AoS2020 - Prosiectau
Yma byddwch yn cael manylion pob prosiect wrth iddo ddatblygu o ddyluniad i gael ei gwblhau.
Rhaglen Amlinellol Strategol Addysg o Safon / Cymunedau Dysgu Cynaliadwy
Ym mis Chwefror 2024, cymeradwyodd y Cabinet y blaenoriaethau buddsoddi cyfalaf arfaethedig yn y dyfodol ar gyfer Rhaglen Amlinellol Strategol Addysg o Safon / Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.
Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan
Bydd y prosiect yn darparu adeilad ysgol newydd, ar hen safle Ysgol Gymunedol Daniel James, ar gyfer Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan. Bydd yr ysgol newydd yn darparu ar gyfer 1400 o ddisgyblion (gan gynnwys 200 o leoedd ôl-16).
LMDB - Lleihau maint dosbarthiadau babanod
Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo 100% o gyllid gwerth £1,918,750 am bedwar prosiect i leihau maint dosbarthiadau babanod ar gyfer Ysgol Gynradd Penyrheol, Ysgol Gynradd Hendrefoilan, Ysgol Gynradd Seaview ac Ysgol Gynradd Gymraeg Bryniago.
Prosiectau QEd sydd wedi eu cwblhau
Rhestr o brosiectau QEd sydd wedi eu cwblhau.
Addaswyd diwethaf ar 14 Gorffenaf 2025