Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau cyffredin gofal cartref

Rhestr o'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am drefnu gofal cartref.

Pwy sy'n darparu gofal cartref?

Gall y gwasanaethau gofal yn y cartref gael eu darparu gan y canlynol:

  • staff o'r Gwasanaeth Gofal Cartref Integredig a gyflogir naill ai gan Gyngor Abertawe neu'r GIG. Gelwir hyn fel arfer yn Ofal Cartref (Cyngor / GIG).
  • asiantaeth gofal preifat neu sefydliad gwirfoddol sydd wedi'i chontractio / gontratio i weithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol. Gelwir hyn fel arfer yn Ofal Cartref (Preifat / Gwirfoddol).

Pa help y gallaf ei gael gan ddarpariaeth gofal yn y cartref?

Mae'r gefnogaeth sydd ar gael drwy ofal yn y cartref yn dibynnu ar anghenion unigol pobl. Gallai gynnwys:

  • help gyda gofal personol megis ymolchi, gwisgo neu ddefnyddio'r toiled;
  • help gyda pharatoi prydau a chyda bwyta;
  • cefnogaeth i ofalwyr.

Nid ydym yn gallu darparu gwasanaethau fel gwaith tŷ a siopa. Fodd bynnag, bydd staff y Gwasanaethau Cymdeithasol fel arfer yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i ffyrdd eraill o wneud eich gwaith tŷ os nad ydych bellach yn gallu gwneud hyn eich hunan.

A fydd rhaid i mi dalu am ofal yn y cartref?

Byddai'r swm y disgwylir i chi ei dalu yn dibynnu ar faint o arian sydd gennych o ran incwm a chynilion, a faint o fal rydych chi'n ei dderbyn. Nid oes rhaid i rai pobl dalu unrhyw beth.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut caiff y ffioedd hyn eu cyfrifo ar ein tudalen Taliadau am ofal a chefnogaeth yn y cartref. Byddwn yn trafod unrhyw daliadau gyda chi cyn i'r gwasanaeth ddechrau.

Sut gallaf wneud cais am ofal yn y cartref?

Gallwch wneud cais i'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn uniongyrchol trwy gysylltu â'n Pwynt Mynediad Cyffredin ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PMC).

Gallwch hefyd ofyn i berthynas neu ofalwr, eich Meddyg Teulu, Nyrs Ardal neu Ymwelydd Iechyd gysylltu ar eich rhan. Os ydych yn yr ysbyty, gofynnwch i siarad ag aelod o staff y ward.

A fyydd angen asesiad arnaf ar gyfer gofal cartref?

Os credwn y byddai gofal yn y cartref yn ddefnyddiol i chi, byddwn yn cysylltu â chi i gynnal asesiad o'ch anghenion. Bydd hyn yn ein helpu i benderfynu ar y cyd â chi ar y gefnogaeth a fydd fwyaf addas i chi, ac a ydych yn gymwys ar gyfer gofal cartref. Gallwch ddarllen rhagor am hyn ar ein tudalen Asesiadau gofal a chefnogaeth i oedolion.

Yn anffodus, nid ydym yn gallu darparu gwasanaethau gofal yn y cartref i bawb sy'n gofyn amdanynt. Os na allwn ddarparu gofal yn y cartref i chi, byddwn yn rhoi gwybodaeth a chyngor i chi am y ffyrdd eraill y gallwch gael help ymarferol gartref.

Beth sy'n digwydd ar ôl i mi gael fy asesu?

Os byddwn yn gallu darparu gwasanaeth gofal cartref i chi, byddwn yn gweithio gyda chi i lunio cynllun gofal a chefnogaeth. Bydd y cynllun yn rhestru'r holl help y byddwch yn ei gael gan y darparwr gofal cartref. Byddwn yn rhoi copi o'r asesiad a'r cynllun gofal a chefnogaeth i chi.

Efallai bydd rhaid i rai pobl aros cyn iddynt ddechrau derbyn gwasanaeth. Byddwn yn rhoi gwybod i chi pryd bydd y gwasanaeth yn debygol o ddechrau.

Beth yw cefnogaeth ailalluogi?

Bydd rhai pobl, yn enwedig y rheini sy'n gwella ar ôl cyfnod o afiechyd, yn derbyn gwasanaeth ailalluogi tymor byr i ddechrau, a fydd yn para hyd at chwe wythnos. Bydd tîm integredig o weithwyr gofal a therapyddion yn ymweld â chi yn eich cartref ac yn eich cefnogi i allu gwneud y pethau roeddech chi'n arfer eu gwneud drosoch chi'ch hun unwaith eto. Gall hyn gynnwys darparu cyfarpar arbenigol i'ch helpu.

Erbyn diwedd y cyfnod ailalluogi, mae llawer o bobl yn gallu ymdopi gartref ar eu pennau eu hunain unwaith eto neu gyda chefnogaeth teulu a ffrindiau.

Ar ôl derbyn gwasanaeth ailalluogi, os bydd angen gofal a chefnogaeth reolaidd arnoch o hyd i ymdopi gartref, byddwn yn adolygu'ch cynllun gofal a chefnogaeth. Yn y rhan fwyaf o achosion, byddwn yn gwneud trefniadau i drosglwyddo'ch darpariaeth gofal a chefnogaeth i ddarparwr gofal tymor hir.

Beth os oes angen gofal tymor hir arnaf gartref?

Os bydd angen gofal yn y cartref tymor hir arnoch, byddwn yn gwneud trefniadau gyda darparwr gofal i roi'r gofal y mae ei angen arnoch.

Cyn i chi ddechrau derbyn gofal yn y cartref, bydd staff y darparwr gwasanaeth yn trefnu i gwrdd â chi ac yn cytuno ar gynllun personol gyda chi er mwyn nodi sut bydd eich anghenion gofal a chefnogaeth yn cael eu diwallu.

Pryd bydd gwasanaethau gofall yn cael eu darparu?

Gan fod nifer mawr o bobl yn derbyn gwasanaethau gofal yn y cartref, nid yw hi bob amser yn bosib darparu eich gwasanaeth ar yr amserau sydd orau gennych. Fodd bynnag, bydd darparwyr yn gweithio gyda chi i sicrhau y caiff eich anghenion eu diwallu.

Beth os bydd rhaid i fi fynd i'r ysbyty?

Os ydych yn yr ysbyty, efallai na fyddwch yn gallu ailddechrau eich pecyn gofal gyda'ch darparwr gofal presennol ac efallai bydd rhaid rhoi trefniadau gofal newydd ar waith cyn i chi gael eich rhyddhau.

Beth os yw fy anghenion yn newid?

Bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol a'r darparwr yn cynnal adolygiadau rheolaidd o'ch anghenion gofal a chefnogaeth.

Os ydych yn teimlo ar unrhyw adeg bod angen mwy neu lai o ofal arnoch, gofynnwch i ni adolygu'ch anghenion. Gallwch naill ai siarad â'r staff gofal sy'n darparu'r gofal, neu gysylltu â swyddfa'r Pwynt Mynediad Cyffredin ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PMC).

Dylech wybod y gall newid mewn anghenion, yn enwedig os ydych wedi bod i'r ysbyty, arwain at newid eich darparwr gofal.

Beth yw'r safonau ar gyfer darparu gofal gartref?

  • Bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn trafod gyda chi i gytuno ar, a pharatoi cynllun gofal a chefnogaeth sy'n diwallu'ch anghenion unigol. Byddwn yn adolygu'ch cynllun gofal a chefnogaeth ac yn ei newid os bydd eich anghenion yn newid.
  • Caiff ansawdd y ddarpariaeth ofal ei fonitro gan y Gwasanaethau Cymdeithasol.
  • Bydd y darparwr gofal yn cynnal archwiliadau iechyd a diogelwch i sicrhau bod y gofal rydym yn ei ddarparu yn eich cartref yn ddiogel i chi a'r staff gofal.
  • Bydd staff gofal yn cario cerdyn adnabod.
  • Bydd staff gofal yn cael hyfforddiant darparu gofal.
  • Bydd staff gofal yn cael goruchwyliaeth broffesiynol reolaidd i sicrhau eu bod yn gwneud eu gwaith yn dda.
  • Wrth ddechrau darparu'ch gofal, bydd y darparwr yn rhoi gwybodaeth fanylach i chi am sut mae'r gwasanaeth yn gweithio ac â phwy i gysylltu gydag unrhyw ymholiadau.

A allaf drefnu fy ngwasanaeth gofal yn y cartref fy hun?

Os yw'r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi asesu eich bod yn gymwys i dderbyn gwasanaeth gofal yn y cartref, gallwch ddewis naill ai i'r Gwasanaethau Cymdeithason drefnu gwasanaeth neu gallwch dderbyn taliad uniongyrchol er mwyn gwneud eich trefniadau eich hun.

Beth yw taliad uniongyrchol?

Gyda taliad uniongyrchol, gallwch ddewis cyflogi'ch cynorthwy-ydd personal eich hun neu brynu gofal gan asiantaeth, neu gallwch wneud y ddau.

Os ydych wedi bod yn prynu gofal preifat gan asiantaeth ofal cyn i'r Gwasanaethau Cymdeithasol asesu eich bod yn gymwys i gael cefnogaeth ac rydych am barhau gyda'r un asiantaeth, gan gadw'r staff rydych yn eu hadnabod eisoes, gellir rhoi taliad uniongyrchol i chi fel cyfraniad at eich costau. Fodd bynnag, dylech wybod efallai na fydd y taliad uniongyrchol yn cynnwys cost lawn y gofal gan yr asiantaeth yr ydych yn ei dewis ac efallai bydd rhaid i chi dalu swm ychwenegol eich hun.

Efallai bydd taliad uniongyrchol hefyd yn fwy addas i chi os yw'n well gennych gael eich gofal ar amserau penodol, neu os ydych am dderbyn gofal gan staff o un rhyw yn unig.

Close Dewis iaith