Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Sut mae dewis gwasanaeth gofal plant

Cysylltwch â chymaint o ddarparwr gofal plant â phosibl cyn penderfynu ar yr un gorau i chi a'ch plentyn.

Hefyd, gofynnwch i'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe (GGD) pa ddarparwyr sydd wedi'u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) (Yn agor ffenestr newydd)

Gallai'r cwestiynau canlynol fod yn ddefnyddiol wrth ystyried beth sy'n bwysig i chi mewn gwasanaeth gofal plant:

  • A yw'r gwasanaeth yn groesawus?
  • A yw'n lle sy'n mynd i ysgogi plant?
  • Pa gyfleusterau sydd yno?
  • A yw'n ofalgar?
  • Beth am y staff?
  • A yw'r gofal plant ar gael yn ystod oriau addas i'ch anghenion chi?
  • A ydynt yn darparu bwyd, clytiau ac ati neu a fydd gofyn i chi eu darparu?
  • Beth yw'r gost?
  • A oes lle ar gael i'ch plentyn?

I gael help, cysylltwch â'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe (GGD)

Ar ôl i chi ddod o hyd i wasanaeth gofal plant wrth eich bodd, rhowch gynnig ar gyfnod setlo, gyda rhai ymweliadau byr i chi a'ch plentyn. Bydd hyn yn eich helpu i deimlo'n fwy hyderus a thawel eich meddwl.

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn gytundeb rhyngwladol sy'n hyrwyddo hawliau dynol plant dan 18 oed. Mae gan bob un sy'n gofalu am blant neu sy'n gweithio gyda phlant swyddogaeth i'w chwarae i gydnabod hawliau plant a'u cynorthwyo i gyflawni eu potensial fel unigolion. Gyda'i gilydd, mae holl erthyglau Erthyglau CCUHP wedi'u symleiddio (Yn agor ffenestr newydd) yn cyfrannu at sicrhau bod plant yn cael eu diogelu, eu meithrin a'u trin â pharch. Mae CCUHP hefyd yn cydnabod ac yn cefnogi swyddogaeth rhieni wrth fagu eu plant.

 

Mathau o ofal plant (wedi'u cofrestru a heb eu cofrestru)

Mae'n rhaid i bawb sy'n darparu gofal plant am dâl i blant dan 8 oed am fwy na 2 awr y dydd gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru.

Gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru

Gofal plant wedi'i ariannu i blant 3 i 4 oed.
Close Dewis iaith