Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Ymddygiad gwrthgymdeithasol

Ymddygiad gwrthgymdeithasol yw pan fydd rhywun neu grwpiau o bobl yn ymddwyn mewn ffordd sy'n achosi aflonyddwch, braw neu ofid i eraill.

Diffiniad y gyfraith o ymddygiad gwrthgymdeithasol yw:

'Sefyllfa lle mae rhywun wedi ymddwyn mewn modd a oedd yn achosi neu a oedd yn debygol o achosi aflonyddwch, braw neu ofid i rywun neu rywrai nad yw/ydynt yn byw yn yr un cartref ag ef/hi. Mae'r math hwn o ymddygiad yn cynnwys ymddygiad afreolus a meddw, tipio anghyfreithlon, graffiti, iaith fygythiol ac ymosodol, trais yn y cartref a llawer o fathau eraill o ymddygiad sy'n atal eraill rhag mwynhau bywyd arferol.'

Mae llawer o fathau gwahanol o ymddygiad gwrthgymdeithasol, a weithiau gall anghydfodau cymharol fach rhwng cymdogion ddwysáu'n ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gynnwys:

  • aflonyddu: troseddau casineb, camdriniaeth eiriol, bwlio
  • swn: anifeiliaid megis cwn yn cyfarth, larymau car ac eiddo, swn setiau teledu / stereos yn rhy uchel, tân gwyllt, partïon a cherddoriaeth uchel, DIY, rhedeg busnes o'r cartref
  • parcio: cerbydau wedi'u gadael, rhwystrau, parcio peryglus, carafanau neu gerbydau nwyddau trwm
  • niwsans: grwpiau'n ymgasglu, fandaliaeth, graffiti, tân gwyllt, dwyn ceir / beiciau, aflonyddu
  • defnyddio a gwerthu sylweddau anghyfreithlon fel cyffuriau
  • mathau eraill: tipio anghyfreithlon, gerddi wedi'u hesgeuluso a gordyfiant, baw cwn, anifeiliaid yn crwydro

Beth nad yw'n ymddygiad gwrthgymdeithasol?

Gall rhai gweithredoedd beri poendod ond nid ydynt yn cael eu hystyried yn wrthgymdeithasol oni bai eu bod yn digwydd yn gyson neu'n dwysáu i fathau eraill o niwsans.

  • swn plant yn chwarae
  • gwahaniaethau personol
  • swn byw arferol megis drysau'n cau'n glep, tynnu dŵr toiledau etc.

Beth gallwch ei wneud amdano?

Gallwch roi gwybod am y digwyddiad i'r awdurdod perthnasol:

Gallwch hefyd gymryd camau cyfreithiol preifat.

Beth sy'n cael ei wneud am ymddygiad gwrthgymdeithasol?

Rydym yn gweithredu yn unol â Phartneriaeth Abertawe Mwy Diogel i helpu i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ar draws ardal Abertawe.

Adolygiad achos ymddygiad gwrthgymdeithasol (Sbardun Cymunedol)

Mae'r adolygiad achos ymddygiad gwrthgymdeithasol yn caniatáu i ddioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus, sydd wedi adrodd am ddigwyddiadau i un neu fwy o asiantaethau yn flaenorol, ofyn i'w hachos gael ei adolygu pan fônt yn teimlo nad yw'r camau gweithredu a gymerwyd wedi bod yn ddigonol.

Cwestiynau cyffredin am ymddygiad gwrthgymdeithasol

Dewch i ganfod yr atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Ymddygiad gwrthgymdeithasol ar stadau cyngor

Mae nifer o ffyrdd y gallwn ni helpu i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ar stadau tai'r cyngor.

Trais yn y cartref

Cam-drin yn y cartref yw pan fo unigolyn yn dioddef cam-drin corfforol, seicolegol, emosiynol, rhywiol neu ariannol gan bartner presennol, partner blaenorol neu aelod o'r teulu sy'n oedolyn.

Trosedd casineb

Rhoi gwybod am droseddau casineb a sut i gael cefnogaeth os ydych chi, neu rywun rydych yn ei adnabod, yn ddioddefwr troseddau casineb.
Close Dewis iaith