Toglo gwelededd dewislen symudol

Poblogaeth

Ystadegau am boblogaeth ac aelwydydd - amcangyfrifon poblogaeth, tueddiadau diweddar, data ardaloedd bach, dwysedd, amcangyfrifon aelwydydd, rhagamcanion poblogaeth ac aelwydydd.

Yr amcangyfrif swyddogol diweddaraf o boblogaeth Dinas a Sir Abertawe yw 246,700 (amcangyfrif canol blwyddyn 2023, Swyddfa Ystadegau Gwladol) 

Dyma'r drydedd amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn blynyddol a gyhoeddwyd gan y SYG ers Cyfrifiad 2021. Maent yn cynrychioli poblogaeth amcangyfrifedig Abertawe ar 30 Mehefin 2023, sy'n rhoi cyfrif am enedigaethau, marwolaethau a newidiadau mudo amcangyfrifedig dros y flwyddyn. Mae'r amcangyfrif diweddaraf yn dangos twf poblogaeth cyffredinol o oddeutu 4,700 (+1.9%) yn Abertawe ers canol 2022.  Fel rhan o'r datganiad hwn, mae'r amcangyfrifon gwreiddiol ar gyfer canol 2022 wedi cael eu diwygio gan y SYG i gyfrif am amcangyfrifon diweddaredig mudo rhyngwladol.

Mae rhagor o wybodaeth am yr amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer Abertawe, gan gynnwys dadansoddiadau yn ôl oedran a rhyw, elfennau newid a data ar gyfer awdurdodau lleol eraill yng Nghymru ar gael mewn nodyn briffio:  Poblogaeth Abertawe 2023 (PDF, 1 MB)

Mae ffeil ddata ar gael sy'n cynnwys poblogaeth fesul blynyddoedd sengl ac wedi'u grwpio, i alluogi cyfrifiadau a dadansoddiadau pellach:  Poblogaeth Abertawe canol 2023 (Excel doc, 53 KB)

Mae mwy o wybodaeth am y boblogaeth a'r ddemograffeg ar y tudalennau canlynol: 

Os oes gennych fwy o ymholiadau ynghylch ystadegau poblogaeth Abertawe, cysylltwch â ni.

Tueddiadau Poblogaeth Diweddar

Dadansoddiad o newid demograffig tymor hwy yn Abertawe gan ddefnyddio'r amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn.

Amcangyfrifon poblogaeth ardaloedd fach

Mae amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer ardaloedd bach yn Abertawe'n cael eu cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol (SYC).

Dwysedd poblogaeth

Ystadegau poblogaeth Abertawe ac ardaloedd lleol.

Amcangyfrifon Aelwydydd

Cyhoeddir yr amcangyfrifon blynyddol o aelwydydd yn ôl ardal awdurdod lleol gan Lywodraeth Cymru.

Rhagamcanion Poblogaeth ac Aelwydydd

Amcanestyniadau Poblogaeth ac Aelwydydd ar gyfer Abertawe (Llywodraeth Cymru, yn seiliedig ar 2018).

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 03 Ionawr 2025