Toglo gwelededd dewislen symudol

Llyfryn Gwybodaeth i Rieni 2024 / 2025

Blwyddyn 7 - Gwneud cais i ddisgyblion ddechrau'r ysgol uwchradd ym mlwyddyn 7 ym Medi 2024

Mae plant yn trosglwyddo i'r ysgol uwchradd pan fyddant yn 11 oed. Mae plant sy'n 11 oed erbyn 31 Awst yn dechrau yn yr ysgol uwchradd yn y mis Medi canlynol.

I blant sydd wedi'u cofrestru mewn dosbarth Blwyddyn 6 mewn ysgol gynradd yn Abertawe, bydd yr awdurdod lleol yn ysgrifennu atoch ddechrau mis Hydref 2023 i'ch gwahodd i wneud cais ar-lein am le Blwyddyn 7 i'ch plentyn mewn ysgol uwchradd. Os nad ydych yn byw yn Abertawe neu os nad yw'ch plentyn yn mynychu ysgol yn Abertawe gallwch wneud cais am le ar-lein.

Gallwch gyflwyno cais mewn unrhyw le lle ceir mynediad at y rhyngrwyd a bydd angen cyfeiriad e-bost dilys arnoch chi. Mae'r system yn addas i'w defnyddio gyda nifer o ddyfeisiau electronig, gan gynnwys ffonau symudol. Os nad oes gennych gyfrifiadur neu unrhyw un o'r dyfeisiau y sonnir amdanynt uchod i'w defnyddio gartref, neu os hoffech gael cefnogaeth ychwanegol wrth gwblhau cais eich plentyn, gallwch gael cymorth yn ysgol gynradd eich plentyn, yn y Ganolfan Gyswllt yn y Ganolfan Ddinesig neu yn eich llyfrgell leol.

Mae'r cais yn caniatáu i chi wneud 3 dewis ysgol (a elwir yn ddewisiadau) y gallwch eu rhestru yn ôl ffafriaeth. Dim ond unwaith y gallwch chi ymgeisio am bob ysgol o'ch dewis.  Defnyddiwch y 3 dewis sydd ar gael i chi ac ystyried cynnwys eich ysgol dalgylch.  Ni fydd dewis yr un ysgol 3 gwaith yn cynyddu eich siawns o gael cynnig lle.  Nid yw gwneud dewisiadau ychwanegol yn effeithio ar eich cyfle o sicrhau eich dewis cyntaf gan fod pob lle yn cael ei ddyrannu yn dilyn y meini prawf gor-alw. Fodd bynnag, os oes gormod o geisiadau am eich dewis cyntaf ac nad ydym yn gallu neilltuo lle i'ch plentyn, byddwn yn ystyried eich ail ac yna eich trydydd dewis.

Os ydych yn byw y tu allan i awdurdod lleol Dinas a Sir Abertawe, rydym yn eich cynghori'n gryf i wneud cais gyda'ch awdurdod lleol eich hun hefyd (yr awdurdod lleol yr ydych yn talu eich treth gyngor iddo) oherwydd, os na allwn gynnig lle i'ch plentyn mewn ysgol yn Abertawe eich bod wedi dewis ni fyddwn yn cynnig lle i'ch plentyn mewn ysgol arall yn Abertawe.

Dywedir wrth rieni y dylent gyflwyno un cais derbyn fesul plentyn yn unig, a all gynnwys hyd at dri dewis.  Os cyflwynir sawl cais ar gyfer yr un plentyn, ymdrinnir â'r cais olaf fel y cais o ddewis ac anwybyddir pob cais cynharach.  Lle'r ydym yn gallu cynnig mwy nag un ysgol i chi, byddwn yn cynnig yr ysgol o ddewis a raddiwyd uchaf gennych ac yn tynnu'r holl gynigion a raddiwyd yn is yn ôl.

Caiff yr holl geisiadau a gwblheir eu hystyried ar yr un pryd, felly nid oes mantais i rieni sy'n cyflwyno cais yn gynnar. Os caiff eich cais ei dderbyn ar ôl y dyddiad cau yn yr amserlen a gyhoeddwyd, bydd eich cais yn hwyr a chaiff ei ystyried ar ôl i'r ceisiadau eraill a anfonwyd mewn pryd dderbyn cynnig. Ni allwch wneud cais hwyr ar-lein.

Erbyn i geisiadau hwyr gael eu hystyried, mae'n bosib y bydd yr holl leoedd yn eich ysgol o ddewis wedi cael eu dyrannu, ac efallai gwrthodir lle i chi os yw'r ysgol yn llawn, hyd yn oed os ydych yn byw yn nalgylch yr ysgol ac yn bodloni pob un o'r meini prawf derbyn eraill neu rai ohonynt.

Byddwn yn ceisio bodloni dymuniad rhieni, fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol:

  • Nad yw byw yn y dalgylch yn gwarantu lle i'ch plentyn yn yr ysgol.
  • Nid yw cael brawd neu chwaer o oedran ygol statudol sydd eisoes yn mynychu'r ysgol yn gwarantu lle i'ch plentyn yn yr ysgol.
  • Nid yw mynychu ysgol gynradd bartner yn gwarantu lle i'ch plentyn yn yr ysgol uwchradd gysylltiedig.

Rhoddwyd newidiadau i ddalgylchoedd ysgolion cyfrwng Cymraeg ar waith ym mis Medi 2021 ac mae'n bosib bod yr ysgol ddalgylch ar gyfer eich cyfeiriad cartref wedi newid. I wirio'r ysgol ddalgylch cyfrwng Cymraeg ddynodedig ar gyfer eich cyfeiriad cartref, e-bostiwch derbyniadau@abertawe.gov.uk

Os ydych chi'n gwneud cais am le mewn ysgol nad hi yw'r ysgol ddynodedig ar gyfer eich cyfeiriad cartref, chi sydd â'r cyfrifoldeb a'r gost am gael eich plentyn yn ôl ac ymlaen i'r ysgol. Ni fydd yr awdurdod lleol yn darparu cludiant cartref i'r ysgol am ddim pan na fydd disgybl yn mynychu ei ysgol ddynodedig. Mae hyn hefyd yn berthnasol os rhoddir lle i ddisgybl mewn ysgol nad yw'n ysgol ddalgylch ddynodedig o ganlyniad i apêl lwyddiannus.

Eich cyfrifoldeb chi yw cyflwyno cais a gwneud cais ar amser.  Ni allwn gynnig lle i'ch plentyn nes i chi wneud eich cais.  Ni fydd eich plentyn yn cael lle mewn ysgol yn awtomatig.

Nid mynychu ysgol gynradd bartner yn gwarantu lle i'ch plentyn yn yr ysgol uwchradd gysylltiedig.

Os ydych chi am newid eich dewis ysgol ar ôl y dyddiad cau a gyhoeddir ar gyfer ceisiadau neu ar ôl i le gael ei gynnig ar y diwrnod cynnig statudol, bydd angen cyflwyno cais newydd. Bydd cais newydd a wneir yn gais hwyr a bydd yn disodli unrhyw geisiadau cynharach a dderbyniwyd ac ni fyddai unrhyw gynigion a wnaed yn flaenorol ar gael mwyach.  Ni allwch gyflwyno cais hwyr ar-lein.

Cysylltwch â'r Tîm Derbyn am ffurflen hwyr: derbyniadau@abertawe.gov.uk

Close Dewis iaith