
Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021yn rhoi dyletswydd ar Gyngor Abertawe i barhau i adolygu ei berfformiad. Un ffordd o wneud hwn yw trwy ymgynghori â phobl leol, undebau, staff a busnesau bob blwyddyn.
Goblygiadau Asesiad Integredig
Mae'r Cyngor yn ddarostyngedig i'r Ddeddf Cydraddoldeb (Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a'r ddyletswydd gymdeithasol-economaidd), Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Mesur y Gymraeg (Cymru), ac mae'n rhaid iddo, wrth arfer ei swyddogaethau, roi sylw dyledus i'r angen i:
Cynllun gwella corfforaethol
Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob Cyngor i gyhoeddi ei gynlluniau ar gyfer gwella'r hyn a wna a sut mae'n ei wneud. Pwrpas y cynllun hwn yw nodi blaenoriaethau allweddol y Cyngor ar gyfer gwella dros y pedair blynedd nesaf.
Addaswyd diwethaf ar 21 Medi 2021