Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynnwys y gymuned

Hoffem gynnwys yr holl breswylwyr drwy feithrin perthnasoedd, gweithio mewn partneriaeth, gweithgareddau cymdeithasol a rhannu gwybodaeth.

Ar gyfer nifer ohonom, mae ein cymdogaeth a'n grwpiau cymunedol yn ffynhonnell hanfodol ar gyfer cefnogaeth, gwybodaeth a chysylltiad cymunedol. Yn ein bywydau prysur, gall fod yn hawdd i rai deimlo'n ddigyswllt â'r gymuned ehangach o'n cwmpas.

Ein nod yw maethu cymuned gydlynol lle mae pob llais yn cael ei glywed, mae pobl yn cefnogi ei gilydd, ac mae aelodau o gymuned Abertawe'n ymfalchïo yn y lle y maen nhw'n ei alw'n gartref.

Gyda'n gilydd, gallwn greu Abertawe gryfach, fwy cysylltiedig.

Cydlynu Ardal Leol

Gall eich cydlynydd ardal leol eich helpu i ddod o hyd i gyngor a chefnogaeth yn eich cymuned.

Cyfle i ddweud eich dweud

Cyfle i ddweud eich dweud yn arolygon, ymgynghoriadau a fforymau'r cyngor.

Diogelwch cymunedol ac argyfyngau

Cyngor ar gadw'n ddiogel.

Grŵp Partneriaeth yw Fforwm LHDTC+ Bae Abertawe

Mae fforwm LHDTC+ Bae Abertawe yn bartneriaeth o sefyliadau o bob rhan o'r rhanbarth sy'n darparu fforwm i rwydweithio, rhannu materion a sicrhau ymgysylltu ystyrlon â dinasyddion LHDTC+.

Grŵp Rhwydwaith Anabledd (GRA)

Rydym am i bobl fod yn iach, yn ddiogel yn eu cartrefi a'r tu allan iddynt, i fwynhau bywyd, i fynegi eu barn ac i wneud cyfraniad cadarnhaol at wella Abertawe.

Hawliau plant a phobl ifanc

Pan fyddwn yn creu polisïau newydd neu'n diwygio polisïau rydym yn sicrhau ein bod wedi edrych ar yr effaith ar hawliau plant a phobl ifanc.

Pobl 50 oed ac yn hŷn yn Abertawe (Heneiddio'n Dda)

Rydym am i bobl hŷn fod yn iach, yn ddiogel yn y cartref a'r tu allan iddo, mwynhau bywyd a chael llais a gwneud cyfraniad cadarnhaol i helpu i wella Abertawe.

Siop Gwybodaeth dan yr Unto

Partneriaeth rhwng yr 'Cwtsh Cydweithio', Cyngor Abertawe ac 'Amgueddfa Genedlaethol y Glannau'. Digwyddiadau galw heibio am ddim sy'n agored i bawb.

Y Cwtsh Cydweithio

Lle ymgysylltu cymunedol newydd y cyngor a enwyd gan aelodau cymunedol Abertawe.
Close Dewis iaith