Cronfa Plant a Phobl Ifanc 2025 / 2026 - Gofynion cyn ymgeisio
1. Rhaid i ymgeiswyr ymgynghori â'u Swyddogion Datblygu wrth ystyried gwneud cais am y grant hwn. Os nad ydych chi'n gwybod pwy yw eich Swyddog Datblygu, neu os nad ydych chi'n gysylltiedig ag un o'r sefydliadau canlynol, yna cysylltwch â'n Swyddogion Cefnogi Gwasanaethau i gael cyngor.
- Blynyddoedd Cynnar Cymru.
- Clybiau Plant Cymru.
- Mudiad Meithrin.
- PACEY Cymru.
2. Rhaid i'r ymgeisydd weithio mewn partneriaeth â'i Swyddog Datblygu a rhyngddynt mae'n rhaid iddynt gytuno ar sail resymegol dros y cais am grant.
3. Er mwyn nodi llif arian, rhaid i ymgeiswyr yn gyntaf gwblhau rhestr wirio Iechyd Busnes i'w helpu i lywio eu llif arian a dadansoddiad Cryfderau, Gwendidau, Cyfleoedd a Bygythiadau ar gyfer 2025 / 2026.
4. Cwblhau adroddiad llif arian ar gyfer 2025 / 2026.
5. Cwblhau dadansoddiad SWOT.
6. Rhaid i'r dadansoddiad SWOT lywio'r rhesymeg ar gyfer y cais am grant.
Gellir lawrlwytho'r dogfennau y mae angen eu cwblhau isod.
Pan fyddwch wedi'u cwblhau, bydd angen i chi lanlwytho eich Gwiriad Iechyd Busnes yn ystod eich proses ymgeisio ar-lein.
