Tai amlfeddiannaeth (HMO) polisi trwyddedu 2025 gan gynnwys dynodi ardaloedd ar gyfer trwyddedu ychwanegol
Atodiad D - Amodau trwyddedu tŷ amlfeddiannaeth
Eiddo
Mae'r amodau hyn yn orfodol ac fe'u gosodir gan Gyngor Abertawe ar Dai Amlfeddiannaeth (HMO) sy'n destun cynllun trwyddedu o fewn cwmpas rhan 2 Deddf Tai 2004. Mae gan y Cyngor y disgresiwn i roi amodau trwydded eraill ar waith mewn achosion priodol.
Gosodir yr amodau hyn o dan Bolisi Trwyddedu HMO y Cyngor 2025.
Pan gyfeirir at y Cyngor, yr ystyr fydd Cyngor Abertawe.
Nifer y bobl a ganiateir i ddefnyddio'r eiddo
1. Ni ddylai nifer y bobl sy'n byw yn yr eiddo fod yn fwy na'r uchafswm nifer a nodir ar y drwydded.
2. Lle bo'r niferoedd yn fwy na'r lefel a ganiateir gan y drwydded, rhaid i ddeiliad y drwydded gymryd y camau cyfreithiol priodol i leihau'r niferoedd cyn gynted ag y bo modd.
3. Ni ddylid newid y modd y defnyddir pob ystafell, na'r lefel, heb ganiatâd y Cyngor.
Newidiadau i'r eiddo, trefniadau rheoli neu ddeiliad y drwydded
4. Ni ddylid gwneud gwaith addasu ar yr eiddo a all effeithio ar amodau'r drwydded heb hysbysu'r Cyngor ymlaen llaw.
5. Rhaid hysbysu'r Cyngor am unrhyw newid mewn amgylchiadau deiliad y drwydded, y rheolwr neu unrhyw un arall sy'n gysylltiedig â'r eiddo ei hun, neu'n ymwneud â'i reoli, o fewn 14 niwrnod i'r newid ddigwydd. Bydd hyn yn cynnwys unrhyw newid o ran manylion cyswllt neu werthiant yr eiddo.
6. Os oes unrhyw newidiadau arfaethedig yn golygu na fydd yr eiddo'n addas bellach i'w ddefnyddio fel HMO, nad yw'r trefniadau rheoli bellach yn foddhaol neu nad yw deiliad trwydded neu unrhyw reolwr bellach yn cael eu hystyried yn bobl addas a phriodol, gall y Cyngor amrywio neu ddirymu'r drwydded.
Trefniadau gosod
7. Bydd deiliad y drwydded yn rhoi datganiad ysgrifenedig i holl feddianwyr y tŷ ynghylch amodau eu deiliadaeth.
8. Bydd deiliad y drwydded yn darparu'r canlynol i bob preswylydd newydd ar ddechrau ei ddeiliadaeth:
a) Gwybodaeth ysgrifenedig am drefniadau ailgylchu a storio gwastraff (y tu mewn a thu allan i'r eiddo), trefniadau casglu a gwaredu gwastraff, gan gynnwys sut i gael sachau ailgylchu (rhaid arddangos canllaw'r Cyngor ar ailgylchu a gwaredu gwastraff y tu mewn i'r eiddo);
b) Gwybodaeth ysgrifenedig am y gweithdrefnau dianc o'r adeilad os oes tân, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ddeall y larwm, pwysigrwydd drysau tân a diogelu'r llwybr dianc, sicrhau nad oes rhwystrau ar y llwybr dianc, a sut i ddefnyddio'r cyfarpar ymladd tân a ddarperir yn gywir. Bydd deiliaid y drwydded yn sicrhau bod yr holl feddianwyr hollol ymwybodol o'r gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â chamrybuddion tân;
c) Manylion ysgrifenedig y trefniadau sydd ar waith i ymdrin â gwaith atgyweirio a sefyllfaoedd argyfwng yn yr eiddo, neu mewn cysylltiad ag ef. Dylai hyn gynnwys enwau, rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost lle bo modd;
ch) Gwybodaeth ysgrifenedig am ymddygiad gwrthgymdeithasol fel y'i hamlinellir yn amod 29 y drwydded hon.
9. Bydd deiliad y drwydded yn sicrhau bod pob preswylydd yn llofnodi'r Datganiad o Ddealltwriaeth ar ôl derbyn yr wybodaeth uchod. Mae'n rhaid cyflwyno copi o'r datganiad wedi'i lofnodi ar gais gan y Cyngor.
Cyflwr yr eiddo
10. Mae'n rhaid i ddeiliad y drwydded gyflawni'r gwaith yn yr atodlen atodedig o fewn y cyfnodau penodedig a nodir.
11. Mae'n rhaid i ddeiliad y drwydded gadw adeiledd ac adeiladwaith y tŷ mewn cyflwr da.
12. Mae'n rhaid cadw ymddangosiad allanol y tŷ mewn cyflwr addurnol da. Rhaid i holl waliau allanol y tŷ a baentiwyd gael eu paentio o leiaf unwaith yn ystod cyfnod y drwydded ac yn amlach os bydd angen iddynt gydymffurfio.
13. Mae'n rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau bod yr holl osodion, ffitiadau a chyfarpar a ddarperir i'w defnyddio gan y meddianwyr yn gweithio'n iawn ac yn cael eu cynnal a'u cadw mewn cyflwr da, diogel a threfn gweithio lawn.
14. Mae'n rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau y datrysir pob problem sy'n gysylltiedig â gwaith atgyweirio a chynnal a chadw adeiladwaith yr adeilad, offer, cyfarpar neu gelfi, o fewn cyfnod sy'n briodol i frys y broblem ar ôl i'r meddianwyr, y Cyngor, asiant gosod neu reoli neu ymwelwyr â'r eiddo ei hysbysu amdani.
15. Mae'n rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau bod yr eiddo'n cydymffurfio â safonau lleoedd gwag mabwysiedig y Cyngor.
16. Mae'n rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau bod yr eiddo'n bodloni safonau amwynderau mabwysiedig y Cyngor, gan ystyried uchafswm nifer y meddianwyr a ddatgenir ar y drwydded. Cynhelir yr holl amwynderau, cyfleusterau a chyfarpar hynny fel eu bod yn gweithio'n dda.
17. Mae'n rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau bod gwresogi gwagle digonol yn cael ei ddarparu a'i gynnal ym mhob uned llety byw.
18. Bydd deiliad y drwydded yn sicrhau bod yr eiddo'n cyrraedd lleiafswm perfformiad gradd ynni E oni bai fod yr eiddo wedi'i eithrio yn unol â'r meini prawf a bennir yn Rheoliadau Effeithlonrwydd Ynni (Eiddo Rhent Preifat) (Cymru a Lloegr) 2015. Darperir copi o'r Dystysgrif Perfformiad Ynni i'r Cyngor ar gais.
19. Mae'n rhaid inswleiddio lleoedd gwag mewn toeon/croglofftydd, caeadau croglofftydd a thanciau dŵr poeth i'r gwerthoedd gofynnol o ran effeithlonrwydd ynni, yn unol â gofynion Rheoliadau Adeiladu cyfredol fel y'u nodir yn y Dogfennau Cymeradwy.
Rhagofalon tân
20. Mae'n rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau y darperir ffyrdd priodol o ddianc, cyfleusterau rhagofalon tân a chyfarpar yn yr eiddo yn unol â safon fabwysiedig y Cyngor. Bydd deiliad y drwydded yn darparu datganiad ar gais gan y Cyngor ynghylch dyluniad, gosodiad a chyflwr y system larwm a chanfod tân, gan gynnwys y system atal tân os oes un wedi'i gosod.
21. Bydd y deliad trwydded yn sicrhau bod y system larwm a chanfod tân, gan gynnwys y system atal tân os oes un wedi'i gosod, a'r diffoddiaduron tân a ddarperir yn yr eiddo mewn cyflwr da a bod y system larwm, gan gynnwys seinwyr, synwyryddion mwg a'r system atal tân, os oes un wedi'i gosod, yn cael eu profi ar gyfnodau priodol yn unol â chyfarwyddiadau'r gosodwr/gwneuthurwr. Rhaid datrys unrhyw ddiffygion ar unwaith, a chadw cofnod ysgrifenedig o brofi a chynnal a chadw'r larwm a'r system atal tân, os oes un wedi'i gosod. Dylid cynnal a chadw'r larwm tân, a'r system atal tân os oes un wedi'i gosod, yn unol â Safonau BS 5839 Rhan 6. Dylid cynnal a chadw'r offer diffodd tân bob blwyddyn, ac yn unol ag argymhellion y gosodwr a'r gwneuthurwr. Rhaid i'r holl gofnodion fod ar gael i'w harolygu ar gais gan y cyngor.
22. Bydd deiliad y drwydded yn sicrhau bod trefniadau ar waith i sicrhau bod person priodol ar gael i fynd i'r eiddo ar unrhyw adeg os oes galwad tân diangen, er mwyn ailosod y system larwm tân yn gywir. Rhaid darparu manylion i'r Cyngor.
23. Bydd deiliad y drwydded yn sicrhau y profir y system larwm tân gan gontractwr priodol a chymwys ar ôl pob tân a galwad tân diangen er mwyn sicrhau yr ailosodir y system yn gywir. Bydd deiliad y drwydded yn sicrhau y dywedir wrth y Cyngor am dân yn yr eiddo o fewn 24 awr i ddeiliad y drwydded neu gynrychiolydd enwebedig ddod yn ymwybodol o'r tân.
Nwy, Trydan, Carbon Monocsid a Chelfi
24. Os cyflenwir nwy i'r tŷ, bydd deiliad y drwydded yn cyflwyno tystysgrif diogelwch nwy a roddwyd i'r eiddo o fewn y 12 mis diwethaf i'r Cyngor. Ceir y dystysgrif gan gontractwr sydd wedi'i gofrestru gyda'r Gofrestr Diogelwch Nwy; bydd yn cynnwys pob gosodyn, offeryn a ffliw nwy a ddarperir gan ddeiliad y drwydded o fewn yr eiddo.
25. Bydd deiliad y drwydded yn cadw'r holl gyfarpar trydanol y mae'n ei ddarparu yn yr eiddo mewn cyflwr diogel. Rhaid i ddeiliad y drwydded gyflwyno datganiad ganddo o ran diogelwch y fath gyfarpar i'r Cyngor ar gais.
26. Mae'n rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau bod yr adroddiad cyflwr gosodiadau trydanol ar gyfer yr eiddo yn cael ei adnewyddu bob pum mlynedd o leiaf. Mae'r holl waith Cod 1 a 2 a restrir yn yr adrannau Diffygion ac Awgrymiadau i'w cwblhau. Rhaid i ddeiliad y drwydded ddarparu'r adroddiad i'r Cyngor ar gais.
27. Bob tro y bydd y cylchedau a'r/neu'r gwaith gosod trydanol yn cael eu newid mewn unrhyw ffordd, rhaid i ddeiliad y drwydded ddangos tystysgrif ychwanegol gan drydanwr cymwys i'r Cyngor yn cadarnhau cyflwr boddhaol y cylchedau a'r/neu'r gosodiadau trydanol.
28. Ni ddylid cyflenwi gosodiadau trydanol sy'n darparu pŵer i'r larymau tân neu'r systemau goleuadau argyfwng trwy fesuryddion tocyn na thrwy gyflenwad mesurydd unrhyw ddeiliad.
29. Mae'n rhaid darparu larwm carbon monocsid (CO) sy'n gweithio mewn unrhyw ystafell sy'n cynnwys peiriant sy'n llosgi, neu sy'n gallu llosgi tanwydd solet, nwy o'r prif gyflenwad neu LPG (nwy petrolewm hylifedig).
30. Dylai deiliad y drwydded ddarparu celfi i'r eiddo sy'n cydymffurfio â gofynion Rheoliadau Dodrefn a Deunyddiau Dodrefnu (Diogelwch Tân) 1988 (fel y'i diwygiwyd) yn unig. Dylid cadw pob celficyn o'r fath mewn cyflwr diogel ac mewn cyflwr da. Rhaid i ddeiliad y drwydded roi datganiad i'r perwyl hwn i'r Cyngor ar gais.
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Chydlyniant Cymdogaeth
31. Bydd deiliad y drwydded yn cymryd pob cam rhesymol ac ymarferol i atal neu leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol gan feddianwyr neu ymwelwyr â'r eiddo. Bydd hyn yn cynnwys:
a) Nodi ystyr ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ysgrifenedig ar gyfer pob preswylydd;
b) Esbonio effaith ymddygiad gwrthgymdeithasol ar bobl eraill yn yr ardal;
c) Cofnodi manylion pob cwyn a dderbynnir yn uniongyrchol am ymddygiad gwrthgymdeithasol;
ch) Defnyddio cosbau priodol dan y contract meddiannaeth lle bo angen.
32. Bydd deiliad y drwydded yn sicrhau bod yr eiddo'n cael ei archwilio'n rheolaidd i asesu a oes tystiolaeth o ymddygiad gwrthgymdeithasol neu ddeiliaid yn gwrthod cydymffurfio â Rheoliadau Rheoli HMO perthnasol. Dylai hyn fod o leiaf bob chwarter, ond yn amlach os ceir cadarnhad o ymddygiad gwrthgymdeithasol neu os oes cwynion wedi'u derbyn. Dylid cadw cofnodion o archwiliadau o'r fath ac unrhyw gamau gweithredu a gymerwyd.
33. Bydd deiliad y drwydded yn darparu enwau'r meddianwyr presennol ar gais i'r Cyngor ac yn cydweithredu â'r Cyngor er mwyn dileu problemau o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol neu broblemau sy'n effeithio ar gymdogion. Ar gais, bydd deiliad y drwydded yn dangos ei fod wedi cymryd camau rhesymol ac ymarferol i reoli'r broblem, gan gynnwys tystiolaeth o'r rhybuddion llafar neu ysgrifenedig y maent wedi'u rhoi.
34. Pan fo gan ddeiliad y drwydded reswm i gredu bod gweithgaredd troseddol yn digwydd yn yr eiddo, rhaid iddo sicrhau bod yr awdurdodau priodol yn cael eu hysbysu.
Trefniadau gwastraff
35. Bydd y deiliad trwydded yn darparu bin gwastraff cyffredinol ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu, bin ailgylchu ar gyfer papur, bin ailgylchu ar gyfer gwydr a thuniau, bin ailgylchu ar gyfer plastigion caled a blwch 23 litr ar gyfer gwastraff bwyd y gellir ei gadw y tu allan a blwch gwastraff bwyd i'w gadw yn y gegin. Rhaid darparu cyflenwad pedair wythnos cychwynnol o'r holl sachau du ac ailgylchu perthnasol i holl feddianwyr newydd eiddo, ynghyd â manylion clir ynghylch y gofynion a'r casgliadau gwastraff ac ailgylchu yn Abertawe.
36. Bydd deiliad y drwydded yn sicrhau y darperir digon o gyfleusterau storio allanol addas sy'n ddiogel rhag plâu ar gyfer gwastraff cartref ac ailgylchu sy'n aros i gael eu gwaredu. Lle bo'n rhesymol ymarferol, dylai'r rhain fod yn agos i'r man casglu ar y stryd ac os yw hwn o flaen yr eiddo, dylid eu hamgáu mewn modd addas. Rhaid darparu cyfleusterau'n unol â'r gofynion storio gofynnol a nodir yn y tabl isod.
Nifer y preswylwyr | Gwastraff na ellir ei ailgylchu | Ailgylchu | Blwch gwastraff bwyd |
---|---|---|---|
1-5 | 1 x 240 litr | 1 x 23 litr | |
6-8 | 1 x240 litr | 1 x 240 litr | 2 x 23 litr |
9-10 | 1 x 240 litr | 2 x 240 litr | 2 x 23 litr |
11+ | Dylid cael cyngor penodol er mwyn pennu gofynion |
37. Bydd deiliad y drwydded yn sicrhau bod y meddianwyr yn ymwybodol o'u dyletswyddau o ran glendid gerddi, iardiau a chyrtiau blaen.
38. Bydd deiliad y drwydded yn sicrhau y terfir cyn lleied â phosib ar feddianwyr, cymdogion a'r gymuned ehangach pan gyflawnir unrhyw waith adeiladu, gwaith gwella a gwaith cynnal a chadw cyffredinol; lle bo modd, ni ddylai unrhyw wastraff sy'n deillio o waith adeiladu neu wella ar yr eiddo gronni yng nghwrtil yr eiddo neu'n agos ato. Pan na ellir osgoi'r fath groniadau, ceir gwared arnynt cyn gynted ag y bydd yn ymarferol bosib, i gyfleuster gwaredu gwastraff trwyddedig.
39. Ni chaniateir i unrhyw wastraff arall, fel hen gelfi neu offer, gronni yng nghwrtil yr eiddo. Os trefnir i gael gwared ar y fath eitemau, dylid eu gosod o flaen yr eiddo'n unig ar y dyddiad casglu.
40. Bydd deiliad y drwydded yn cael gwared ar unrhyw wastraff a adewir gan feddianwyr sy'n gadael yr eiddo cyn gynted â phosib a chyn i feddianwyr newydd ddefnyddio'r eiddo.
41. Caiff y gerddi, y cyrtiau blaen a'r waliau/ffensys terfyn eu cadw'n glir o ordyfiant, sbwriel neu groniadau eraill a'u cynnal mewn cyflwr glân a thaclus.
Cyffredinol
42. Caiff copi o'r drwydded sydd mewn grym ar hyn o bryd o ran yr eiddo ei arddangos yn glir mewn safle amlwg yn yr eiddo.
43. Bydd deiliad y drwydded yn sicrhau y cyflwynir manylion ysgrifenedig y trefniadau sydd ar waith i ymdrin â sefyllfaoedd argyfwng yn yr eiddo, neu mewn cysylltiad ag ef, i feddianwyr eiddo cyfagos. Dylai hyn gynnwys enwau a rhifau ffôn.
44. Bydd deiliad y drwydded yn sicrhau, hyd eithaf ei wybodaeth, fod unrhyw un sy'n rhan o reoli'r eiddo yn 'berson addas a phriodol' at ddibenion Deddf Tai 2004 ac yn meddu ar y drwydded Rhentu Doeth Cymru briodol.
45. Bydd deiliad y drwydded yn sicrhau bod unrhyw un sy'n ymwneud â rheoli'r eiddo'n hollol ymwybodol o'r amodau trwydded hyn ac o'r graddau y bydd ei gysylltiad â'r eiddo'n caniatáu i ddeiliad y drwydded gydymffurfio â'r amodau hyn.
46. Bydd deiliad y drwydded yn mynd ar unrhyw gwrs datblygiad proffesiynol a/neu hyfforddiant sy'n gysylltiedig â'r codau ymarfer cymeradwy y bydd y Cyngor yn eu darparu neu'n eu cydnabod yn ystod cyfnod y drwydded.
47. Bydd deiliad y drwydded yn cadw unrhyw gofnodion a thystysgrifau y cyfeirir atynt yn yr amodau trwyddedu hyn am hyd cyfan y drwydded a rhaid eu cyflwyno i'r Cyngor ar gais.
Cyfyngiadau'r Drwydded
Trosglwyddo trwydded - Niellir trosglwyddo'r drwydded i berson, sefydliad neu eiddo arall.
Cwmnïau Cofrestredig - Os yw deiliad y drwydded yn gwmni cofrestredig ac yn cael ei ddiddymu yn ystod y cyfnod y mae'r drwydded yn weithredol, ni fydd y drwydded mewn grym o ddyddiad diddymu'r cwmni.
Marwolaeth deiliad y drwydded- Os yw deiliad y drwydded yn marw yn ystod y cyfnod y mae'r drwydded yn weithredol, ni fydd y drwydded mewn grym o ddyddiad ei farwolaeth.
Cyflwr eiddo - Nid yw'r drwydded hon yn brawf nac yn dystiolaeth bod y tŷ yn ddiogel ac yn rhydd o beryglon a diffygion. Nid yw'r drwydded yn rhwystro camau cyfreithiol troseddol neu sifil rhag cael eu cymryd yn erbyn deiliad y drwydded, nac unrhyw un arall sydd â budd yn yr eiddo, os canfyddir unrhyw beryglon neu niwsans neu unrhyw broblemau eraill mewn perthynas â chyflwr yr eiddo.
Rheoli Adeiladau - Nid yw'r drwydded hon yn rhoi unrhyw gymeradwyaethau, caniatâd na chaniatâd Rheoli Adeiladu, yn ôl-weithredol neu fel arall. Nid yw'r drwydded hon yn cynnig unrhyw amddiffyniad nac esgus yn erbyn unrhyw gamau gorfodi a gymerir gan yr Is-adran Rheoli Adeiladu.
Caniatâd Cynllunio - Nidyw'r drwydded hon yn rhoi unrhyw gymeradwyaethau na chaniatâd cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 nac unrhyw ddeddfwriaeth gynllunio gysylltiedig, yn ôl-weithredol neu fel arall. Dylech wirio bod y caniatâd cynllunio cywir ar waith. Nid yw'r drwydded hon yn cynnig unrhyw amddiffyniad nac esgus yn erbyn unrhyw gamau gorfodi a gymerir gan Swyddogion Gorfodi Cynllunio. Os ydych yn ansicr ynghylch y materion a amlinellir uchod, dylech ofyn am gyngor cynllunio proffesiynol.
Sylwer- Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod gennych unrhyw ganiatâd angenrheidiol arall i alluogi defnyddio'r eiddo fel tŷ amlfeddiannaeth. Nid yw cyflwyno trwydded yn trechu unrhyw ddarpariaethau cyfreithiol preifat neu gyhoeddus eraill yn hyn o beth.