Toglo gwelededd dewislen symudol

Adnoddau pellach a chyngor i bobl anabl

Sefydliadau cefnogaeth ac adnoddau ar-lein ar gyfer pobl sy'n byw ag anableddau.

Cydlynwyr ardaloedd lleol

Gall eich cydlynydd ardal leol eich helpu i ddod o hyd i gyngor a chefnogaeth yn eich cymuned.

Cymdeithas Dai Pobl

Cymdeithas tai nid er elw sy'n cynnig atebion a chefnogaeth mewn perthynas â thai.

Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf

Mae Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf yn darparu datrysiadau llety i bobl ag anableddau, cyn-filwyr a phobl ag anghenion cymhleth ychwanegol ar draws Cymru a Swydd Amwythig.

Cŵn Tywys

Gwybodaeth am gŵn tywys i bobl â nam ar y golwg.

Disability Rights UK

Rydym yn bobl anabl sy'n arwain newid, gan hyrwyddo cyfranogiad cyfartal i bawb.

Disabled Living Foundation (DLF)

Elusen genedlaethol yw Disabled Living Foundation sy'n darparu cyngor, gwybodaeth a hyfforddiant diduedd ar fyw'n annibynnol.

Diverse Cymru

Sefydliad sy'n hyrwyddo cydraddoldeb a byw'n annibynnol ac yn herio anghydraddoldeb yng Nghymru.

Dyversity Group Local Aid

Mae grŵp Dyversity yr elusen 'Local Aid' yn cynnal sesiynau wythnosol i blant a phobl ifanc o bob oed sydd ag awtistiaeth (ASA) ar nosweithiau Llun yn FOYD (Friends of Young Disabled) 300 Carmarthen Road, Abertawe. Gall pobl ifanc a'u teuluoedd gwrdd, cael hwyl a bod yn nhw eu hunain.

Family Fund

Help i deuluoedd sydd â phlant ag anableddau.

Focus on Disability

Adnodd ar-lein sy'n darparu gwybodaeth, canllawiau, cynnyrch ac adnoddau i'r gymuned anabl, yr henoed a gofalwyr y DU.

Gofal a Thrwisio Bae'r Gorllewin

Nod Gofal a Thrwsio yw lleddfu anghenion pobl yn yr ardal sydd dan anfantais oherwydd iechyd, salwch neu anabledd, drwy ddarparu cefnogaeth, cymorth, cyfleusterau, amwynderau a gwasanaethau i bobl o'r fath mewn perthynas â'u tai.

Grŵp Rhwydwaith Anabledd (GRA)

Rydym am i bobl fod yn iach, yn ddiogel yn eu cartrefi a'r tu allan iddynt, i fwynhau bywyd, i fynegi eu barn ac i wneud cyfraniad cadarnhaol at wella Abertawe.
Close Dewis iaith