Toglo gwelededd dewislen symudol

Llyfryn Gwybodaeth i Rieni 2024 / 2025

Addysg Gymraeg

Fel arfer, bydd disgyblion sy'n mynychu Ysgol Gynradd Gymraeg yn symud i Ysgol Uwchradd Gymraeg yn unol â'r trefniadau a nodir ar dudalennau: Blwyddyn 7 - Gwneud cais i ddisgyblion ddechrau'r ysgol uwchradd ym mlwyddyn 7 ym Medi 2024. Fodd bynnag, oeddech chi'n gwybod nad yw hi'n rhy hwyr i chi ystyried Addysg Gymraeg i'ch plentyn hyd yn oed os na fynychodd Feithrinfa/Ysgol Gynradd Gymraeg ar ddechrau ei addysg?

Mae deg ysgol gynradd Gymraeg a dwy ysgol uwchradd Gymraeg yn Abertawe. Addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ysgolion hyn. Cyflwynir Saesneg ym Mlwyddyn 3. Addysgir y Gymraeg fel rhan o'r Cwricwlwm Cenedlaethol i bob disgybl yn yr ysgolion cynradd Saesneg yn Abertawe. Mae'r Gyfarwyddiaeth Addysg yn darparu gwasanaeth iaith dwys i blant oedran cynradd y mae eu rhieni wedi symud i Abertawe ac am iddynt gael addysg Gymraeg.

Mae pob ysgol cyfrwng Cymraeg yn Abertawe yn darparu addysg feithrin ran-amser. I gael rhagor o wybodaeth am ddarpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg cyn ysgol arall, ewch i'n gwefan: www.abertawe.gov.uk/addysgGymraegynAbertawe 

Defnydd o'r Gymraeg mewn Ysgolion Cynradd - Mewn Ysgolion Cynradd Cymraeg, caiff pob un o bynciau'r Cwricwlwm Cenedlaethol, heblaw am Saesneg, eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg Mewn Ysgolion Saesneg, mae Cymraeg fel ail iaith yn statudol yn y Cyfnod Sylfaen ac yng Nghyfnod Allweddol 2.

Defnydd o'r Gymraeg mewn Ysgolion Uwchradd -Mewn Ysgolion Uwchradd Cymraeg, caiff pob un o bynciau'r Cwricwlwm Cenedlaethol, heblaw am Saesneg, eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mewn Ysgolion Uwchradd Saesneg, rhaid i'r holl ddisgyblion yng Nghyfnod Allweddol 3 a Chyfnod Allweddol 4 o'r Cwricwlwm Cenedlaethol astudio Cymraeg fel ail iaith. Yn unol â Deddf Diwygio Addysg 1988 mae Cymraeg yn bwnc craidd ym mhob ysgol Gymraeg.

Beth yw manteision addysg Gymraeg?

Mae nifer o fanteision i Addysg Gymraeg. Mae ymchwil yn profi mai dyma'r ffordd orau o sicrhau bod plant yn ddwyieithog yn y Saesneg a'r Gymraeg.  Mae'n ddefnyddiol iawn fel sgil yn y gweithle, gyda'r gallu i siarad Cymraeg yn sgil hanfodol neu ddymunol ar gyfer nifer cynyddol o swyddi.

Mae addysg cyfrwng Cymraeg yn darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ddod yn rhugl yn yr iaith Gymraeg trwy astudio ystod eang o bynciau a disgyblaethau yn y Gymraeg. Bydd sgiliau Saesneg eich plentyn hefyd yn cael eu datblygu mewn gwersi Saesneg a thrwy brofi rhai agweddau ar y cwricwlwm yn Saesneg.

Dydyn ni ddim yn siarad Cymraeg gartref - fydd fy mhlentyn yn sefyll allan?
Ddim o gwbl. Mewn gwirionedd, nid yw'r mwyafrif helaeth o blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn Abertawe yn siarad Cymraeg gartref. Ac i rai ohonynt, iaith heblaw'r Saesneg yw prif iaith y cartref.  Felly mae dod o gefndir di-Gymraeg yn gwbl gyffredin ac mae'r cwricwlwm wedi'i gynllunio gyda hynny mewn golwg.

Pa bynnag iaith y byddwch chi'n siarad yn y cartref, gall addysg cyfrwng Cymraeg roi sgiliau ychwanegol i blant a mwy o gyfleoedd ar gyfer y dyfodol. Felly hyd yn oed os nad ydych chi'n siarad Cymraeg eich hun, beth am ystyried addysg cyfrwng cymraeg i'ch plentyn?

Sut galla i helpu fy mhlentyn gyda gwaith cartref os nad ydw i'n siarad Cymraeg?
Gan nad yw'r rhan fwyaf o blant yn siarad Cymraeg gartref, mae ysgolion cyfrwng Cymraeg yn brofiadol iawn wrth gefnogi disgyblion a rhieni.

Ar gyfer disgyblion iau, rhoddir cyfarwyddiadau gwaith cartref yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a'r Saesneg. Pan fyddant yn hyn, bydd y plant yn gallu esbonio eu gwaith i'w rhieni eu hunain. Mewn gwirionedd, mae ymchwil yn awgrymu y gall ymdrin a'u gwaith mewn dwy iaith helpu plant i ddeall y pwnc y maent yn ei astudio.

A allaf ddysgu Cymraeg ochr yn ochr a'm plentyn?Mae rhai rhieni, ar ol dewis ysgol cyfrwng Cymraeg i'w plentyn, yn penderfynu dysgu Cymraeg hefyd. Mae'n gyfle gwych i ddysgu gyda'ch gilydd, i ymarfer eich sgiliau iaith a'ch gilydd a threulio amser gwerthfawr gyda'ch gilydd.

Mae cyrsiau Cymraeg i Oedolion ar gael ledled Abertawe, ac maent yn addas ar gyfer dysgwyr ar bob lefel. Am ragor o wybodaeth, ewch i'r gwefannau canlynol: https://www.swansea.ac.uk/academi-hywel-teifi/units/learn-welsh/

Beth am eu haddysg ar ôl gadael yr ysgol?
Mae mwy nag un o bob pump o ddisgyblion yng Nghymru bellach yn mynychu ysgol cyfrwng Cymraeg. Felly, os ydych chi wedi astudio yn Gymraeg hyd yma, sut ydych chi'n parhau i ddysgu ar ol i chi adael yr ysgol?

Nid yw eich taith iaith Gymraeg yn dod i ben pan fyddwch yn cwblhau eich astudiaaethau TGAU! Mae ein dwy ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn cynnig ystod eang o opsiynau Lefel A neu efallai y byddwch yn dewis mynd i'r coleg ac astudio un o'r nifer o gyrsiau sydd ar gael yng Ngholeg Gŵyr Abertawe trwy gyfrwng y Gymraeg: https://www.gcs.ac.uk/speaking-welsh

Sut ydw i'n gwneud cais am le mewn ysgol Gymraeg?
Mae'r holl ysgolion Cymraeg yn Abertawe yn ysgolion cymunedol, felly mae'r drefn ymgeisio yn union fel y mae ar gyfer ysgolion cymunedol cyfrwng Saesneg - nid yw iaith neu grefydd neu hunaniaeth genedlaethol y plentyn yn cael eu hystyried yn y broses ymgeisio.

Dylech wneud cais am le yn yr ysgol gynradd neu uwchradd Gymraeg drwy ddefnyddio'r prosesau a nodir yn: www.abertawe.gov.uk/gwneudcaisysgol

Close Dewis iaith