Ar ôl dydd Sadwrn 2 Ionawr, caiff y gwasanaethau Parcio a Theithio eu hatal nes clywir yn wahanol.
Parcio a Theithio Glandŵr
Mae Parcio a Theithio Glandŵr oddi ar yr A4067 tua milltir i'r gogledd o Ganol y Ddinas.
Lleoliad
Parcio a Theithio Glandŵr, Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm, Glandŵr, Abertawe SA1 2JT.
O Gyffordd 45 yr M4 (Ynysforgan), dilynwch arwyddion 'Abertawe' am ryw dair milltir. Mae Glandŵr yn daith 10 munud yn unig o'r M4. Mae safle Glandŵr mewn lleoliad cyfleus ar gyfer teithiau i Abertawe o Gwm Tawe, Pontsenni ac Aberhonddu.
Gwybodaeth am wasanaethau bysus (34)
Mae'r bysus yn rhedeg bob 15 munud yn ystod y dydd rhwng dydd Llun a dydd Sadwrn. Bysus modern, â llawr isel, sy'n hawdd cael mynediad iddynt.
34 - Amserlen Parcio a Theithio Glandŵr (PDF, 63KB)Yn agor mewn ffenest newydd
Safleoedd bysus canol y ddinas:
- Yr Orsaf Drenau; Stryd y Berllan
- Ffordd y Brenin (gyferbyn ag Eglwys y Bedyddwyr Mount Pleasant) ; Gorsaf Fysus Ddinas; Sgwâr y Santes Fair ; y Stryd Fawr; Gyferbyn a'r Orsaf Reifford.
Nodweddion
- Mae'r maes parcio ar agor rhwng 6.45am a 7.00pm ddydd Llun i ddydd Sadwrn.
- 450 o lefydd parcio gan gynnwys 25 o gilfannau i'r anabl; a rheseli beiciau.
- CCTV.
- Ardal aros amgaeedig gyda seddi, man gwybodaeth a pheiriannau bwyd a diod.
- Toiledau, gan gynnwys cyfleusterau ar gyfer pobl anabl a chyfleusterau newid cewynnau i rieni.
Gwasanaeth bws wedi'i gynnal gan
First, Heol Gwyrosydd, Penlan, Abertawe, SA5 7BN.
Ffôn: 01792 572255 (7.00am - 10.00pm)
E-bost: cymru.customerservices@firstgroup.com