Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhybudd tywydd coch - Storm Darragh

Gwybodaeth am newidiadau i wasanaethau'r cyngor a chau lleoliadau ac atyniadau yn ystod cyfnod y rhybudd tywydd coch.

Eithriad / gostyngiad Treth y Cyngor i fyfyriwr

Bydd myfyrwyr amser llawn naill ai wedi'u heithrio'n gyfan gwbl o Dreth y Cyngor neu gallant fod yn gymwys ar gyfer gostyngiad.

Oes angen i chi dalu Treth y Cyngor?
Dwi'n fyfyriwrYdw i'n talu Treth y Cyngor?
Byw'n amser llawn mewn neuadd breswylNac oes
Byw'n amser llawn oddi ar y campws ac yn rhannu â phobl y mae pob un yn fyfyriwrNac oes
Byw'n amser llawn oddi ar y campws ac yn rhannu â rhai myfyrwyr ac eraill nad ydynt yn fyfyrwyrOs oes un person yn unig nad yw'n myfyriwr, gall yr aelwyd wneud cais am ostyngiad.
Os oes mwy nag un person yn yr eiddo nad yw'n fyfyriwr, ni ellir rhoi gostyngiad.
Myfyriwr rhan-amserOes, mae'n rhaid i fyfyrwyr rhan-amser dalu Treth y Cyngor

Os ydych yn mynd i un o'r canlynol caiff rhestr o fyfyrwyr ei hanfon atom bob blwyddyn academaidd:

  • Prifysgol Abertawe

Os ydych yn mynd i sefydliad addysgol arall, bydd angen i ni weld copi o'ch tystysgrif myfyriwr treth y cyngor. Gallwch gael copi gan y swyddfa gweinyddiaeth yn eich sefydliad.

Cyflwyno Cais am Ostyngiadau neu Eithriadau Treth y Cyngor i Fyfyrwyr Cyflwyno Cais am Ostyngiadau neu Eithriadau Treth y Cyngor i Fyfyrwyr

 

Cwestiynau cyffredin myfyrwyr

Ydw i'n fyfyriwr amser llawn?

Yn gyffredinol, er mwyn cael eich ystyried fel myfyriwr amser llawn, mae'n rhaid i'ch cwrs:

  • bara o leiaf am flwyddyn
  • cynnwys o leiaf 21 awr o astudio'r wythnos.

Os ydych yn astudio ar gyfer cymhwyster hyd at Safon Uwch ac rydych dan 20 oed, mae'n rhaid i'ch cwrs:

  • bara am o leiaf dri mis
  • cynnwys o leiaf 12 awr o astudio'r wythnos.

Gall hyn gynnwys NVQ.

Dwi'n fyfyriwr tramor

Os ydych yn fyfyriwr tramor, efallai y bydd gennych hawl i ostyngiad Treth y Cyngor.

Mae'n bwysig iawn i chi ddweud wrth y cyngor eich bod yn fyfyriwr ac y rhoddir prawf o hyn megis copi o'ch tystysgrif myfyriwr.

Bydd angen i chi wneud cais am y gostyngiad drwy'r ddolen uchod ac atodi copi o'ch tystysgrif.Os na allwch atodi'ch tystysgrif myfyriwr wrth lenwi'r ffurflen ar-lein, gallwch ei hanfon atom drwy e-bost yn trethycyngor@abertawe.gov.uk yn ddiweddarach, cyn gynted ag y bydd ar gael gennych.

Os oes gennych bartner nad yw'n Brydeinig, bydd yr eithriad ar gyfer y ddau ohonoch ar yr amod y darperir pasbort eich partner sy'n dangos yr ardystiad "Dim hawl i arian cyhoeddus". Dewch â'r pasbort i ni yn y Ganolfan Ddinesig (peidiwch â'i bostio) fel y gallwn gymryd copi ar gyfer ein cofnodion i gadarnhau statws eich partner.

Os nad oes gennych bartner yn byw gyda chi, does dim angen i chi roi eich pasbort i ni.

Cofiwch, os na chysylltwch â ni, efallai y cewch fil Treth y Cyngor am y swm llawn.

Faint yw fy nghyfran i o Dreth Gyngor?

Os oes treth y cyngor i'w thalu ar ôl caniatáu'r gostyngiadau priodol, mae'r holl bobl a enwir ar y bil yn atebol am ei dalu. Yr unigolion a'r cyd-denantiaid/cyd-berchnogion sy'n penderfynu sut mae rhannu'r bil hwn.

Os na thelir rhywfaint o Dreth y Cyngor, bydd yr holl bobl a enwir ar y bil yn gydatebol am dalu'r ddyled hon, hyd yn oed os ydynt eisoes wedi talu'r hyn maent yn ystyried yw eu cyfran nhw.

Beth os rwyf yn dechrau rhentu cyn bod fy nghwrs yn dechrau?

Mae'n gyffredin i fyfyrwyr gadw lle mewn eiddo cyn i'r cwrs ddechrau. Dywedwch wrthym eich bod yn fyfyriwr a ble rydych yn astudio. Hefyd eich bod dim ond wedi rhentu eiddo fel y gallwch astudio yn Abertawe.

Os yw'ch tenantiaeth yn dechrau ychydig yn gynt na'ch cwrs, yna dylid ôl-ddyddio unrhyw eithriad neu ostyngiad a roddwyd i ddechrau eich tenantiaeth unwaith rydym wedi gweld y prawf angenrheidiol o'ch statws fel myfyriwr.

Cofiwch os nad ydych yn cysylltu â ni, byddwch yn derbyn bil treth y cyngor am y swm llawn.

Cyflwyno Cais am Ostyngiadau neu Eithriadau Treth y Cyngor i Fyfyrwyr

Er mwyn cymhwyso am eithriad i fyfyriwr, mae'n rhaid i bob preswylydd fod yn fyfyriwr.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 08 Chwefror 2023