Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Sut i dalu i barcio

Gwybodaeth am y gwahanol ffyrdd y gallwch dalu i barcio.

Mae pob un o'n meysydd parcio'n rhai talu ac arddangos, ac eithrio meysydd parcio aml-lawr Bae Copr, y Stryd Fawr a'r Cwadrant. 

Yn y meysydd parcio talu ac arddangos, bydd angen i chi dalu i barcio wrth i chi gyrraedd. Ar gyfer y meysydd parcio nad ydynt yn rhai talu ac arddangos, rydych yn talu wrth i chi adael y maes parcio.

Drwy ap MiPermit - meysydd parcio talu ac arddangos yn unig

Mae ap MiPermit ar gael i'w lawrlwytho ar ddyfeisiau Android ac Apple ac mae'n caniatáu i chi dalu i barcio heb fod angen i chi fynd i'r peiriant parcio yn y maes parcio.

Os ydych yn byw yn Abertawe, er mwyn elwa o'r cynnig i breswylwyr bydd angen i chi wneud cais am hawlen pris arbennig i breswylwyr ar yr ap. Bydd hyn yn cymhwyso'r gostyngiad i breswylwyr wrth i chi dalu i barcio yn y dyfodol.

Rhai manteision defnyddio'r ap MiPermit:

  • mae'n gyflym ac yn hawdd i'w ddefnyddio
  • mae'n ddi-bapur
  • os ydych yn bwriadu aros am gyfnod hwy, gallwch ychwanegu amser at eich arhosiad drwy fynd ar yr ap yn hytrach na dychwelyd i'r maes parcio i wneud hynny

Hafan MiPermit Abertawe (Yn agor ffenestr newydd)

Wrth y peiriant

Gallwch dalu i barcio drwy ddefnyddio technoleg ddigyffwrdd, cardiau neu arian parod.

Meysydd parcio canol y ddinas - talu ac arddangos

Mae rhai peiriannau wedi'u pweru ag ynni'r haul felly efallai y bydd angen i chi wasgu'r botwm gwyn i gychwyn y peiriant cyn i chi ddechrau.

Taliad arian parod

  1. Gwasgwch y botwm melyn i newid yr iaith o'r Gymraeg i'r Saesneg (os mai Saesneg yw eich iaith ddewisol)
  2. Defnyddiwch y botymau +/- glas i ddewis tariff os oes gennych Fathodyn Glas (ewch i bwynt 3 os ydych yn talu'r tariff safonol)
  3. Mewnosodwch eich rhif cofrestru cerbyd
  4. Mewnosodwch arian parod

Taliadau cerdyn

  4. Gwasgwch y botwm cerdyn gwyn
  5. Defnyddiwch y botymau + glas i ddewis tariff
  6. Gwasgwch y botwm tic gwyrdd ar ôl i chi ddewis y tariff cywir
  7. Dewiswch a ydych chi eisiau derbynneb neu beidio
  8. Dilynwch y cyfarwyddiadau arferol ar gyfer talu â cherdyn

Cilfachau parcio ar y stryd - talu ac arddangos

Mae rhai peiriannau wedi'u pweru ag ynni'r haul felly efallai y bydd angen i chi wasgu'r botwm gwyn i gychwyn y peiriant cyn i chi ddechrau.

Taliad arian parod

  1. Gwasgwch y botwm melyn i newid yr iaith o'r Gymraeg i'r Saesneg (os mai Saesneg yw eich iaith ddewisol)
  2. Mewnosodwch eich rhif cofrestru cerbyd
  3. Mewnosodwch arian parod

Taliadau cerdyn

  1. Gwasgwch y botwm melyn i newid yr iaith o'r Gymraeg i'r Saesneg (os mai Saesneg yw eich iaith ddewisol)
  2. Mewnosodwch eich rhif cofrestru cerbyd
  3. Gwasgwch y botwm cerdyn gwyn
  4. Defnyddiwch y botymau + glas i ddewis tariff
  5. Gwasgwch y botwm tic gwyrdd ar ôl i chi ddewis y tariff cywir
  6. Dewiswch a ydych chi eisiau derbynneb neu beidio
  7. Dilynwch y cyfarwyddiadau arferol ar gyfer talu â cherdyn

Meysydd parcio'r traeth a'r promenâd - talu ac arddangos

Mae rhai peiriannau wedi'u pweru ag ynni'r haul felly efallai y bydd angen i chi wasgu'r botwm gwyn i gychwyn y peiriant cyn i chi ddechrau.

Taliad arian parod

  1. Gwasgwch y botwm melyn i newid yr iaith o'r Gymraeg i'r Saesneg (os mai Saesneg yw eich iaith ddewisol)
  2. Defnyddiwch y botymau +/- glas i ddewis tariff (opsiynau Bathodyn Glas a phreswylydd ar gael yma)
  3. Mewnosodwch eich rhif cofrestru cerbyd
  4. Mewnosodwch arian parod

Taliadau cerdyn

  1. Gwasgwch y botwm melyn i newid yr iaith o'r Gymraeg i'r Saesneg (os mai Saesneg yw eich iaith ddewisol)
  2. Defnyddiwch y botymau +/- glas i ddewis tariff (opsiynau Bathodyn Glas a phreswylydd ar gael yma)
  3. Mewnosodwch eich rhif cofrestru cerbyd
  4. Gwasgwch y botwm cerdyn gwyn
  5. Defnyddiwch y botymau + glas i ddewis tariff
  6. Gwasgwch y botwm tic gwyrdd ar ôl i chi ddewis y tariff cywir (gan gynnwys y gostyngiad i breswylwyr)
  7. Dewiswch a ydych chi eisiau derbynneb neu beidio
  8. Dilynwch y cyfarwyddiadau arferol ar gyfer talu â cherdyn

Enghraifft o fysellbad peiriant talu ac arddangos

Parking machine keyboard.

Talu wrth ddychwelyd i'ch car

Mae hyn yn berthnasol i feysydd parcio aml-lawr Bae Copr, y Stryd Fawr a'r Cwadrant lle mae technoleg adnabod rhifau cerbydau yn awtomatig (ANPR) yn nodi rhif cofrestru'r cerbyd wrth i chi yrru i mewn i'r maes parcio, gan gyfrifo cyfanswm hyd eich arhosiad yn y maes parcio wrth i chi yrru allan.

Gallwch naill ai:

  • dalu yn y peiriant pan fyddwch yn dychwelyd i'r maes parcio drwy nodi rhif cofrestru'r cerbyd yn y peiriant, neu
  • drwy dalu gyda cherdyn wrth i chi yrru drwy atalfa'r allanfa - drwy dalu fel hyn ni fyddwch yn gallu dewis unrhyw un o'r ffïoedd gostyngol a all fod yn berthnasol yn y maes parcio (fel ffi i breswylwyr ym maes parcio Bae Copr)

Ad-daliadau

Os hoffech wneud cais am ad-daliad oherwydd problem â pheiriant talu - e-bostiwch parking.refunds@abertawe.gov.uk neu anfonwch lythyr i'r Gwasanaethau Parcio, Blwch Post 588, Abertawe SA1 9GD.

Bydd angen cynnwys esboniad manwl sy'n nodi'ch rheswm dros wneud cais am ad-daliad. Sylwer ni roddir ad-daliadau am ordaliadau oni bai bod problem gyda'r peiriant.

Rhowch eich enw a'ch cyfeiriad llawn gan nad oes modd ad-dalu i gerdyn bob tro, ac efallai bydd rhaid anfon siec.

Gwneir gwiriadau, at ddibenion archwiliad, i sicrhau bod modd rhoi'r ad-daliad. Os nad yw'n bosib rhoi ad-daliad byddwch yn derbyn ymateb yn ogystal ag esboniad llawn.

Close Dewis iaith