Toglo gwelededd dewislen symudol

Amrywio Trwydded Mangre: Pecyn gwybodaeth Deddf Trwyddedu 2003

Amrywio Trwydded Mangre: Cynllun o'r safle (os bydd unrhyw addasiadau'n cael eu gwneud i gynllun y safle)

Wrth gyflwyno eich cais, (os ydych chi'n addasu cynllun y fangre) bydd angen i chi hefyd gyflwyno cynllun o'r fangre y mae'n rhaid iddo fod ar raddfa o 1:100. Gall hwn fod yn gynllun wedi'i lunio a llaw neu gyfrifiadur.

RHAID i'r cynllun ddangos

  • graddau terfyn yr adeilad, os yw hynny'n berthnasol, a holl waliau mewnol ac allanol yr adeilad a pherimedr y safle, os yw hynny'n wahanol;
  • lleoliad mynedfeydd ac allanfeydd y safle;
  • lleoliad llwybrau dianc o'r fangre;
  • os bydd y safle'n cael ei ddefnyddio ar gyfer mwy nag un gweithgaredd trwyddedadwy, y rhan o'r safle a ddefnyddir ar gyfer pob gweithgaredd; 
  • lleoliad strwythurau sefydlog (gan gynnwys dodrefn) a allai effeithio ar allu unigolion ar y safle i ddefnyddio allanfeydd neu lwybrau dianc yn ddirwystr;
  • os yw'r safle'n cynnwys llwyfan neu fan uchel, lleoliad ac uchder pob llwyfan neu fan o'i gymharu â'r llawr;
  • os yw'r safle'n cynnwys unrhyw risiau neu lifftiau, lleoliad y grisiau neu'r lifftiau hynny;
  • os yw'r safle'n cynnwys ystafell neu ystafelloedd sy'n cynnwys cyfleusterau cyhoeddus, lleoliad yr ystafell neu'r ystafelloedd hynny;
  • y mathau o offer diogelwch rhag tân ac unrhyw offer diogelwch arall a'u lleoliad; a
  • lleoliad y gegin ar y safle, os oes un.

Os defnyddir symbolau i nodi eitemau ar gynllun, sicrhewch eu bod yn cael eu disgrifio mewn allwedd briodol.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu