Toglo gwelededd dewislen symudol

Ymddygiad gwrthgymdeithasol ar stadau cyngor

Mae nifer o ffyrdd y gallwn ni helpu i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ar stadau tai'r cyngor.

Rhagor o wybodaeth am ymddygiad gwrthgymdeithasol Ymddygiad gwrthgymdeithasol

Beth gallwch ei wneud amdano?

  • Y cam cyntaf, os ydych yn gallu, yw siarad â'r unigolyn sy'n achosi'r broblem. Efallai nad yw'n sylweddoli bod ei ymddygiad yn effeithio ar eraill, ac efallai nad yw ei weithredoedd yn fwriadol.
  • Mewn rhai achosion efallai na fyddwch yn teimlo y gallwch gymryd y cam cyntaf hwn eich hun, felly yn y sefyllfaoedd hyn dylech gysylltu â'ch swyddfa dai ardal a fydd yn eich helpu i ddatrys y broblem.
  • Cefnogir y swyddfeydd tai ardal gan yr Uned Cefnogi Cymdogaethau er mwyn mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
  • Gallwch roi gwybod i ni am ymddygiad gwrthgymdeithasol ar-lein
  • Cofiwch: dylid rhoi gwybod am weithredoedd troseddol, gan gynnwys ymddygiad bygythiol a chamdriniaeth i'r heddlu ar unwaith
  • Gallwch hefyd gysylltu â Taclo'r Tacle ar radffon 0800 555 111

Rhoi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol ar stadau cyngor

Os ydych yn denant cyngor neu'n byw ar stad cyngor ac mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn effeithio arnoch, rhowch wybod i ni fel y gallwn eich helpu i fynd i'r afael ag ef.

Beth fydd yn digwydd ar ôl i chi adrodd am ymddygiad gwrthgymdeithasol

Ymchwilir i'ch cwyn wreiddiol naill ai gan y swyddfa dai ardal neu gan yr Uned Cefnogi Cymdogaethau.

Ymddygiad gwrthgymdeithasol

Ymddygiad gwrthgymdeithasol yw pan fydd rhywun neu grwpiau o bobl yn ymddwyn mewn ffordd sy'n achosi aflonyddwch, braw neu ofid i eraill.
Close Dewis iaith