Trwyddedau parcio
Os oes cilfach barcio i breswyliwr ar eich stryd neu mewn stryd gerllaw, gallwch wneud cais am hawlen ddigidol.
Ffoniwch 01792 637366 os oes gennych unrhyw ymholiadau, Dydd Llun - dydd Iau 8.30am - 5.00pm, dydd Gwener 8.30am - 4.30pm.
Hawlen barcio i breswylwyr
Mae hawlenni parcio am ddim a'r bwriad yw eu bod yn galluogi preswylwyr i barcio'n agos at eu heiddo.
Hawlen Pris Arbennig ar gyfer Preswylwyr
Mae Hawlenni Pris Arbennig ar gyfer Preswylwyr am ddim ac maent yn caniatáu i breswylwyr Abertawe barcio am bris gostyngol ym meysydd parcio'r cyngor.
Gwneud cais am gilfachau parcio i breswylwyr
Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i wneud cais am gynllun parcio preswylwyr ar gyfer y stryd rydych yn byw arni.
Trwyddedau cynorthwywyr gofal
Gellir cyflwyno'r math hwn o drwydded i sefydliadau neu gwmnïau sy'n darparu gofal er mwyn i'w staff allu parcio mewn cilfannau parcio preswylwyr pan fyddant yn ymweld â chleientiaid i ddarparu gofal.
Trwydded barcio ar gyfer ymwelwyr ar eu gwyliau
Gall ymwelwyr sy'n byw y tu allan i Abertawe fel arfer ac a fydd yn aros yn yr ardal am o leiaf 3 diwrnod ddefnyddio un o'r trwyddedau parcio hyn i barcio mewn cilfannau parcio preswylwyr pan fyddant yma.
Cofrestru ar gyfer hawlenni parcio i breswylwyr tai amlfeddiannaeth
Os ydych chi'n byw mewn tŷ amlfeddiannaeth ac ni allwch gael Cyfeirnod Treth y Cyngor gan eich landlord, bydd angen i chi roi gwybod i ni fel y gallwn eich cofrestru ar ein system cyn y gallwch gyflwyno cais am hawlen.
Hepgoriadau parcio
Rhoddir ildiadau hawl i adeiladwyr a masnaschwyr y mae angen mynediad arnynt i lwytho/dadlwytho cerbyd mewn ardaloedd cyfyngedig neu barthau parcio i breswylwyr at ddibenion gwaith.
Gwneud cais am farc bar 'H' ar draws mynedfa gerbydau neu gerddwyr
Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i wneud cais am farc bar 'H' ar gyfer y stryd rydych yn byw ynddi.
Amodau a thelerau hawlenni parcio
Mae'n drosedd rhoi gwybodaeth anwir neu gamarweiniol wrth wneud cais am hawlen barcio.