Llyfryn Gwybodaeth i Rieni 2026 / 2027
Trefniadau derbyn 2026-2027
- Dosbarthiadau meithrin yn ysgolion yr Awdurdod Lleol
- Derbyn
- Blwyddyn 7
- Trosglwyddo yn ystod y flwyddyn
- Derbyniadau i'r Chweched Dosbarth
Yr Awdurdod Lleol, yr ALl, yw'r awdurdod derbyn ar gyfer holl ysgolion cymunedol (ysgolion a ariennir ac a gynhelir yn llwyr gan yr ALl) yr ardal. Cytunodd yr ALl y byddai ysgolion yn gweinyddu'r ceisiadau meithrin ar ran yr ALl. Bydd gofyn i rieni/ofalwyr sydd am gael lle i'w plentyn mewn dosbarth meithrin gyflwyno cais am le. Gall rhieni/gofalwyr naill ai wneud cais am le yn ysgol y dalgylch neu fynegi dewis am le mewn ysgol arall. Gellir darparu cefnogaeth i rieni y mae angen cymorth arnynt lle y bo angen. Caniateir ceisiadau am leoedd os na fydd gwneud hynny'n peryglu darparu addysg effeithlon neu'r defnydd effeithlon o adnoddau. Nid oes hawl i apelio os gwrthodir lle i blentyn mewn dosbarth meithrin. Gall nifer y lleoedd meithrin sydd ar gael fod yn wahanol i nifer derbyn gweddill y grwpiau blwyddyn mewn ysgol (Derbyn i Flwyddyn 6). (a) Meini prawf gorymgeisio - dosbarthiadau meithrin mewn Ysgolion Cymunedol Os cafwyd mwy o geisiadau mewn ysgol na'r lleoedd sydd ar gael, bydd y drefn flaenoriaeth ganlynol yn berthnasol: * Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG), neu a oedd yn arfer derbyn gofal - mae plentyn sy'n derbyn gofal yn cyfeirio at blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol yn Nghymru neu Loegr, (yn ôl diffiniad Adran 22 Deddf Plant 1989 ac Adran 74 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant [Cymru] 2014) ar yr adeg y cyflwynir cais i ysgol ac y mae'r awdurdod lleol wedi cadarnhau y bydd yn parhau i dderbyn gofal pan fydd yn cael mynediad i'r ysgol. Plant a oedd yn arfer derbyn gofal: plant nad ydynt yn derbyn gofal bellach gan eu bod wedi cael eu mabwysiadu, wedi bod yn destun gorchymyn preswyl neu orchymyn gwarcheidwadaeth arbennig yn syth ar ôl derbyn gofal (yn ôl diffiniad Côd Derbyniadau Ysgolion Llywodraeth Cymru, dogfen rhif 005/2013). Bydd angen darparu tystiolaeth ar gyfer holl geisiadau meini prawf PDG. ** Mesurir y pellter o'r tu allan i fynedfa'r eiddo (tŷ neu fflat) i fynedfa swyddogol agosaf yr ysgol. Defnyddir rhaglen gyfrifiadur GIS yr awdurdod lleol i fesur y pellter. *** Diffinnir brawd neu chwaer fel plentyn naturiol neu blentyn sydd wedi'i fabwysiadu'n gyfreithlon gan y naill riant neu'r llall sy'n byw yn yr un cyfeiriad. Mewn unrhyw sefyllfa pan fydd un lle ar gael ac mae'r plant cymwys nesaf ar gyfer y lle hwnnw'n efeilliaid/tripledi, bydd yr ALl yn derbyn y ddau/tri phlentyn. Diffinnir oedran ysgol statudol fel disgyblion sydd rhwng 5 ac 16 oed (h.y. disgyblion mewn unrhyw grŵp blwyddyn rhwng ac yn cynnwys y dosbarth Derbyn a Blwyddyn 11.) Nid yw'r meini prawf gorymgeisio yn berthnasol i ddisgyblion y mae gan yr awdurdod lleol Gynllun Datblygu Unigol (CDU) ar eu cyfer, lle mae'r awdurdod lleol wedi enwi'r ysgol yn adran 2D.1 o'r CDU. Ond mae hawliau'r rhieni i fod yn rhan wrth leoli eu plant wedi'u hamddiffyn gan y gyfraith. Bydd yr awdurdod lleol, mewn ymgynghoriad â rhieni/gofalwyr ac ysgolion, yn penderfynu ym mha ysgol y bydd yr addysg yn cael ei darparu. Mae'r awdurdod lleol yn cadw'r hawl i enwi ysgol nad yw'n ysgol y dalgylch. Mae ar ysgolion ddyletswydd i dderbyn plant â CDU lle mae'r awdurdod lleol wedi enwi ysgol yn adran 2D.1 o'r CDU sydd wedi'u rhoi yn yr ysgol gan yr awdurdod lleol, a chaiff y disgyblion hyn eu cyfrif tuag at y nifer a dderbynnir hyd at y nifer derbyn, oni bai eu bod yn cael eu rhoi mewn Cyfleuster Addysgu Arbenigol â lleoedd cynlluniedig. Roedd yr wybodaeth yn y cyhoeddiad hwn yn gywir pan gafodd ei gyhoeddi, ond gellir ei diweddaru yn seiliedig ar gyngor/deddfwriaeth newydd yn cael ei gyhoeddi nad oedd ar gael pan gyhoeddwyd y ddogfen. Yn Abertawe mae gennym ysgolion eglwysig a Gynorthwyir yn Wirfoddol (sef ysgolion Catholig, ac ysgolion Yr Eglwys yng Nghymru). Penderfynir ar geisiadau i ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol drwy gyfeirio at y meini prawf derbyn a osodwyd gan y Corff Llywodraethu. Cyrff llywodraethu ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol sy'n gyfrifol am bennu eu trefniadau derbyn eu hunain. (b) Gweithdrefnau Derbyn - lleoedd meithrin mewn Ysgolion Cymunedo Gall rhieni/gwarchodwyr gyflwyno cais am le i'w plentyn yn ysgol y dalgylch neu fynegi dewis ar gyfer lle mewn ysgol arall gan ddefnyddio'r ffurflen cais am dderbyn. Caniateir ceisiadau am le os oes lleoedd ar gael yn ôl y nifer derbyn cyhoeddedig. Lle mae'r ceisiadau derbyn yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, dyrennir y lleoedd yn ôl meini prawf gorymgeisio'r ALl. Dylid defnyddio'r prif gyfeiriad preswyl wrth gyflwyno cais. Ni ellir defnyddio cyfeiriadau sydd â chyfyngiadau ar ddeiliadaeth megis cabanau gwyliau a charafannau mewn parciau gwyliau sydd â chyfyngiadau tymhorol ar ddeiliadaeth fel cyfeiriad parhaol. Ni fydd hawl awtomatig gan blant sy'n mynd i ddosbarth meithrin mewn ysgol i dderbyn addysg amser llawn yn yr un ysgol. Bydd angen i rieni/ofalwyr wneud cais am le mewn dosbarth derbyn gyda'r ymgeiswyr eraill ar yr adeg briodol. Ni ellir gwarantu lle yn y dalgylch. Nid yw mynd i'r meithrin mewn unrhyw ysgol yn gwarantu y bydd lle ar gael yn y dosbarth Derbyn. Ni phennir derbyniadau ar sail meini prawf dethol sy'n cynnwys sefyll profion, gweld adroddiadau ysgol neu gyfweld â disgyblion, gyda rhieni neu hebddynt, at ddiben asesu gallu neu ddawn. Dylai rhieni/gofalwyr sy'n byw y tu hwnt i Awdurdod Lleol Cyngor Abertawe gyflwyno cais i'w hawdurdod lleol eu hunain (yr awdurdod lleol y maent yn talu treth y cyngor iddo) oherwydd, os bydd yr ysgol/ysgolion y cyflwynwyd cais amdanynt yn Abertawe'n derbyn gormod o geisiadau, ni fydd rhaid i'r ALl gynnig lle ar gyfer ysgol arall yn Abertawe. Gellir tynnu lle yn ôl gan yr Awdurdod Lleol os derbynnir gwybodaeth sy'n awgrymu nad yw'r cais bellach yn bodloni'r meini prawf gorymgeisio yr aseswyd ef yn wreiddiol yn eu herbyn. Caiff unrhyw le a gymeradwywyd ar sail preswylfa ei dynnu'n ôl os nad yw'r disgybl bellach yn byw'n barhaol yn y cyfeiriad ar ddechrau'r tymor ysgol y mae'r cais yn ymwneud ag ef. Mae'r ALl, fel yr awdurdod derbyn, yn cynnal rhestrau aros ar gyfer ysgolion sydd wedi'u gordanysgrifio. Yn achos pob cais, os yw rhieni/gofalwyr yn methu cael lle i'w plentyn/plant, cânt eu rhoi'n awtomatig ar y rhestr aros a chynigir cyfle iddynt fynd o flaen Panel Apeliadau Annibynnol. Cedwir enwau'r plant ar y rhestr aros am y flwyddyn academaidd gyfan a chânt eu dileu dim ond os ceir apêl lwyddiannus neu os yw rhiant yn cadarnhau'n ysgrifenedig nad yw'n dymuno i enw ei blentyn fod ar y rhestr aros bellach. Os daw lle ar gael, caiff ei ddyrannu gan yr ALl yn unol â'r meini prawf gordanysgrifio. Ni fydd rhaid i'r ALl gydymffurfio ag unrhyw ddewis a fynegwyd fel arall ond yn unol â'i drefniadau'n unig.Trefniadau derbyn i ysgolion meithrin 2026 / 2027
(Dosbarthiadau meithrin yn ysgolion yr Awdurdod Lleol.)
Derbyn i ddosbarthiadau meithrin
Plant a chanddynt Anghenion Dysgu Ychwanegol
Ysgolion a Gynorthwyir yn Wirfoddol
Tynnu lle yn ôl
Rhestrau aros
Gwyliau'r Pasg Amserlen digwyddiadau ar gyfer ysgolion cynradd (derbyn) 2026 / 2027
Dyddiad Manylion 2 Rhagfyr 2024 Rhoi'r trefniadau derbyn i ysgolion ar gyfer ymgynghori 27 Ionawr 2025 Dychwelyd ymatebion i'r ymgynghoriad i awdurdod lleol (ALI) 28 Ionawr - 11 Chwefror 2025 Cyfnod i'r All ddatrys ymholiadau 6 Mawrth 2025 Adroddiad ar yr ymgynghori i Briffio Corfforaethol 3 Ebrill 2025 Y cyngor yn pennu'r Trefniadau Derbyn Medi 2025 Gwybodaeth i rieni ar gael i ysgolion a rhieni / gofalwyr ar wefan Cyngor Abertawe neu ar gopi caled (ar gael ar gais) 6 Hydref 2025 Gwahoddir rhieni / gwarcheidwaid i gyflwyno cais am le yn yr ysgol 6 Hydref - 28 Tachwedd 2025 Cyfnod o wyth wythnos i rieni gyflwyno eu ceisiadau derbyn 28 Tachwedd 2025 Dyddiad cau i rieni / ofalwyr gyflwyno cais am dderbyn plentyn i Dim Derbyniadau Ysgolion Cyngor Abertawe 30 Mawrth - 10 Ebrill 2026 16 Ebrill 2026 Yr awdurdod lleol yn dweud wrth rieni / ofalwyr am y lleoedd a gynigiwyd mewn ysgolion cynradd. (Dyddiad cynnig Cymru Gyfan) 14 Mai 2026 Dyddiad olaf i rieni / warcheidwaid gyflwyno apêl
Gwyliau hanner tymor Amserlen digwyddiadau ar gyfer ysgolion uwchradd (Blwyddyn 7) 2026 / 2027
Dyddiad Manylion 2 Rhagfyr 2024 Rhoi'r trefniadau derbyn i ysgolion ar gyfer ymgynghori 27 Ionawr 2025 Dychwelyd ymatebion i'r ymgynghoriad i awdurdod lleol (ALI) 28 Ionawr - 11 Chwefror 2025 Cyfnod i'r ALI ddatrys ymholiadau 6 Mawrth 2025 Adroddiad ar yr ymgynghori i Briffio Corfforaethol 3 Ebrill 2025 Y cyngor yn pennu Trefniadau Derbyn Medi 2025 Gwybodaeth i rieni ar gael i ysgolion a rhieni / gofalwyr ar wefan Cyngor Abertawe neu ar gopi caled (ar gael ar gais) 6 Hydref 2025 Gwahoddir rheini i gyflwyno cais am le yn yr ysgol 6 Hydref - 28 Tachwedd 2025 Cyfnod o wyth wythnos i rieni gyflwyno eu ceisiadau derbyn 28 Tachwedd 2025 Dyddiad cau i rieni / ofalwyr gyflwyno cais am dderbyn plentyn i Dim Derbyniadau Ysgolion Cyngor Abertawe 16 Chwefror - 20 Chwefror 2026 2 Mawrth 2026 Yr awdurdod lleol yn rhoi gwybod i rieni / ofalwyr am leoedd a gynigir mewn ysgolion uwchradd. (Dyddiad cynnig Cymru Gyfan). 27 Mawrth 2026 Dyddiad olaf i rieni / warcheidwaid gyflwyno apél
Yr Awdurdod Lleol, yr ALl, yw'r awdurdod derbyn ar gyfer holl ysgolion cymunedol (ysgolion a ariennir ac a gynhelir yn llwyr gan yr ALl) yr ardal. Bydd gofyn i rieni/ofalwyr sydd am gael lle mewn ysgol gyflwyno cais am le. Gall rhieni/gofalwyr naill ai wneud cais am le yn ysgol y dalgylch neu fynegi dewis am le mewn ysgol arall. Gellir darparu cefnogaeth i rieni y mae angen cymorth arnynt lle y bo angen. Caniateir ceisiadau os na fydd gwneud hynny'n: (a) Cyfyngiadau Derbyn - Ysgolion Cymunedol Penderfynir ar argaeledd lleoedd trwy gyfeirio at nifer derbyn yr ysgol. Gwrthodir lle i blentyn ar ôl cyrraedd y nifer derbyn. Os gwrthodir lle yn yr ysgol, mae'n rhaid rhoi hawl apelio i'r rhieni/gofalwyr hynny (nid oes hawl i apelio ar gyfer y meithrin). Mae'r nifer derbyn yn berthnasol i bob grŵp blwyddyn. Mae'r trefniadau hyn yn berthnasol i ddisgyblion sy'n trosglwyddo o'r dosbarth derbyn hyd at flwyddyn 11. (b) Meini Prawf Gorymgeisio - Ysgolion Cymunedol Os cafwyd mwy o geisiadau mewn ysgol na'r lleoedd sydd ar gael, bydd y drefn flaenoriaeth ganlynol yn berthnasol: * Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG), neu a oedd yn arfer derbyn gofal - mae plentyn sy'n derbyn gofal yn cyfeirio at blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol yn Nghymru neu Loegr, (yn ôl diffiniad Adran 22 Deddf Plant 1989 ac Adran 74 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant [Cymru] 2014) ar yr adeg y cyflwynir cais i ysgol ac y mae'r awdurdod lleol wedi cadarnhau y bydd yn parhau i dderbyn gofal pan fydd yn cael mynediad i'r ysgol. Plant a oedd yn arfer derbyn gofal: plant nad ydynt yn derbyn gofal bellach gan eu bod wedi cael eu mabwysiadu, wedi bod yn destun gorchymyn preswyl neu orchymyn gwarcheidwadaeth arbennig yn syth ar ôl derbyn gofal (yn ôl diffiniad Côd Derbyniadau Ysgolion Llywodraeth Cymru, dogfen rhif 005/2013). Bydd angen darparu tystiolaeth ar gyfer holl geisiadau meini prawf PDG. **Mesurir y pellter o'r tu allan i fynedfa'r eiddo (tŷ neu fflat) i fynedfa swyddogol agosaf yr ysgol. Defnyddir rhaglen gyfrifiadur GIS yr awdurdod lleol i fesur y pellter. ***Diffinnir brawd neu chwaer fel plentyn naturiol neu blentyn sydd wedi'i fabwysiadu'n gyfreithlon gan y naill riant neu'r llall sy'n byw yn yr un cyfeiriad. Mewn unrhyw sefyllfa pan fydd un lle ar gael ac mae'r plant cymwys nesaf ar gyfer y lle hwnnw'n efeilliaid/tripledi, bydd yr ALl yn derbyn y ddau/tri phlentyn. Diffinnir oedran ysgol statudol fel disgyblion sydd rhwng 5 ac 16 oed (h.y. disgyblion mewn unrhyw grŵp blwyddyn rhwng ac yn cynnwys y dosbarth Derbyn a Blwyddyn 11.) Ni fydd yr ALl yn darparu cludiant nac yn cyfrannu at gostau cludiant ar gyfer y plant sy'n cael eu derbyn o'r tu allan i ddalgylch penodol yr ysgol. Fodd bynnag, os yw grŵp blwyddyn ysgol y dalgylch yn llawn, darperir cludiant i'r ysgol agosaf â lle, os yw'r ysgol honno'nn fwy na 2 filltir o'r cartref ar gyfer ysgol gynradd neu 3 milltir ar gyfer ysgol uwchradd. Mae Polisi Cludiant i'r Ysgol yr ALl a gwybodaeth am gludiant i'r ysgol ar gael ar wefan y cyngor www.abertawe.gov.uk/cludiantirysgol Nid yw'r meini prawf gorymgeisio yn berthnasol i ddisgyblion y mae gan yr awdurdod lleol Gynllun Datblygu Unigol (CDU) ar eu cyfer, lle mae'r awdurdod lleol wedi enwi'r ysgol yn adran 2D.1 o'r CDU. Ond mae hawliau'r rhieni i fod yn rhan wrth leoli eu plant wedi'u hamddiffyn gan y gyfraith. Bydd yr awdurdod lleol, mewn ymgynghoriad â rhieni/gofalwyr ac ysgolion, yn penderfynu ym mha ysgol y bydd yr addysg yn cael ei darparu. Mae'r awdurdod lleol yn cadw'r hawl i enwi ysgol nad yw'n ysgol y dalgylch. Mae ar ysgolion ddyletswydd i dderbyn plant â CDU lle mae'r awdurdod lleol wedi enwi ysgol yn adran 2D.1 o'r CDU sydd wedi'u rhoi yn yr ysgol gan yr awdurdod lleol, a chaiff y disgyblion hyn eu cyfrif tuag at y nifer a dderbynnir hyd at y nifer derbyn, oni bai eu bod yn cael eu rhoi mewn Cyfleuster Addysgu Arbenigol â lleoedd cynlluniedig. Roedd yr wybodaeth yn y cyhoeddiad hwn yn gywir pan gafodd ei gyhoeddi, ond gellir ei diweddaru yn seiliedig ar gyngor/deddfwriaeth newydd yn cael ei gyhoeddi nad oedd ar gael pan gyhoeddwyd y ddogfen. Yn Abertawe mae gennym ysgolion eglwysig a Gynorthwyir yn Wirfoddol (sef ysgolion Catholig, ac ysgolion Yr Eglwys yng Nghymru). Penderfynir ar geisiadau i ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol drwy gyfeirio at y meini prawf derbyn a osodwyd gan y Corff Llywodraethu. Cyrff llywodraethu ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol sy'n gyfrifol am bennu eu trefniadau derbyn eu hunain. (c) Gweithdrefnau Derbyn - Ysgolion Cymunedol Gofynnir i rieni/ofalwyr wneud cais ar-lein am le i'w plentyn yn ysgol y dalgylch neu fynegi dewis ar gyfer lle mewn ysgol arall gan ddefnyddio ffurflen cais am dderbyn. Caniateir ceisiadau am le os oes lleoedd ar gael yn ôl y nifer derbyn cyhoeddedig. Lle mae'r ceisiadau derbyn yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, dyrennir y lleoedd yn ôl meini prawf gorymgeisio'r ALl. Dylid defnyddio'r prif gyfeiriad preswyl wrth gyflwyno cais. Ni ellir defnyddio cyfeiriadau sydd â chyfyngiadau ar ddeiliadaeth megis cabanau gwyliau a charafannau mewn parciau gwyliau sydd â chyfyngiadau tymhorol ar ddeiliadaeth fel cyfeiriad parhaol. Ni fydd hawl awtomatig gan blant sy'n mynd i ddosbarth meithrin mewn ysgol i dderbyn addysg amser llawn yn yr un ysgol. Bydd angen i rieni/ofalwyr wneud cais am le mewn dosbarth derbyn gyda'r ymgeiswyr eraill ar yr adeg briodol. Nid yw mynd i'r meithrin mewn unrhyw ysgol yn gwarantu y bydd lle ar gael yn y dosbarth Derbyn. Nid yw mynychu ysgol gynradd bartner yn gwarantu lle yn yr ysgol uwchradd gysylltiedig. Nid oes sicrwydd y bydd lle ar gael mewn ysgol hyd yn oes os ydych yn symud i ddalgylch ysgol. Ni phennir derbyniadau ar sail meini prawf dethol sy'n cynnwys sefyll profion, gweld adroddiadau ysgol neu gyfweld â disgyblion, gyda rhieni neu hebddynt, at ddiben asesu gallu neu ddawn. Dylai rhieni/gofalwyr sy'n byw y tu hwn i Awdurdod Lleol Cyngor Abertawe gyflwyno cais i'w hawdurdod lleol eu hunain (yr awdurdod lleol y maent yn talu treth y cyngor iddo) oherwydd, os bydd yr ysgol/ysgolion y cyflwynwyd cais amdanynt yn Abertawe'n derbyn gormod o geisiadau, ni fydd rhaid i'r ALl gynnig lle ar gyfer ysgol arall yn Abertawe. Bydd pob dewis gan rieni yn cael ei ystyried yn gyfartal. Os gellir bodloni un neu fwy o ddewisiadau, bydd yr ysgol sydd wedi'i gosod uchaf gan y rhiant/gwarchodwr o ran dewis yn cael ei chynnig a bydd yr holl ddewisiadau eraill yn cael eu tynnu'n ôl. Caiff rhieni/gofalwyr eu hysbysu'n ysgrifenedig a fu eu cais yn llwyddiannus. Os gwrthodwyd eu cais, hysbysir rhieni/gofalwyr drwy lythyr bod ganddynt hawl i apelio i Banel Apêl Annibynnol (nid oes hawl i apelio ar gyfer y meithrin). Os byddant yn dewis arfer yr hawl honno, rhaid cyflwyno'r apêl i'r Dîm Derbyniadau Ysgolion Cyngor Abertawe. Caiff yr apêl ei ystyried gan Banel Apêl Annibynnol sy'n cynnwys 3 i 5 person, sef pobl leyg a phobl â phrofiad o faes addysg. Sylwer: Oherwydd uchafswm statudol maint dosbarthiadau, sef 30, prin iawn yw'r amgylchiadau lle gall apêl am le mewn dosbarth babanod (Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2) lwyddo. Amlinellir yr amgylchiadau cyfyngedig yn Atodiad C - pwynt C.4 o God Apelau Derbyn i Ysgolion Llywodraeth Cymru - Dogfen Rhif: 001/2023. Mae'r awdurdod lleol, fel yr awdurdod derbyn, yn cynnal rhestrau aros ar gyfer ysgolion y mae gormod o bobl yn gwneud cais am le ynddynt. Yn achos pob cais, os nad yw rhieni/gofalwyr yn gallu cael lle i'w plant, cânt eu rhoi'n awtomatig ar y rhestr aros a chynigir cyfle iddynt gwrdd â Phanel Apêl Annibynnol (nid oes hawl i apelio ar gyfer y meithrin). Cedwir enwau'r disgyblion ar y rhestr aros am y flwyddyn academaidd gyfan a chânt eu dileu dim ond os ceir apêl lwyddiannus neu os yw rhiant yn cadarnhau'n ysgrifenedig nad yw'n dymuno i enw ei blentyn fod ar y rhestr aros mwyach. Os daw lle ar gael, caiff ei ddyrannu gan yr awdurdod lleol yn unol â'r meini prawf gorymgeisio. Ni fydd rhaid i'r ALl gydymffurfio ag unrhyw ddewis a fynegwyd fel arall ond yn unol â'i drefniadau'n unig.Trefniadau derbyn i ysgolion - trosglwyddo yn ystod y flwyddyn 2026 / 2027
Trosglwyddau yn ystod y flwyddyn.
Derbyn i Ysgolion Cymunedol - (Cynradd ac Uwchradd)
Plant a chanddynt Anghenion Dysgu Ychwanegol
Ysgolion a Gynorthwyir yn Wirfoddol
Dewis cyfartal
Hawl i Apelio
Rhestrau Aros
Gall disgyblion wneud cais am le mewn chweched dosbarth yn un o ysgolion Abertawe yn nhymor y gwanwyn ar gyfer y mis Medi canlynol. Pennir dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau gan ysgolion unigol. Cynigir lle amodol i ddisgyblion yr ysgol. Bydd y lle dros dro hwn yn amodol ar gyflawni cymwysterau mynediad penodol fel a gyhoeddir gan bob ysgol unigol. Am ragor o wybodaeth am gymwysterau mynediad penodol, cysylltwch yn uniongyrchol â'r ysgol. Pan cyhoeddir canlyniadau TGAU, h.y. y trydydd dydd Iau ym mis Awst fel arfer, bydd angen i ddisgyblion unigol gysylltu â'r ysgol o'u dewis i gadarnhau eu canlyniadau TGAU neu gyfwerth. Mae'n bosib y bydd myfyrwyr sydd wedi cyflawni graddau boddhaol mewn arholiadau TGAU neu gyfwerth yn derbyn cynnig cadarnhaol o le yn yr ysgol o'u dewis os bydd lleoedd ar gael. Fodd bynnag, dylid nodi efallai na fydd yn bosib astudio pob un o'r pynciau a ddewiswyd yn yr ysgol a ddewiswyd. Efallai y bydd angen i ddisgyblion wneud cysylltiad â chweched dosbarth mewn ysgol arall er mwyn astudio rhai pynciau. Mae'n bosib y bydd myfyrwyr sydd wedi cyflawni graddau boddhaol mewn arholiadau TGAU neu gyfwerth ond nid ydynt yn gallu astudio'r holl bynciau o'u dewis yn yr ysgol o'u dewis yn cael cynnig dewis arall o'r pynciau sy'n cael eu haddysgu yn y lleoliad hwnnw. Fel arall, gall y disgyblion hynny chwilio am le mewn lleoliad arall, h.y. chweched dosbarth mewn ysgol arall yn Abertawe neu yng Ngholeg Gŵyr. Ni fydd gofyn i ddisgyblion gael cyfweliad mynediad. Gall pob ysgol â chweched dosbarth dderbyn hyd at ei uchafswm derbyn, yn amodol ar fyfyrwyr yn cyflawni'r gofynion mynediad penodol a nodwyd gan yr ysgol (ceir manylion gan ysgolion unigol). Mae'n rhaid rhoi hawl apelio i rieni a disgyblion y mae eu cais am le yn chweched dosbarth yr ysgol yn cael ei wrthod. Rhoddir y cyfrifoldeb am y trefniadau ar gyfer blynyddoedd 12 a 13 mewn ysgolion cymunedol a gynhelir i'r sefydliadau'n uniongyrchol. Gellir gofyn am fanylion trefniadau derbyn ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol yn uniongyrchol gan y sefydliadau perthnasol a bydd y rhain yn rhan o'u polisïau derbyn. Os bydd gorysgrifio am leoedd mewn chweched dosbarth ac ni all yr ysgol fodloni'r galw am gyrsiau, caiff rhestr aros ei chynnal. Bydd ymgeiswyr sydd wedi bodloni'r meini prawf mynediad (gweler uchod) ond y mae eu cais am le wedi cael ei wrthod oherwydd prinder lle yn cael cyfle i roi eu henwau ar restr aros. Os daw lle/lleoedd ar gael, bydd disgyblion y mae eu henwau ar y rhestr aros yn cael cynnig lle yn unol â'r meini prawf gorymgeisio (gweler isod). I ddisgyblion sy'n cyflawni'r cymwysterau mynediad penodol pan fo mwy o geisiadau wedi cael eu derbyn ar gyfer unrhyw chweched dosbarth na'r lleoedd sydd ar gael, caiff y drefn flaenoriaeth ganlynol ei dilyn: * Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG), neu a oedd yn arfer derbyn gofal - mae plentyn sy'n derbyn gofal yn cyfeirio at blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol yn Nghymru neu Loegr, (yn ôl diffiniad Adran 22 Deddf Plant 1989 ac Adran 74 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant [Cymru] 2014) ar yr adeg y cyflwynir cais i ysgol ac y mae'r awdurdod lleol wedi cadarnhau y bydd yn parhau i dderbyn gofal pan fydd yn cael mynediad i'r ysgol. Plant a oedd yn arfer derbyn gofal: plant nad ydynt yn derbyn gofal bellach gan eu bod wedi cael eu mabwysiadu, wedi bod yn destun gorchymyn preswyl neu orchymyn gwarcheidwadaeth arbennig yn syth ar ôl derbyn gofal (yn ôl diffiniad Côd Derbyniadau Ysgolion Llywodraeth Cymru, dogfen rhif 005/2013). Bydd angen darparu tystiolaeth ar gyfer holl geisiadau meini prawf PDG. **Mesurir pob llwybr gan gyfrifiadur gan ystyried y pellter o'r cartref i'r ysgol ar hyd y llwybr cerdded byrraf sydd ar gael. Cymerir y mesuriadau o'r tu allan i fynedfa'r eiddo (tŷ neu fflat) i fynedfa swyddogol agosaf yr ysgol. ***Diffinnir brawd neu chwaer fel plentyn naturiol neu blentyn sydd wedi'i fabwysiadu'n gyfreithlon gan y naill riant neu'r llall sy'n byw yn yr un cyfeiriad. Mewn unrhyw sefyllfa pan fydd un lle ar gael ac mae'r disgyblion cymwys nesaf ar gyfer y lle hwnnw'n efeilliaid/tripledi, bydd yr ALl yn derbyn y ddau/tri phlentyn. Diffinnir oedran ysgol statudol fel disgyblion sydd rhwng 5 ac 16 oed (h.y. disgyblion mewn unrhyw grŵp blwyddyn rhwng ac yn cynnwys y dosbarth Derbyn a Blwyddyn 11.) SYLWER: Gall disgyblion â CDUau lle mae'r awdurdod lleol enwi ysgol yn adran 2D.1 o'r CDU drosglwyddo i chweched dosbarth yn ysgolion Abertawe. Gwneir y penderfyniad i drosglwyddo gan yr awdurdod lleol mewn ymgynghoriad â'r ysgol berthnasol. Roedd yr wybodaeth yn y cyhoeddiad hwn yn gywir ar adeg ei chyhoeddi, ond gellir ei diweddaru yn seiliedig ar gyhoeddi cyngor/deddfwriaeth newydd nad oedd ar gael pan gyhoeddwyd y ddogfen.Trefniadau derbyn i'r chweched dosbarth 2026 / 2027
Meini prawf ar gyfer mynediad.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Cynnig Amodol
Canlyniadau TGAU / cyfwerth
Dewis Pynciau
Terfynau Mynediad - Chweched Dosbarth
Trefniadau Derbyn
Rhestr Aros
Meini Prawf Gorymgeisio