Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Beth fydd yn digwydd ar ôl i chi adrodd am ymddygiad gwrthgymdeithasol ar stad y cyngor

Ymchwilir i'ch cwyn wreiddiol naill ai gan y swyddfa dai ardal neu gan yr Uned Cefnogi Cymdogaethau.

Bydd y math o gamau a gymerir yn dibynnu ar naws y gŵyn. Gellir cyfeirio achosion at asiantaethau partner eraill, megis Iechyd yr Amgylchedd er enghraifft, mewn achos o niwsans sŵn statudol posib, neu Bartneriaeth Abertawe Mwy Diogel mewn achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mewn rhai achosion, caiff llythyr ei anfon i ofyn i'r sawl sy'n gyfrifol am yr ymddygiad gwrthgymdeithasol addasu ei ymddygiad. Weithiau, bydd hyn yn ddigon i ddatrys y broblem.

Bydd achosion eraill o ymddygiad mwy cyson yn arwain at gosbi'r troseddwr. Byddwn yn ceisio annog troseddwyr i ddiwygio'u hymddygiad, o bosib trwy roi cymorth neu drwy gydweithio â phartneriaid i ddod o hyd i ffyrdd o atal yr ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Ym mhob achos, bydd yr ymateb yn dibynnu ar y math o ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac ansawdd y dystiolaeth sydd ar gael ar gyfer cymryd camau priodol a chymesur.

Pa bwerau sydd gan yr Uned Cefnogi Cymdogaethau (UCC)?

Nid yw'r UCC yn cymryd lle'r heddlu. Mae'r Uned Cefnogi Cymdogaethau (UCC) yn cefnogi'r Swyddfeydd Tai Rhanbarthol wrth fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae'r UCC yn darparu presenoldeb landlord 24 awr ar ein stadau, yn monitro teledu cylch cyfyng ar nifer o stadau'r cyngor, yn ymateb i ddigwyddiadau ac yn mynd ar batrôl i ddigwyddiadau newydd.

Rôl yr UCC yw cynnig cysur, cymorth a help i gasglu'r dystiolaeth sydd ei hangen ar gyfer cymryd camau gorfodi. Er mwyn casglu'r dystiolaeth, efallai y bydd yn rhoi dyddiadur i chi gofnodi digwyddiadau. Hefyd, gall yr UCC ddefnyddio goruchwyliaeth, a mynd i'r llys fel 'tystion proffesiynol" os oes angen. Hefyd, gall gyfeirio pobl at eiriolwyr i ddatrys anghytundebau neu anghydfodau rhwng cymdogion.

Caiff cefnogaeth arbenigol ei threfnu ar gyfer dioddefwyr a thystion os ystyrir y gallent fod mewn perygl o niwed gan y troseddwyr. Bydd ymddygiad gwrthgymdeithasol y ceir tystiolaeth ohono ac yr ystyrir ei fod yn torri rheolau tenantiaeth yn arwain at ddwyn achos cyfreithiol gan y cyngor. Gwneir pob ymdrech i berswadio troseddwyr i ddiwygio'u hymddygiad. Gallai gweithrediadau cyfreithiol arwain at osod ymgymeriadau neu waharddebau yn erbyn troseddwyr a gallai hyn arwain at eu symud o'r tŷ.

A fydd fy manylion yn cael eu cadw'n gyfrinachol?

Byddant, ni fydd eich manylion byth yn cael eu rhyddhau oni rowch eich caniatâd penodol.

Oes rhaid i mi roi fy enw?

Rydym yn deall bod pobl am aros yn ddienw oherwydd ofn dial; fodd bynnag, mae'n anos datrys achosion oni bai i ni allu cael mwy o wybodaeth neu gydlynu'r ffeithiau.