Toglo gwelededd dewislen symudol

Llyfryn Gwybodaeth i Rieni 2024 / 2025

Lleoedd Meithrin yn Abertawe

Yn Abertawe, mae'r holl ysgolion cynradd, gan gynnwys ysgolion Cymraeg, yn darparu addysg feithrin ran-amser. Gall plant gael mynediad i le meithrin rhan amser o ddechrau'r tymor ar ôl iddynt droi'n 3, neu y diwrnod ar ôl eu 3ydd pen-blwydd, ac yn dibynnu ar ddarpariaeth ac argaeledd lleoedd mewn ysgol. Mae darpariaeth meithrin yn anstatudol sy'n golygu y gall rhieni benderfynu a ydyn nhw am gymryd lle meithrin ar gyfer eu plentyn ai peidio. Gallwch gyflwyno cais am le yn eich ysgol ddalgylch neu unrhyw ysgol arall y gallai fod yn well gennych chi. Nid yw bob amser yn bosibl i blant gael eu derbyn i ddosbarth meithrin yn y dalgylch ar gyfer eu cyfeiriad cartref neu'ch hoff ysgol. Os nad oes lle ar gael yn y ddarpariaeth feithrin bydd enw eich plentyn yn cael ei roi ar restr aros. Nid oes hawl i apelio yn erbyn gwrthod cynnig lle meithrin mewn ysgol benodol.

Mae'r ALl, fel yr awdurdod derbyn, yn cynnal rhestrau aros ar gyfer ysgolion y mae gormod o bobl yn gwneud cais am le ynddynt. Gyda phob cais, os gwrthodir cais rhieni/gofalwyr am le i'w plentyn mewn ysgol, caiff y plentyn ei roi ar y rhestr aros yn awtomatig.

Mae'n bwysig nodi na fydd plant yn nosbarth meithrin ysgol yn cael hawl mynediad awtomatig i addysg amser llawn yn nosbarth derbyn yr un ysgol. Bydd rhaid i rieni wneud cais am le mewn dosbarth derbyn gyda'r ymgeiswyr eraill.

Nid yw mynychu'r dosbarth meithrin mewn ysgol gynradd yn gwarantu lle i'ch plentyn yn y dosbarth derbyn yn yr ysgol.  Os oes gormod o geisiadau am ysgol, mae lleoedd yn cael eu dyrannu yn unol â threfniadau derbyn yr awdurdod lleol a'r meini prawf ar gyfer gor-alw.

Am fanylion llawn polisi derbyniadau meithrin a meini prawf gor-alw Cyngor Abertawe, trowch at: www.abertawe.gov.uk/dosbarthiadauMeithrinynYsgolionyrAwdurdodLleol. Gellir gweld y polisi derbyn a'r meini prawf gordanysgrifio ar gyfer mynediad i'r Derbyn ar www.abertawe.gov.uk/TrefniadauDerbynYsgolCynradd.

Efallai yr hoffai rhieni ymweld ag ysgolion cyn iddynt wneud penderfyniad ynghylch pa ysgol y maent yn dymuno ymgeisio amdani a dylid trefnu ymweliadau â'r ysgol yn uniongyrchol â phennaeth yr ysgol berthnasol. Mae enwau, cyfeiriadau a rhifau ffôn pob ysgol ar www.swansea.gov.uk/schoolcontactdetails. Mae gwefannau ysgolion hefyd yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am ysgolion, fel y mae gwefan Llywodraeth Cymru Fy Ysgol Leol: www.llyw.cymru/fy-ysgol-leol-canllaw.wales/my-local-school-guide.

Sut i wneud cais am le yn y Meithrin

Ar ôl i chi benderfynu pa ysgol yr hoffech wneud cais amdani, cysylltwch â'r ysgol yn uniongyrchol i ofyn am ffurflen gais.

Wrth lenwi'r ffurflen dylid defnyddio prif gyfeiriad preswyl cyfredol y disgyblion (nid cyfeiriad neiniau a theidiau, aelodau eraill o'r teulu neu warchodwyr plant). I gael gwybodaeth fanylach am y cyfeiriad cartref, cyfeiriwch at y tudalennau Gwybodaeth bwysig i'w hystyried cyn gwneud cais.

Gellir cael gwybodaeth am gael mynediad i ofal plant yn Abertawe a'r cynnig gofal plant 30 awr a ariennir gan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd: www.swansea.gov.uk/childcareoffer

Mae gweinyddu ceisiadau meithrin wedi ei ddirprwyo i'r ysgolion cynradd, fodd bynnag, mae'r awdurdod lleol, fel yr awdurdod derbyniadau, yn cynnal a goruchwylio y trefniadau derbyn ar gyfer meithrin.

Close Dewis iaith