Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyllid ar gyfer ardaloedd gwledig

Mae Abertawe wedi derbyn cyllid oddi wrth Lywodraeth y DU dan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, sy'n rhan o agenda Codi'r Gwastad.

Levelling up and funded by UK Gov logos - WEL.

Mae cyllid ar gyfer y grant hwn bellach wedi cau. Rydym ar hyn o bryd yn asesu'r holl geisiadau a gyflwynwyd yn rownd 3, a gaeodd ar 19 Ionawr 2024.

Hyd yn hun, rydym wedi dyfarnu cyllid i 26 o brosiectau gwledig: £202,368.11 yn rownd 1 a £177,823.36 yn rownd 2. Rydym yn gobeithio dyfarnu'r £104,808.53 sydd ar ôl i ymgeiswyr  rownd 3 erbyn dechrau mis Mawrth 2024.

Dan y prosiect Angori Gwledig a ddatblygwyd yn lleol, mae arian grant ar gael i gymunedau gwledig Abertawe ar gyfer prosiectau sy'n cefnogi'r themâu canlynol:

  • yr economi wledig a phrofiad i ymwelwyr
  • yr amgylchedd naturiol a'r argyfwng hinsawdd
  • iechyd a lles
  • arloesedd

O fewn y themâu hyn rydym yn chwilio am brosiectau sy'n cyflawni yn erbyn o leiaf un o'r ymyriadau canlynol:

  • buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy (grantiau cyfalaf): e.e. cynlluniau ynni adnewyddadwy ar gyfer adeiladau cymunedol neu fannau gwefru cymunedol ar gyfer ceir a beiciau
  • bioamrywiaeth (grantiau refeniw): e.e. prosiectau glasu gwledig i wella bioamrywiaeth, tyfu bwyd yn y gymuned (ac eithrio Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned) ac ailddefnyddio mannau nad ydynt yn cael eu defnyddio fel asedau bioamrywiaeth
  • gwirfoddoli (grantiau refeniw): e.e. prosiectau gwirfoddoli i ennyn diddordeb gwahanol grwpiau rhanddeiliaid mewn cymunedau gwledig, gallai'r rhain gynnwys cludiant cymunedol, cynlluniau amgylcheddol, cynlluniau cyfeillio, gweithredu cymunedol
  • astudiaethau dichonoldeb (grantiau refeniw): e.e. enghreifftiau o'r mathau o gynigion: astudiaethau â chynlluniau wedi'u costio'n llawn i gynorthwyo gyda sicrhau bod cymorth ariannol ar gael yn y dyfodol, gallai hyn fod yn gludiant cymunedol, yn gyfleusterau cymunedol fel amgueddfa neu hwb
  • marchnadoedd lleol a llwybrau i (grantiau refeniw): e.e. marchnadoedd gwledig a llwybrau gwledig i ymwelwyr, mentrau a fyddai'n cynyddu nifer y bobl sy'n ymweld â strydoedd mawr mewn ardaloedd gwledig, gan gynnwys digwyddiadau dros dro, ymgyrchoedd marchnata ac adnoddau, datblygu apiau.

Gall prosiectau refeniw dderbyn hyd at £15,000 a gall prosiectau cyfalaf dderbyn hyd at £25,000. Gall prosiectau gael eu hariannu'n llawn, ond os ydych yn dymuno cynnal prosiect y mae cyfanswm ei werth yn uwch nag uchafsymiau'r grant, gallwch ychwanegu cyllid ychwanegol o ffynonellau eraill.

Y wardiau sy'n gymwys am gymorth yw:

  • Llandeilo Ferwallt  
  • Clydach (yn cynnwys Craig-cefn-parc)
  • Fairwood 
  • Gorseinon a Phenyrheol 
  • Gŵyr  
  • Tregŵyr 
  • Llangyfelach 
  • Casllwchwr 
  • Pen-clawdd 
  • Penllergaer 
  • Pennard 
  • Pontarddulais (yn cynnwys ward Mawr)
  • Pontlliw a Thircoed 

Gellir cefnogi prosiectau mewn wardiau eraill fesul achos os ydynt ar ymylon daearyddol y wardiau a enwir uchod, neu mewn amgylchiadau eithriadol, ardaloedd ag amgylcheddau naturiol helaeth mewn wardiau eraill.

Mae'r arweiniad llawn i'r cynllun ar gael isod, ond os oes gennych unrhyw gwestiynau ar ôl ei ddarllen, neu os ydych yn barod i wneud cais ac mae angen copi o'r ffurflen gais arnoch, e-bostiwch y tîm yn ruralanchorspf@abertawe.gov.uk

Cynllun Grant Angori Gwledig Abertawe - canllawiau (Word doc) [215KB]

Cefnogaeth iechyd a lles wledig

Mae'r cyfeirlyfr hwn yn cynnwys manylion am amrywiaeth o sefydliadau cefnogi, y mae llawer ohonynt yn canolbwyntio ar y rheini sy'n byw ac yn gweithio mewn ardaloedd gwledig.

Rhaglen Datblygu Gwledig (RDG)

Cefnogodd fusnesau, ffermwyr, cefn gwlad a chymunedau mewn ardaloedd gwledig ar draws Cymru rhwng 2014 a 2023.
Close Dewis iaith