Gwneud cais am Drwydded Mangre newydd: Pecyn gwybodaeth Deddf Trwyddedu 2003
Trwydded mangre: Cwblhau'r ffurflen gais
Darllenwch y nodiadau hyn cyn i chi gwblhau'r ffurflen gais gan y byddant yn eich helpu gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych.
Amserlen Weithredu
Fe welwch eich amserlen weithredu ar adran P o'ch ffurflen gais.
Beth yw amserlen weithredu?
Mae amserlen weithredu yn ddogfen sy'n rhoi disgrifiad clir i'r Awdurdod Trwyddedu o fath a natur y busnes mae'r ymgeisydd yn bwriadu ei weithredu dan y drwydded mangre, gan gynnwys y camau y byddant yn eu cymryd i sicrhau bod yr amcanion trwyddedu yn cael eu hyrwyddo. Dylai gynnwys y canlynol:
- Arddull a chymeriad y busnes: (h.y. - bwyty, Clwb Nos, Bar, Tecawê)
- Gweithgareddau trwyddedadwy perthnasol a'r amseroedd y maent yn cael eu darparu;
- Unrhyw amseroedd eraill y bydd y cyhoedd yn cael mynediad;
- Unrhyw gyfnod cyfyngedig y mae'r drwydded i fodoli ar ei gyfer;
- Manylion y Goruchwyliwr Dynodedig Mangre (lle bydd alcohol yn cael ei werthu);
- P'un a yw alcohol i'w werthu i'w yfed ar y safle, oddi ar y safle, neu'r ddau; a
- Sut y bydd y 4 'amcan trwyddedu' yn cael eu hyrwyddo. Rhoddir eglurhad manylach o'r rhain isod.
Fe welwch fod eich amserlen weithredu'n cynnwys 5 Adran, un ar gyfer pob un o'r 4 Amcan Trwyddedu, ac adran gyffredinol. Fe'ch cynghorir i gwblhau'r pedwar amcan yn y lle cyntaf, ac yna i ddychwelyd i roi'r ffactorau pwysicaf yn eich adran gyffredinol.
Amodau Gorfodol
Mae'r canlynol yn amodau gorfodol y gellid eu hatodi at eich trwydded mangre. Bydd p'un a ydynt ynghlwm ai peidio yn dibynnu ar y gweithgareddau rydych chi'n bwriadu eu darparu.
Amodau gorfodol pan fo trwydded yn awdurdodi cyflenwi alcohol.
- Ni chaniateir cyflenwi unrhyw alcohol o dan y Drwydded Mangre
- Ar adeg pan nad oes Goruchwyliwr Dynodedig Mangre mewn perthynas â'r Drwydded Mangre neu;
- Ar adeg pan nad oes gan y Goruchwyliwr Dynodedig Mangre Drwydded Bersonol neu pan fydd ei Drwydded Bersonol wedi'i hatal.
- Rhaid i bob cyflenwad o alcohol o dan drwydded y fangre gael ei wneud neu ei awdurdodi gan berson sydd â thrwydded bersonol.
Amod gorfodol: Arddangos ffilmiau
Pan fo Trwydded Mangre yn awdurdodi arddangos ffilmiau, mae'r amod canlynol yn berthnasol:
- Bydd mynediad plant o dan 18 oed i arddangosiadau ffilmiau a ganiateir o dan delerau'r drwydded hon yn cael ei gyfyngu yn unol ag unrhyw argymhellion a wneir:
- Gan Fwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain (BBFC), lle mae'r ffilm wedi'i dosbarthu gan y Bwrdd hwnnw, neu;
- Gan yr Awdurdod Trwyddedu lle nad oes unrhyw dystysgrif ddosbarthu wedi'i rhoi gan y BBFC, neu, os yw'r Awdurdod Trwyddedu wedi hysbysu deiliad y drwydded fod adran 20 (3) (b) (74 (3)(b) ar gyfer clybiau) o Ddeddf Trwyddedu 2003 yn berthnasol i'r ffilm.
Amod gorfodol: Goruchwylwyr drws
- Pan fydd trwydded mangre yn cynnwys amod bod yn rhaid i un unigolyn neu ragor fod ar yr eiddo ar adegau penodol i gwblhau gweithgaredd diogelwch, rhaid i'r drwydded gynnwys amod bod yn rhaid i unrhyw unigolyn o'r fath
- gael ei awdurdodi i gyflawni'r gweithgaredd hwnnw drwy drwydded a roddwyd o dan Ddeddf y Diwydiant Diogelwch Preifat 2001; neu
- fod â hawl i gyflawni'r gweithgaredd hwnnw yn rhinwedd adran 4 o'r Ddeddf honno."
- Ond nid oes unrhyw beth yn is-adran (1) sy'n gofyn am osod amod o'r fath
- ar gyfer safleoedd o fewn paragraff 8(3)(a) o Atodlen 2 Deddf y Diwydiant Diogelwch Preifat 2001 (c. 12) (safleoedd gyda thrwyddedau safle sy'n awdurdodi dramâu neu ffilmiau, neu
- ar gyfer safleoedd mewn perthynas â (2.1) unrhyw achlysur a grybwyllir ym mharagraff 8(3)(b) neu (c) o'r Atodlen honno (safleoedd sy'n cael eu defnyddio gan glwb sydd â thystysgrif mangre clwb yn unig, dan hysbysiad digwyddiad dros dro sy'n awdurdodi dramâu neu ffilmiau, neu dan drwydded hapchwarae), neu
- unrhyw achlysur o fewn paragraff 8(3)(d) o'r Atodlen honno (achlysuron a bennir gan reoliadau dan y Ddeddf honno).
- At ddibenion yr adran hon
- mae "gweithgaredd diogelwch" yn golygu gweithgaredd y mae paragraff 2(1)(a) o'r Atodlen honno'n berthnasol ar ei gyfer, ac sy'n ymddygiad trwyddedadwy at ddibenion y Ddeddf honno (gweler adran 3(2) o'r Ddeddf honno) ".
- mae paragraff 8(5) o'r Atodlen honno (dehongli cyfeiriadau at achlysur) yn berthnasol, am ei fod yn berthnasol mewn perthynas â pharagraff 8 o'r Atodlen honno.
Amodau gorfodol pan fo trwydded yn awdurdodi gwerthu neu gyflenwi alcohol i'w yfed ar y safle
- Bydd y person cyfrifol yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau nad yw'r staff ar y safle yn cynnal, trefnu neu'n cymryd rhan mewn unrhyw ymgyrchoedd hyrwyddo anghyfrifol mewn perthynas â'r safle.
- Mae ymgyrch hyrwyddo anghyfrifol yn golygu un neu fwy o'r gweithgareddau canlynol, neu weithgareddau tebyg iawn, sy'n digwydd er mwyn hyrwyddo gwerthiant neu gyflenwad alcohol i'w yfed ar y safle mewn ffordd sy'n peri risg sylweddol o arwain neu gyfrannu at drosedd ac anrhefn, peryglu diogelwch y cyhoedd, niwsans i'r cyhoedd, neu niwed i blant
- gemau neu weithgareddau eraill sy'n gofyn neu'n annog, neu sydd wedi'u cynllunio i ofyn neu annog unigolion i -
- yfed swm o alcohol o fewn cyfyngiad amser (ac eithrio yfed alcohol a werthir neu a gyflenwir ar y safle cyn diwedd y cyfnod y mae'r person cyfrifol wedi'i awdurdodi i werthu neu gyflenwi alcohol), neu
- yfed cymaint o alcohol â phosibl (boed o fewn cyfyngiad amser neu fel arall);
- darparu symiau diderfyn neu amhenodol o alcohol am ddim neu am ffi sefydlog neu ostyngol i'r cyhoedd neu i grŵp a ddiffinnir gan nodwedd benodol (ac eithrio unrhyw hyrwyddiad neu ddisgownt sydd ar gael i unigolyn mewn perthynas ag alcohol i'w yfed gyda phryd bwyd wrth y bwrdd, fel y'i diffinnir yn adran 159 o'r Ddeddf);
- Darparu alcohol am ddim neu am bris gostyngol neu unrhyw beth arall fel gwobr i annog neu i wobrwyo prynu ac yfed alcohol dros gyfnod o 24 awr neu lai;
- Darparu alcohol am ddim neu am bris gostyngol mewn perthynas â gwylio digwyddiad chwaraeon ar y safle, lle bo'r ddarpariaeth honno'n ddibynnol ar -
- ganlyniad ras, cystadleuaeth neu ddigwyddiad neu broses arall, neu'r
- tebygolrwydd y bydd rhywbeth yn digwydd neu ddim yn digwydd;
- gwerthu neu gyflenwi alcohol mewn cysylltiad â phosteri neu daflenni ar y safle neu yn y cyffiniau a ellir ei ystyried yn rhesymol fel ei fod yn caniatáu, neu'n annog neu'n cyfeirio at effeithiau meddwdod ac ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn modd ffafriol.
- gemau neu weithgareddau eraill sy'n gofyn neu'n annog, neu sydd wedi'u cynllunio i ofyn neu annog unigolion i -
- Rhaid i'r person cyfrifol sicrhau nad oes unrhyw unigolyn yn tywallt alcohol yn uniongyrchol i geg unigolyn arall (heblaw pan fo unigolyn yn methu yfed heb gymorth oherwydd anabledd).
- Rhaid i'r person cyfrifol sicrhau bod dŵr tap am ddim yn cael ei ddarparu ar gais i gwsmeriaid lle mae ar gael yn rhesymol.
- Rhaid i ddeiliad y drwydded mangre neu ddeiliad tystysgrif mangre'r clwb sicrhau bod polisi gwirio oedran yn berthnasol ar y safle mewn perthynas â gwerthu neu gyflenwi alcohol.
- Rhaid i'r polisi fynnu bod unigolion sy'n edrych dan 18 oed i'r person cyfrifol (neu'r oed hŷn a nodir yn y polisi) ddangos ar gais, cyn cael prynu alcohol, tystiolaeth yn dangos eu llun, eu dyddiad geni a marc holograffig.
- Rhaid i'r person cyfrifol sicrhau -
- os caiff unrhyw un o'r diodydd alcoholig canlynol eu gwerthu neu eu cyflenwi i'w hyfed ar y safle (heblaw am ddiodydd alcohol sy'n cael eu gwerthu neu eu cyflenwi ar ôl eu gwneud yn barod i'w gwerthu mewn cynhwysydd wedi'i gau'n ddiogel), bydd yr alcohol ar gael i gwsmeriaid yn y mesurau a ganlyn -
- cwrw neu seidr: 1⁄2 peint;
- jin, rym, fodca neu wisgi: 25 ml neu 35 ml; a
- gwin llonydd mewn gwydr: 125 ml; a
- bod cwsmeriaid yn ymwybodol o argaeledd y mesurau hyn
- os caiff unrhyw un o'r diodydd alcoholig canlynol eu gwerthu neu eu cyflenwi i'w hyfed ar y safle (heblaw am ddiodydd alcohol sy'n cael eu gwerthu neu eu cyflenwi ar ôl eu gwneud yn barod i'w gwerthu mewn cynhwysydd wedi'i gau'n ddiogel), bydd yr alcohol ar gael i gwsmeriaid yn y mesurau a ganlyn -
- Amodau gorfodol pan fo trwydded yn awdurdodi gwerthu neu gyflenwi alcohol i'w yfed oddi ar y safle.
- Rhaid i ddeiliad y drwydded mangre neu ddeiliad tystysgrif mangre'r clwb sicrhau bod polisi gwirio oedran yn berthnasol ar y safle mewn perthynas â gwerthu neu gyflenwi alcohol.
- Rhaid i'r polisi fynnu bod unigolion sy'n edrych dan 18 oed i'r person cyfrifol (neu'r oed hŷn a nodir yn y polisi) ddangos ar gais, cyn cael prynu alcohol, tystiolaeth yn dangos eu llun, eu dyddiad geni a marc holograffig.
- Amod gorfodol ynglŷn â'r isafswm prisio
- Rhaid i berson perthnasol sicrhau na chaiff unrhyw alcohol ei werthu na'i gyflenwi i'w yfed ar y safle nac oddi ar y safle am bris sy'n is na'r pris a ganiateir.
- At ddibenion yr amod a nodir ym mharagraff 1 -
- dylid dehongli "treth" yn unol â Deddf Trethi ar Ddiodydd Alcoholig 1979 a ddiweddarwyd ddiwethaf ym mis Ebrill 2019 22
- y "pris a ganiateir" yw'r pris a geir drwy ddefnyddio'r fformiwla - P = D + (DxV) Pan nai -
- P yw'r pris a ganiateir
- D yw cyfradd y dreth sy'n daladwy mewn perthynas â'r alcohol fel pe bai'r dreth yn cael ei chodi ar ddyddiad gwerthu neu gyflenwi'r alcohol, a
- V yw cyfradd y dreth ar werth sy'n daladwy mewn perthynas â'r alcohol fel pe bai'r dreth ar werth yn cael ei chodi ar ddyddiad gwerthu neu gyflenwi'r alcohol;
- ystyr "person perthnasol', mewn perthynas â safle lle y mae tystysgrif safle clwb mewn grym -
- Deiliad y drwydded mangre
- Goruchwyliwr dynodedig mangre (os o gwbl) mewn perthynas â thrwydded o'r fath, neu
- Deiliad y drwydded bersonol sy'n cyflenwi alcohol o dan drwydded o'r fath neu sy'n caniatáu iddo gael ei gyflenwi;
- ystyr "person perthnasol', mewn perthynas â safle lle mae tystysgrif mangre clwb mewn grym, yw unrhyw un o aelodau neu swyddogion y clwb sy'n bresennol ar y safle mewn rôl sy'n galluogi'r aelod neu'r swyddog i atal y cyflenwad o dan sylw; ac
- ystyr "treth ar werth" yw'r dreth ar werth a godir yn unol a Deddf Treth ar Werth 1994.
- Os nad yw'r pris a ganiateir a roddir gan Baragraff (9.2.2) (ar wahân i'r paragraff hwn) yn rhif cyfan o geiniogau, rhaid cymryd mai'r pris a roddir gan yr is-baragraff hwnnw yw'r pris a roddir mewn gwirionedd gan yr is-baragraff hwnnw wedi'i dalgrynnu i fyny i'r geiniog agosaf.
- Mae is-baragraff (2) yn berthnasol os yw'r pris a ganiateir gan Baragraff (9.2.2) ar ddiwrnod penodol ("y diwrnod cyntaf") yn wahanol i'r pris a ganiateir ar y diwrnod nesaf ("yr ail ddiwrnod") o ganlyniad i newid i gyfradd y dreth neu'r dreth ar werth.
- Mae'r pris a ganiateir sy'n berthnasol ar y diwrnod cyntaf yn berthnasol i werthiant neu gyflenwad alcohol sy'n digwydd cyn i'r cyfnod o 14 diwrnod sy'n dechrau ar yr ail ddiwrnod ddod i ben.
Mae'r camau i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu wedi'u cynnwys i'ch helpu i gwblhau eich amserlen weithredu. Maent wedi'u rhannu'n 4 categori ac maent yn ymwneud â'r pedwar amcan trwyddedu. Nid yw'r rhestr yn gynhwysfawr ac efallai yr hoffech gynnwys camau nad ydynt wedi'u cynnwys yn y rhestr ond sy'n berthnasol i'ch safle a'ch gweithrediad. Noder na fydd yr holl gamau a fanylir yn berthnasol i'ch cais. Lle mae eitemau wedi'u gadael yn wag h.y. rhifau ac amseroedd, mae angen i chi eu llenwi. Fe welwch fod dau amod yn ymwneud â theledu cylch cyfyng - ar gyfer adeiladau mwy (h.y. tafarndai/clybiau nos/bwytai) rydym yn awgrymu defnyddio'r amod gyda'r cod C&D1, ar gyfer adeiladau llai, (h.y. siopau diodydd trwyddedig bychain a lleoliadau lluniaeth sydd ar agor yn hwyr) gallai'r amod gyda'r cod C&D30 fod yn fwy addas.
