Cyllid ar gyfer ardaloedd gwledig
Cyllid sy'n cefnogi cefn gwlad a chymunedau mewn ardaloedd gwledig.
6 Mai 2025 - Mae'r broses ymgeisio ar gyfer cyllid o dan y cynlluniau hyn bellach wedi dod i ben. Caiff unrhyw gyfleoedd am gyllid gwledig pellach eu rhannu yma yn y dyfodol.
Mae cyllid o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) bellach wedi'i ymestyn i redeg rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2025. Mae dau grant ar gael:
Mae'r cynlluniau grant yn agor ar 1 Ebrill 2025 a bydd yr holl arian y gallwch wneud cais amdano ar gael ar yr adeg hon. Bydd unrhyw geisiadau a dderbynnir erbyn 14 Ebrill 2025 yn cael eu prosesu a'u hasesu gan y panel grant yn yr wythnos sy'n dechrau ar 28 Ebrill 2025. Bydd y cynlluniau ar agor hyd nes y bydd yr holl arian wedi'i neilltuo.
Rhaid cyflwyno'r holl brosiectau erbyn 31 Hydref 2025, a rhaid i'r holl hawliadau gael eu cwblhau erbyn 30 Tachwedd 2025.
1. Cynllun Grant Angori Gwledig Abertawe
Darperir y grant hwn gan Gyngor Abertawe ac fe'i cefnogir gan y Grŵp Cynghori Gwledig, gyda'r nod o ychwanegu budd at gymunedau gwledig.
- Grantiau refeniw:
- isafswm grant £1,000
- uchafswm grant £15,000
- Nid oes angen arian cyfatebol ar gyfer Grantiau Angori Gwledig. Dyfernir yr holl grantiau ar sail cyfradd ymyrryd 100% a gellir eu defnyddio fel arian cyfatebol yn erbyn cyrff grantiau eraill.
- Mae costau cyllid yn refeniw yn unig.
- Gall ymgeiswyr gyflwyno un cais yn unig i gynllun Angori Gwledig Abertawe yn ystod y rownd ariannu hon.
- Mae swm y grant a ddyfernir yn ôl disgresiwn Cyngor Abertawe.
Cynllun Grant Angori Gwledig Abertawe - arweiniad llawn (Word doc, 804 KB)
2. Cynllun Grant Angori Gwledig Abertawe (ynni adnewyddadwy)
Cyflwynir y grant hwn gan Gyngor Abertawe gyda chefnogaeth y Grŵp Cynghori Gwledig, gyda'r nod o alluogi sefydliadau i weithio tuag at fod yn garbon sero net mewn ardaloedd gwledig.
- Grantiau cyfalaf:
- isafswm grant £5,000
- uchafswm grant £25,000
- Nid oes angen arian cyfatebol ar gyfer Grantiau Angori Gwledig. Dyfernir yr holl grantiau ar sail cyfradd ymyrryd 100% a gellir eu defnyddio fel arian cyfatebol yn erbyn cyrff grantiau eraill.
- Mae costau cyllid yn gyfalaf yn unig.
- Gall ymgeiswyr gyflwyno un cais yn unig i gynllun Angori Gwledig Abertawe yn ystod y rownd ariannu hon.
- Mae swm y cyllid a ddyfernir yn ôl disgresiwn Cyngor Abertawe.
Cynllun Grant Angori Gwledig Abertawe (ynni adnewyddadwy) - arweiniad llawn (Word doc, 804 KB)