Gwneud cais am Drwydded Mangre newydd: Pecyn gwybodaeth Deddf Trwyddedu 2003
Trwydded mangre: Cynllun o'r fangre
Wrth gyflwyno eich cais, bydd angen i chi hefyd gyflwyno cynllun o'r fangre ar raddfa o 1:100. Gall hwn fod yn gynllun wedi'i lunio a llaw neu gyfrifiadur.
RHAID i'r cynllun ddangos -
Bydd angen i'r cynllun ddangos pob un o'r canlynol:
- graddau terfyn yr adeilad, os yw hynny'n berthnasol, a holl waliau mewnol ac allanol yr adeilad a pherimedr y safle, os yw hynny'n wahanol;
- lleoliad mynedfeydd ac allanfeydd y safle;
- os bydd y safle'n cael ei ddefnyddio ar gyfer mwy nag un gweithgaredd trwyddedadwy, y rhan o'r safle a ddefnyddir ar gyfer pob gweithgaredd;
- lleoliad strwythurau sefydlog (gan gynnwys dodrefn) a allai effeithio ar allu unigolion ar y safle i ddefnyddio allanfeydd neu lwybrau dianc yn ddirwystr;
- os yw'r safle'n cynnwys llwyfan neu fan uchel, lleoliad ac uchder pob llwyfan neu fan o'i gymharu â'r llawr;
- os yw'r safle'n cynnwys unrhyw risiau neu lifftiau, lleoliad y grisiau neu'r lifftiau hynny;
- os yw'r safle'n cynnwys ystafell neu ystafelloedd sy'n cynnwys cyfleusterau cyhoeddus, lleoliad yr ystafell neu'r ystafelloedd hynny;
- y mathau o offer diogelwch rhag tân ac unrhyw offer diogelwch arall a'u lleoliad; a
- lleoliad y gegin ar y safle, os oes un.
Os defnyddir symbolau i nodi eitemau ar gynllun, sicrhewch eu bod yn cael eu disgrifio mewn allwedd briodol.
Blaen
:
Trwydded mangre: Esboniad o'r broses ar gyfer gwneud cais am drwydded mangre newydd
Nesaf
:
Trwydded mangre: Cost y drwydded
