Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cwestiynau cyffredin ynghlyn a thyllau yn y ffordd

Cwestiynau cyffredin ynglyn a thyllau yn y ffordd a'r tim trwsio tyllau yn y ffordd.

Beth yw'r timau trwsio tyllau yn y ffordd?

Mae'r timau trwsio tyllau yn ddau dîm a sefydlwyd gan y cyngor i fynd i'r afael â'r broblem o dyllau yn y ffordd. Eu bwriad yw atgyweirio twll yn y ffordd o fewn 48 awr i gael eu hysbysebu amdano.

Ar adegau bydd eu gwaith yn oedi traffig ond byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib ar fodurwyr. Ein bwriad yw cadw traffig i symud drwy atgyweirio tyllau yn y ffordd mor gyflym â phosib.

Os ydych am gael y diweddaraf am ein cynnydd dros amser, ewch i'r dudalen atgyweirio tyllau yn y ffordd.

Beth yw twll yn y ffordd?

Crëir twll yn y ffordd pan fo ar wyneb ffordd neu lwybr cerdded yn torri'n ddarnau. Gallai hyn fod o ganlyniad i lawer o ffactorau gwahanol, o dywydd a thraffig trwm i draul gyffredinol.

Mae'r cyngor wedi pennu diffiniad o dwll yn y ffordd yn unol â safon Cymru gyfan ac i fodloni dyletswyddau dan 'Côd Ymarfer Da ar gyfer Cynnal a Chadw Priffyrdd.' Yn gyffredinol mae hwn yn cyfeirio at ddyfnder o 50mm ar ffordd a 25mm ar lwybr cerdded. Mae hyn yn berthnasol i bob archwiliad diogelwch a gwaith arferol.

Ynghyd â'n tîmau trwsio tyllau yn y ffordd newydd, byddwn yn gwneud pob  ymdrech i atgyweirio pob twll yn y ffordd yr adroddwyd amdano i'r cyngor boed hwnnw'n 50mm o ddyfnder neu'n llai.

Pa wybodaeth sydd angen arnai er mwyn adrodd am dwll yn y ffordd?

Gallwch adrodd am dwll yn y ffordd ar-lein neu drwy ymweld a'r Ganolfan Ddinesig lle gallwn eich helpu gyda'r ffurflen..

Mae angen gwybodaeth eglur arnom am y lleoliad a siap y twll yn y ffordd fel y gallwn ei ganfod a'i lenwi cyn gynted a phosibl.

Nodwch enw'r stryd a defnyddiwch fap neu disgrifiwch yr union leoliad. Gallwch dynnu llun ar eich ffon clyfar a'i lanlwytho gan ddisgrifio'r lleoliad e.e. tu allan i ba eiddo? A yw yng nghanol neu wrth ymyl y ffordd? Pa ochr y ffordd?

Er bod enw stryd yn hanfodol, po fwyaf o wybodaeth y gallwch gyflwyno, mwyaf tebygol y byddwn i'n gallu dod o hyd i'r broblem a'i hatgyweirio. Rhowch fanylion, e.e. esboniwch le mae'r stryd.

Bydd adegau pan na fyddwn ni'n gallu canfod y twll yn y ffordd os nad yw'r manylion a roddir gennych yn ddigon cywir.

Gallai adrodd am dwll yn y ffordd ar wefannau eraill?

Nid ydym yn cael digon o wybodaeth o'r gwefannau a'r apiau yma, sy'n ei wneud yn anodd dros ben i leoli'r yn y ffordd.

Defnyddiwch y ffurflen atgyweirio tyllau yn y ffordd a ddarparwyd gan y cyngor yma.

Oes rhaid i mi roi cyfeiriad e-bost pan rwy'n adrodd am dwll yn y ffordd?

Gofynnir i chi ddarparu cyfeiriad e-bost pan ydych yn adrodd am dwll yn y ffordd fel ein bod ni'n gallu adrodd yn ol i chi pan ydym wedi trwsi'r twll yn y ffordd. Fodd bynnag, nid oes angen i chi ddarparu un er mwyn adrodd am dwll yn y ffordd, nac er mwyn i ni weithredu.

Os nad oes gennych gyfeiriad e-bost, mae hyn yn golygu na fyddwn ni'n gallu adrodd yn ol i chi.

Mae gwaith ailwynebu ffyrdd yn wahanol i atgyweirio tyllau yn y ffordd ac mae'n digwydd yng nghyd-destun blaenoriaethau ailwynebu ffyrdd eraill a'n rhaglen cynnal a chadw ffyrdd gynlluniedig. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen cynnal a chadw ffyrdd gynlluniedig yma a'r gwaith mewn gwahanol wardiau gan y rhaglen cynnal a chadw ffyrdd gynlluniedig yma: Rhaglen ailwynebu ffyrdd - mân atgyweiriadau.

Alla i adrodd trwy apiau neu wefannau eraill?

Gallwch ddefnyddio'r apiau a'r gwefannau hyn, ond mewn llawer o achosion nid ydym yn derbyn digon o wybodaeth gan y gwefannau hyn, sy'n ei wneud yn anodd iawn dod o hyd i'r tyllau yn y ffordd. Bydd oedi hefyd oherwydd bod angen amser gweinyddu ychwanegol ar yr adroddiadau hyn.
 

Please use the council pothole repair form here

Oes rhaid i mi roi cyfeiriad e-bost pan rwy'n adrodd am dwll yn y ffordd?

Gofynnir i chi ddarparu cyfeiriad e-bost pan ydych yn adrodd am dwll yn y ffordd fel ein bod ni'n gallu adrodd yn ol i chi pan ydym wedi trwsi'r twll yn y ffordd. Fodd bynnag, nid oes angen i chi ddarparu un er mwyn adrodd am dwll yn y ffordd, nac er mwyn i ni weithredu.

Os nad oes gennych gyfeiriad e-bost, mae hyn yn golygu na fyddwn ni'n gallu adrodd yn ol i chi.

Beth yw ystyr y cynllun atgyweirio twll yn y ffordd 48 awr?

Byddwn yn ceisio bob twll yn y ffordd yr ydych yn rhoi gwybod i ni amdano o fewn 48 awr ar ol i chi ddweud wrthym. Nid yw pob diffyg yn y ffordd yn cael ei ystyried fel twll yn y ffordd. Fodd bynnag, os ydych yn nodi ei fod, bydd ein Timau Trwsio Tyllau yn y ffordd yn gwneud eu gorau i'w atgyweirio o fewn deuddydd. Nodwch eich cyfeiriad e-bost a byddwn hyd yn oed yn rhoi gwybod i chi pan atgyweirir y twll yn y ffordd.

Mae eisoes gennym system ymateb argyfwng sy'n ymdrin a diffyg difrifol yn y ffordd o fewn 24 awr. Ni fydd hyn yn newid.

Beth sy'n digwydd os yw'r tywydd yn wael?

Yn ystod tywydd gwael, yn dilyn glaw trwm, iâ neu eira, ni fydd yn bosib i ni atgyweirio pob twll yn y ffordd o fewn 48 awr. Bydd ein timau'n ymgymryd â gwaith arall yn ystod y cyfnodau hyn, fel llifogydd ar y ffyrdd neu raeanu yn y gaeaf etc.

Fel bob amser, byddwn yn blaenoriaethu argyfyngau ac yna'n ceisio delio â'r gweddill cyn gynted â phosib

Faint o dyllau yn y ffordd y mae'r cyngor yn eu llenwi yn flynyddol?

Y llynedd gwnaeth y cyngor atgyweirio 12,185 o ddiffygion yn y ffordd, gan gynnwys tyllau yn y ffordd.

Sawl tim tyllau yn y ffordd sydd gan y cyngor?

Mae gennym 4 tim atgyweirio tarmac ac un tim argyfwng, felly bydd y timau atgyweirio tyllau yn y ffordd newydd yn cynyddu'r nifer hwnnw i 7. Mae'r timau yma yn gweithio ar dros 1,000km o ffyrdd a 1,500km o lwybrau cerdded ac yn gwneud cyfartaledd o 360km fesul tim.

Yn ogystal, mae gennym y tîm y cynllun ailwynebu bach (CAB) a rhaglen flynyddol o waith cynlluniedig sy'n cynnwys ailwynebu'r ffordd ac ailadeiladu palmant. Cynhelir y gwaith hwn trwy'r flwyddyn a bydd yn parhau oherwydd bydd y timau atgyweirio tyllau yn y ffordd ar gael i ymateb yn gyflym ac yn hyblyg i'ch ceisiadau i lenwi tyllau yn y ffordd.

Ydych chi'n stopio'r tim PATCH?

Nac ydyn. Sefydlwyd ein Tîm Gweithredu Blaenoriaethol ar gyfer Priffyrdd Cymunedol ychydig flynyddoedd yn ôl, fodd bynnag, i osgoi unrhyw ddryswch ynghylch natur y gwaith, mae wedi'i ailfrandio fel y tîm Cynlluniau Ailwynebu Bach (CAB). Nid yw ei waith wedi newid ac mae'r tîm yn ymweld â phob ward yn y ddinas bob blwyddyn i nodi a gwneud atgyweiriadau adeileddol yn rhagweithiol mewn ardaloedd bach: Rhaglen ailwynebu ffyrdd - mân atgyweiriadau

Close Dewis iaith