Toglo gwelededd dewislen symudol

Llyfryn Gwybodaeth i Rieni 2024 / 2025

Sut i wneud cais

Y ffordd hawsaf o wneud cais yw ar-lein: www.abertawe.gov.uk/gwneudcaisysgol

Os byddwch yn aros tan y diwrnod olaf i gyflwyno'ch cais ac yn profi unrhyw anawsterau wrth lenwi'r ffurflen, dylech fod yn ymwybodol na fydd cymorth technegol ar gael ar ôl 4.00pm ar y diwrnod cau (24 Tachwedd 2023).

Pethau i'w cofio!

  • Bydd angen cyfeiriad e-bost dilys arnoch i wneud cais ar-lein.
  • Gwnewch gais ar amser.
  • Darllenwch y meini prawf gor-alw.
  • Defnyddiwch eich holl ddewisiadau.
  • Ystyriwch gynnwys eich ysgol ddalgylch fel dewis.
  • Gwenewch yn siwr eich bod yn pwyso CYFLWYNO pan fyddwch wedi cwblhau eich cais ar-lein.
  • Gwiriwch eich bod wedi derbyn e-bost yn cadarnhau bod y cais wedi'i gyflwyno - mae'r e-bost hwn yn rhestru'r dewisiadau ysgol a ddewiswyd gennych.
  • Ailgyflwynwch eich cais os byddwch yn gwneud unrhyw newidiadau (dim ond tra bod y ffenestr dderbyn ar agor y gellir gwneud newidiadau).
  • Ni chewch gynnig lle mewn Ysgol os na fyddwch yn cyflwyno cais.

Os yw eich cais yn hwyr, gallai hyn leihau'n sylweddol eich siawns o gael y lle rydych ei eisiau.

 

Close Dewis iaith