Bae Abertawe
Mae bywyd gwyllt a nodweddion naturiol a hanesyddol Bae Abertawe'n creu amgylchedd o safon eithriadol i fyw, gweithio a datblygu twristiaeth gynaliadwy ynddo.
Mae Bae Abertawe o bwys cenedlaethol oherwydd ei fywyd gwyllt a'i gynefinoedd. Mae cymeriad Bae Abertawe'n gyfuniad o sawl ffactor o'r gorffennol a'r presennol, gan gynnwys daeareg ffisegol, prosesau naturiol a'r hinsawdd, yr amgylchedd adeiledig a bywyd gwyllt.
Mae gan Fae Abertawe y llanw ail uchaf yn y byd, hyd at 10.4m. Pan fo'r llanw ar drai yn y bae, caiff blaendraeth helaeth ei ddadorchuddio a gellir ei ddarganfod ar hyd y bae sy'n ymestyn ar draws 8km. O'r 19 prif draeth yn y sir, traeth Abertawe yw'r hwyaf.
Mae SBCN (Safle o Bwys Cadwraeth Natur) Bae Abertawe yn ymestyn ar draws y bae cyfan, o'r twyni ger y marina hyd at bier y Mwmbwls. Mae'r dynodiad hwn yn helpu i ddiogelu cynefinoedd a rhywogaethau o bwys cenedlaethol megis murwyll tewbannog ac mae o bwys arbennig i'r infertebratau prin sy'n byw yno, e.e. y falwen droellog.
Uchafbwyntiau
Mae'r promenâd yn ffordd wych o gyrraedd a mwynhau cyfleusterau Bae Abertawe, gyda golygfeydd godidog.
Dynodiadau
- Safle o Bwys Cadwraeth Natur (SBCN 28), llwybr beicio, twyni, cwrs golff, Cyf. Grid SS627914.
- SoDdGA (Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) a Chanolfan Bywyd Gwyllt Blackpill
Cyfleusterau
- Llwybr beicio
- Meysydd parcio
- Prom Abertawe
- Parc Sglefrio'r Mwmbwls
Gwybodaeth am fynediad
Map Explorer yr AO 165 Abertawe
Cerdded
Mae'n hawdd cyrraedd y promenâd ar droed ac mae'n llwybr gwastad ag arwyneb hyfryd i gadeiriau olwyn/pramiau.
Ceir
Mae sawl maes parcio (talu ac arddangos yn bennaf) oddi ar Heol y Mwmbwls a Heol Ystumllwynarth, nesaf at y promenâd.
Bysus
Mae sawl safle bws ar hyd Heol y Mwmbwls a Heol Ystumllwynarth (B4067) sydd gyfagos a'r promenâd.
Beicio
Mae'r promenâd cyfan yn agored i feicwyr.
Trên Bach y Bae
Mae Trên Bach Bae Abertawe yn teithio rhwng y Mwmbwls a Blackpill yn ystod yr haf.