Toglo gwelededd dewislen symudol

Cefnogaeth iechyd a lles wledig

Mae'r cyfeirlyfr hwn yn cynnwys manylion am amrywiaeth o sefydliadau cefnogi, y mae llawer ohonynt yn canolbwyntio ar y rheini sy'n byw ac yn gweithio mewn ardaloedd gwledig.

Cynhyrchwyd y cyfeirlyfr hwn gan Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 (a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cyngor Abertawe).

Adferiad Recovery

Mae Adferiad Recovery yn cyfuno sgiliau ac arbenigedd yr elusennau sydd wedi uno er mwyn darparu gwasanaethau rhagorol i bobl yng Nghymru sydd â phroblemau iechyd meddwl, problemau'n camddefnyddio sylweddau, a'r rhai hynny sydd ag anghenion cymhleth ac sy'n cyd-ddigwydd.

Adnewyddu Lles

Adnewyddu @ Y Stream: Mannau tawel a rennir, lle mae'n iawn i beidio bod yn iawn.

Age Cymru Gorllewin Morgannwg

Cofrestrwch nawr i gael cymorth a chyngor am ddim.

CALM (Campaign Against Living Miserably)

Ydym ni, ac rydym yn sefyll yn erbyn hunanladdiad. Mae 125 o bobl yn marw bob wythnos oherwydd hunanladdiad.

CISS (Gwasanaethau Gwybodaeth a Chymorth Canser)

Cefnogaeth i'r rheini â chanser, eu gofalwyr, teulu a ffrindiau yn ne-orllewin Cymru.

Canolfan Gweithredu ar Ddibyniaeth a Chaethiwed Cymru (WCADA)

Un o'r asiantaethau trin y defnydd o alcohol a chyffuriau mwyaf blaenllaw yng Nghymru.

Canolfan gofalwyr Abertawe

Mae Canolfan gofalwyr Abertawe yn darparu cymorth a gwybodaeth i ofalwyr ar draws Abertawe drwy ddarparu cyngor ar fudd-daliadau lles; mynediad at grantiau a chronfeydd arbennig; gwasanaeth cwnsela; gofal seibiant; cymorth cyflogaeth; Mae ganddynt rieni sy'n ofalwyr ymroddedig, gofalwyr sy'n oedolion ifanc, gofalwyr gwrywaidd a gwasanaethau dementia.

Cartrefi Cymru

Mae Cartrefi yn cefnogi pobl ag anawsterau dysgu, awtistiaeth, ymddygiadau heriol, pobl hŷn a gofalwyr yn bennaf.

Cefnogaeth Dementia BIPBA (Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe)

Mae'r tîm cymorth dementia ym maes gofal sylfaenol yn Abertawe yn darparu pwynt cyswllt cyntaf i unrhyw un sy'n pryderu am newidiadau yn eu hiechyd gwybyddol, hy eu sgiliau meddwl a'u cof.

Clwb Ffermwyr Ifanc (CFfI) Castell-nedd a'r Cylch

Mae aelodaeth am ddim i bobl ifanc rhwng 10 a 28 oed sydd am fyw bywyd i'r eithaf wrth wneud ffrindiau a dysgu sgiliau newydd.

Clwb Ffermwyr Ifanc (CFfI) Gŵyr

Mae aelodaeth am ddim i bobl ifanc rhwng 10 a 28 oed sydd am fyw bywyd i'r eithaf wrth wneud ffrindiau a dysgu sgiliau newydd.

Cruse UK (Cymorth Profedigaeth) (Cymru)

Cymorth profedigaeth i oedolion, plant a phobl ifanc pan fydd rhywun wedi marw.

Cydlynwyr ardaloedd lleol

Gall eich cydlynydd ardal leol eich helpu i ddod o hyd i gyngor a chefnogaeth yn eich cymuned.

Cyfeiriadur Ar-lein FarmWell Cymru "Yn Cefnogi Ffermwyr Cymru"

Mae FarmWell Cymru yn darparu'r wybodaeth fwyaf gyfredol a manylion gwasanaethau cefnogi i ffermwyr yng Nghymru.

Cymdeithas Alzheimer

Cymorth i bobl y mae dementia yn effeithio arnynt.

Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe

Mae Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe'n cefnogi, yn datblygu ac yn cynrychioli sefydliadau gwirfoddol, gwirfoddolwyr a chymunedau ar draws Abertawe.

Cyngor ar Bopeth Abertawe Castell-nedd Port Talbot

Darparu cyngor di-dâl, cyfrinachol a diduedd ar ystod eang o faterion, er enghraifft: dyled, budd-daliadau, tai a chyflogaeth.

Cyngor ar ddyledion

Cefnogaeth a chyngor am ddim ar reoli dyled i bobl â phryderon ariannol neu sy'n poeni am ddyled.

Drinkaware

Mae Drinkaware yn elusen annibynnol sy'n ceisio lleihau niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol drwy helpu pobl i wneud dewisiadau gwell ynghylch eu hyfed.

FUW (Undeb Amaethwyr Cymru) - Morgannwg

Undeb ffermwyr annibynnol i bawb sy'n gweithio ym maes amaethyddiaeth.

Galw Iechyd Cymru

Mynnwch gyngor gan ddefnyddio ein gwiriwyr symptomau neu Iechyd A-Y os ydych yn sâl ac nad ydych yn siwr beth i'w wneud.

Gamblers Anonymous UK

Dynion a menywod sy'n rhannu eu profiadau, eu cryfder a'u gobaith â'i gilydd fel y gallant ddatrys eu problem gyffredin a helpu eraill i wella ar ôl problemau gamblo. Sgwrs ar-lein am ddim.

Gofal a Thrwisio Bae'r Gorllewin

Nod Gofal a Thrwsio yw lleddfu anghenion pobl yn yr ardal sydd dan anfantais oherwydd iechyd, salwch neu anabledd, drwy ddarparu cefnogaeth, cymorth, cyfleusterau, amwynderau a gwasanaethau i bobl o'r fath mewn perthynas â'u tai.

Hafan Cymru

Cymdeithas Tai elusennol sy'n darparu llety a chefnogaeth i fenywod, dynion, eu plant a phobl ifanc ledled Cymru.

Llinell Cyngor a Gwrando Cymunedol (C.A.L.L)

Mae'n cynnig cefnogaeth emosiynol i bobl sy'n dioddef gofid meddyliol yn ogystal â'u ffrindiau, eu gofalwyr a'u perthnasau

Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru (DAN)

Mae holl wasanaethau 24/7 DAN ar gael i bobl sy'n byw yng Nghymru. Mae'r llinell gymorth ar agor 24 awr y dydd, 365 niwrnod y flwyddyn gan ddarparu pwynt cyswllt unigol i unrhyw un yng Nghymru sydd am gael gwybodaeth bellach neu help yn ymwneud â chyffuriau neu alcohol.

Llinell Gymorth a Gwasanaethau Cwnsela LGBT Cymru

Mae Llinell Gymorth LHDT+ Cymru yn wasanaeth sy'n darparu cwnsela a chefnogaeth i bobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsrywiol, Rhyngrywiol, Cynghreiriaid a theuluoedd yng Nghymru. Llinell gymorth ddiogel a chyfrinachol i gefnogi'r rheini sy'n rhan o'r gymuned LHDT+.

Maggie's Abertawe

Os ydych chi neu rywun sy'n annwyl i chi wedi cael diagnosis o ganser, gall Maggie's Abertawe helpu.

Mind Abertawe

Mae Mind Abertawe yn darparu cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth i bobl â phryderon iechyd meddwl. Rydym yn cynnig rhaglenni hunangymorth un i un, cwnsela a chymorth grŵp.

National Farmers Union (NFU) Cymru

NFU Cymru yw'r sefydliad amaethyddol blaenllaw sy'n cynrychioli ac yn hyrwyddo holl ffermwyr a thyfwyr Cymru. Yn NFU Cymru rydyn ni'n hybu a gwarchod buddiannau ein haelodau trwy ddylanwadu a chydweithio â llywodraeth, y gadwyn gyflenwi a defnyddwyr, er mwyn sicrhau dyfodol sefydlog a chynaliadwy ac i ennill y fargen orau ar gyfer ein haelodau.

Papyrus

Mae ein llinell gymorth HOPELINEUK yn darparu cefnogaeth i bobl ifanc sy'n profi meddyliau am hunanladdiad ac i'r rheini sy'n pryderu y gall fod person ifanc yn meddwl am ladd ei hunan, gan gynnwys pobl broffesiynol.

RABI (Royal Agricultural Benevolent Institution) (DU)

Mae RABI yn elusen genedlaethol sy'n darparu cefnogaeth leol i'r gymuned ffermio ar draws Cymru a Lloegr. Mae cefnogaeth gyfrinachol ar gael i'r rheini sy'n gweithio ar hyn o bryd ym maes amaethyddiaeth ac i'r rheini nad ydynt yn gallu gweithio mwyach oherwydd afiechyd, damwain neu odran.

Relate

Mae'n cynnig cwnsela ar berthnasoedd, a chwnsela i blant a phobl ifanc.

Samaritans yng Nghymru

Cymorth emosiynol i'r rhai sy'n cael teimladau o drallod neu anobaith, gan gynnwys y rhai a allai arwain at hunanladdiad - 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn.

Sefydliad DPJ

Yn cefnogi'r rheini yn y sector amaethyddol sydd ag iechyd meddwl gwael drwy roi cymroth, lledaenu ymwybyddiaeth a hyfforddi'r rhai ym maes ffermio i fod yn ymwybodol o iechyd meddwl gwael a'i brobelm yn ein sector.

The Farming Community Network (Rhwydwaith y Gymuned Ffermio) (FCN Cymru)

Sefydliad ac elusen wirfoddol sy'n gweithio yng Nghymru a Lloegr sy'n cefnogi ffermwyr a theuluoedd yn y gymuned ffermio.

Tir Dewi (Gorllewin Cymru)

Llinell gymorth am ddim a gwasanaeth cefnogi i ffermwyr sy'n gwbl gyfrinachol a heb feirniadaeth.
Close Dewis iaith