Toglo gwelededd dewislen symudol

Llyfryn Gwybodaeth i Rieni 2024 / 2025

Rhestr o Dermau

Awdurdod Derbyniadau - yr Awdurdod Lleol (ALl) sy'n gyfrifol am dderbyniadau yr holl ysgolion cymunedol.  
 
Nifer Derbyn (ND)
- uchafswm nifer y plant ysgol y mae ysgol yn gallu ei dderbyn ym mhob grŵp blwyddyn.  
 
Ysgolion cymunedol - yn cael eu hariannu a'u cynal yn llwyr gan yr awdurdod lleol 
 
ALl - Awdurdod Lleol 
 
Plentyn sy'n derbyn gofal (LAC) - Mae plentyn sy'n derbyn gofal yn golygu plentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru neu Loegr, (fel y'i diffinnir gan Adran 22 o Ddeddf Plant 1989 ac Adran 74 o www.abertawe.gov.uk/deddfgcl.
 
Plant a oedd yn arfer derbyn gofal - plant sy'n peidio â bod felly am eu bod wedi'u mabwysiadu neu wedi dod yn destun gorchymyn preswylio, neu orchymyn gwarcheidiaeth arbennig yn syth ar ôl derbyn gofal. 
 
Trosglwyddo Canol Blwyddyn - cais i newid o un ysgol i ysgol arall ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn academaidd. 
 
Rownd Derbyn Arferol i Ysgol Gynradd - y cyfnod pan fo rhieni'n gallu gwneud cais am le derbyn i'w plentyn ei gymryd yn y mis Medi canlynol (Medi 2024)  
 
Rownd Derbyn Arferol i Ysgol Uwchradd - y cyfnod pan fo rhieni'n gallu gwneud cais am le Blwyddyn 7 i'w plentyn ei gymryd yn y mis Medi canlynol (mis Medi 2024)  
 
Dewis(iadau) - Ysgol(ion) a ddewiswyd ac a wneir cais amdanynt 
 
Ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol (VA) - ysgolion eglwys e.e. Catholig, yr Eglwys yng Nghymru.  

Close Dewis iaith