Toglo gwelededd dewislen symudol

Ble gallaf arbed gyda PIH?

Gallwch dderbyn gostyngiadau gwerth hyd at 60% oddi ar y pris i oedolion mewn sawl lleoliad hamdden

Lle cynigir gostyngiadau PIH, mae gan ddeiliaid y cerdyn hawl i ostyngiadau hyd at 60% oddi ar bris oedolyn yn lleoliadau hamdden Dinas a Sir Abertawe ar unrhyw adeg yn ystod oriau agor arferol. Gall deiliaid y cerdyn hefyd logi cyfarpar yn rhad ac am ddim.

Cyfleusterau chwaraeon y Cyngor

  • Canolfan Chwaraeon Llandeilo Ferwallt - 01792 235040
  • Canolfan Hamdden Cefn Hengoed - 01792 798484
  • Cyfadeilad Chwaraeon Elba - 01792 874424
  • Canolfan Hamdden Treforys - 01792 797082
  • Pwll Nofio'r Olchfa - 01792 534300
  • Canolfan Hamdden Pen-lan - 01792 588079
  • Pwll Nofio a Neuadd Chwaraeon Pentrehafod - 01792 641935
  • Canolfan Hamdden Penyrheol - 01792 897039
  • Canolfan Hamdden Pontarddulais - 01792 885560
  • Llyn Cychod Singleton - 01792 296603
  • Yr LC - 01792 466500
  • Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe - 01792 513513

Cyfleusterau'r celfyddydau ac adloniant y Cyngor

  • Holl Lyfrgelloedd Dinas a Sir Abertawe - 01792 636464
  • Trwyddedau pysgota - 01792 202245
  • Theatr Penyrheol - 01792 897039
  • Plantasia - 01792 474555

Cyrtiau Tennis ym mharciau'r Cyngor - gyda Tennis Cymru yn y Parc yr LTA

Mynediad i aelodaeth flynyddol am ddim gyda'r LTA (Lawn Tennis Association) a Tennis Cymru er mwyn gallu cadw lle a chwarae yn:

Sut i gofrestru:

  1. Ymunwch â ni am ddim yn: Cofrestru (LTA) (Yn agor ffenestr newydd)
  2. Ar ôl i chi gofrestru, e-bostiwch yr wybodaeth ganlynol i tenniswales@tenniswales.org.uk a chewch eich sefydlu ar-lein gyda phàs. Yna caiff cyfarwyddiadau cadw lle eu hanfon i'ch cyfeiriad e-bost.
  • Enw cyntaf:
  • Cyfenw:
  • E-bost:
  • Rhyw:
  • Dyddiad geni:
  • Cyfeiriad llawn gan gynnwys y côd post:
  • Rhif ffôn:
  • Rhif aelodaeth Tennis Prydain: (fe gewch chi hyn pan fyddwch yn ymuno yng ngham 1)
  • Rhif cerdyn Pasbort i Hamdden: ***/****
  • Dyddiad dod i ben eich Cerdyn Pasbort i Hamdden:

Pan fyddwch wedi cofrestru'n llawn ac wedi cael eich cyfarwyddiadau cadw lle, byddwch yn gallu defnyddio'ch pàs i gadw'r cyrtiau tennis ar-lein yn: Cadw cwrt (Tennis Cymru yn y Parc, LTA) (Yn agor ffenestr newydd)

 

Rhagor o arbedion

Yn ogystal â'r gostyngiadau sydd ar gael mewn amrywiaeth eang o leoliadau chwaraeon a hamdden ledled Dinas a Sir Abertawe, gall deiliaid PTL hefyd gael gostyngiadau yn y cwmnïau preifat canlynol. Sylwer mai nhw sy'n rheoli ac yn pennu lefel y gostyngiad a gynigir gan y cwmnïau preifat hyn, ac felly ni all y cyngor warantu'r prisiau a ddyfynnir isod. Ffoniwch y cwmnïau i gadarnhau'r gostyngiadau cyn archebu.

Canolfan Fferm y Clun, Rhodfa Westport, Mayals, Abertawe, SA3 5AR
Ffôn: 01792 403333
Gostyngiad 10% oddi ar brisiau gweithgareddau (y brif restr brisiau'n unig ac mae ond yn berthnasol i'r deiliad PTL yn bersonol).

Parc Sglefrio EXIST, 1 Mount Pleasant, Abertawe, SA1 6EE
Ffôn: 01792 474095
£3 am unrhyw sesiwn.

Cyfadeilad Botaneg Cyfeillion Dinas Abertawe, Gerddi Botaneg, Parc Singleton, Abertawe, SA2 8QD
Ffôn: 01792 874803
Gostyngiadau ar werthiannau sy'n fwy na £25 mewn un pryniant yn unig. Mae siop yr ardd ar agor bob dydd Sadwrn o fis Ebrill tan ddiwedd mis Medi yn y Gerddi Botaneg, Parc Singleton. Maent yn cynnig amrywiaeth eang o goed, llwyni, planhigion lluosflwydd a pherlysiau ynghyd â chyngor da gan arddwyr lleol.

Gower Surf Development (Surf GSD), Bae Caswell, Abertawe
Ffôn: 07739 536122
Gostyngiad £5 oddi ar wersi Ebrill - Medi (ac eithrio gwyliau banc)
Mae gwersi gostyngedig yn cynnwys defnyddio siwtiau gwlyb a byrddau syrffio meddal, diogel am ddim. Nid oes modd defnyddio hwn ar y cyd ag unrhyw gynnig neu ostyngiad arall. Ni dderbynnir cardiau PTL wedi'u copïo, eu difwyno neu eu difrodi. Rydym yn cadw'r hawl i newid, dileu neu dynnu'r cynnig hwn yn ôl ar unrhyw adeg.
Dysgwch syrffio neu wella'ch sgiliau gyda Surf GSD, yr unig ysgol syrffio 4 seren yng Nghymru. Ar agor trwy'r flwyddyn.

Leisuretime 251 Stryd Rhydychen, Abertawe, SA1 3BL
Tel: 01792 455159 
www.leisuretime.co.uk
Gostyngiad o 5% ar holl wyliau ar fws a weithredir gan Leisuretime.

Leo Eye Centre, 187 Heol Newydd, Sgiwen, SA10 6HD
Ffôn: 01792 817149
Gostyngiad 10% oddi ar sbectol.

Swansea Watersports 
Tel: 07989 839878
www.swanseawatersports.com
Gostyngiad o 10% ar yr holl weithgareddau (ar agor rhwng y Pasg a mis Hydref yn unig - cynghorir cwsmeriaid i ffonio ymlaen llaw).

Clwb Rygbi Abertawe, Maes Rygbi San Helen, Heol Bryn, Abertawe, SA2 0AR. 
Ffôn: 01792 424242

Mae Clwb Rygbi Abertawe'n cefnogi Cynllun Pasbort i Hamdden Dinas a Sir Abertawe. Ffoniwch i holi am brisiau tocynnau gostyngedig.

Canolfan Celfyddydau Taliesin, Prifysgol Abertawe, Parc Singleton, Abertawe, SA2 8PZ 
Ffôn: 01792 602060
Gostyngiadau ar docynnau ffilmiau, cerddoriaeth, theatr a dawns.

Pwll Cenedlaethol Cymru, Lôn Sgeti, Abertawe, SA2 8QG
Ffôn: 01792 513513
Gostyngiad hyd at 50% oddi ar docynnau pris nofio arferol, aelodaeth, cyrsiau a sesiynau ysgol acwa.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 26 Mehefin 2024