Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwneud cais am Drwydded Mangre newydd: Pecyn gwybodaeth Deddf Trwyddedu 2003

Trwyddedau mangre: Gofynion ychwanegol ar gyfer eiddo sy'n dymuno gwerthu alcohol

Pan fo trwydded mangre yn awdurdodi gwerthu alcohol, mae'n rhaid i'r person sy'n gwerthu gael ei awdurdodi i wneud hynny gan ddeiliad 'trwydded bersonol'.

Nid oes rhaid i bawb sy'n gwerthu feddu ar drwydded bersonol, ond mae'n rhaid i bob gwerthiant gael ei awdurdodi gan rhywun sydd â thrwydded bersonol. Nid oes rhaid iddo fod yn awdurdodiad ysgrifenedig, ond at ddibenion atebolrwydd, argymhellir dewis yr opsiwn hwn.

Am ragor o wybodaeth, cyfeiriwch at ddogfen ganllawiau'r cyngor ar drwyddedau personol sydd wedi'u cynnwys yn y pecyn hwn.

Pan fo trwydded mangre yn awdurdodi gwerthu alcohol, rhaid i'r ffurflen gais nodi un unigolyn a fydd yn gyfrifol am redeg y fangre o ddydd i ddydd. Gelwir y person hwn yn 'oruchwyliwr dynodedig mangre', ac mae'n rhaid iddo feddu ar drwydded bersonol.

Rhaid i bwy bynnag sy'n cael ei enwebu fel goruchwyliwr dynodedig mangre roi ei ganiatâd ysgrifenedig ar ffurflen Caniatâd yr unigolyn i gael ei bennu fel goruchwyliwr mangre (Word doc, 42 KB) a rhaid cynnwys y ffurflen hon gyda'r cais am drwydded mangre

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu