Toglo gwelededd dewislen symudol

Amrywio Trwydded Mangre: Pecyn gwybodaeth Deddf Trwyddedu 2003

Amrywio Trwydded Mangre: Dyletswydd i hysbysebu'r cais

Wrth wneud cais am drwydded mangre, mae'n ofynnol i'r YMGEISYDD hysbysebu'r cais mewn 2 ffordd.

Ar y dudalen hon

Nid oes unrhyw benawdau ar y dudalen hon i lywio iddynt.

1. Hysbysiad ar y fangre i'w thrwyddedu

Rhaid i'r hysbysiad gael ei arddangos yn amlwg o fewn neu ar y fangre y mae'r cais yn ymwneud â hi, lle gellir ei ddarllen yn gyfleus o'r tu allan i'r fangre, am gyfnod heb fod yn llai na 28 diwrnod yn olynol gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y cyflwynwyd y cais.

Dylai'r hysbysiad ei hun fod:

  • o faint cyfartal ag A4, neu'n fwy nag A4;
  • ar bapur glas golau;
  • wedi'i argraffu'n ddarllenadwy mewn inc du neu wedi'i deipio mewn du mewn ffont maint 16 neu fwy.

Yn achos mangre sy'n cwmpasu ardal o fwy na hanner can metr sgwâr, rhaid gosod hysbysiad pellach ar yr un ffurf ac yn ddarostyngedig i'r un gofynion bob hanner can metr ar hyd perimedr allanol y fangre sy'n ffinio ag unrhyw briffordd.

2. Hysbysiad mewn papur newydd

Rhaid i chi hefyd hysbysebu trwy gyhoeddi hysbysiad:

  • mewn papur newydd lleol neu, os nad oes papur newydd lleol, mewn cylchlythyr lleol, cylchlythyr neu ddogfen debyg, sy'n cylchredeg yng nghyffiniau'r fangre;
  • am o leiaf un achlysur yn ystod y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith ar ôl cyflwyno'r cais.

Yn y ddau achos, rhaid i'r hysbysiad nodi

  • enw'r ymgeisydd/ymgeiswyr;
  • cyfeiriad post y fangre, os o gwbl, neu os nad oes gan y fangre gyfeiriad post, disgrifiad o'r fangre honno sy'n ddigonol i alluogi nodi lleoliad a maint y fangre;
  • cyfeiriad post a, lle bo'n berthnasol, cyfeiriad ar-lein lle cedwir cofrestr yr awdurdod trwyddedu a ble a phryd y caniateir archwilio cofnod o'r cais;
  • y dyddiad erbyn pryd y gall parti â buddiant neu awdurdod cyfrifol gyflwyno sylwadau i'r awdurdod trwyddedu perthnasol; (28 diwrnod ar ôl cyflwyno'r cais.)
  • y bydd sylwadau yn cael eu cyflwyno'n ysgrifenedig; a'i
  • bod yn drosedd i wneud datganiad ffug, boed hynny'n ymwybodol neu'n ddi-hid, mewn perthynas a chais ac uchafswm y ddirwy y mae person yn atebol amdani ar euogfarn ddiannod o'r drosedd.

Dylai'r ddau hysbysiad hefyd roi disgrifiad cryno o'r cais arfaethedig. Dylid hefyd cynnwys eglurhad cryno o'r cais a ble y gellir ei weld yn Gymraeg ar eich hysbyseb.

Notice of application for a variation of a premises licence template (Word doc, 22 KB)

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu