Toglo gwelededd dewislen symudol

Tai amlfeddiannaeth (HMO) polisi trwyddedu 2025 gan gynnwys dynodi ardaloedd ar gyfer trwyddedu ychwanegol

Tai amlfeddiannaeth (HMO) polisi trwyddedu 2025

Ar y dudalen hon

Nid oes unrhyw benawdau ar y dudalen hon i lywio iddynt.

1. Cyflwyniad

1.1 Mae'r polisi hwn yn disodli Polisi Trwyddedu HMO 2020 ac yn amlinellu'r ffordd y mae Cyngor Abertawe'n rhoi gofynion Deddf Tai 2004 ar waith o ran      trwyddedu HMO a pheryglon iechyd a diogelwch. Mae ef hefyd yn amlinellu   sut mae'r Cyngor yn bwriadu parhau i ddefnyddio pwerau disgresiwn y Ddeddf i sicrhau y caiff ei orfodi'n deg ac yn gyfiawn.

1.2 Amcangyfrifir bod cyfanswm o 2,200 o dai amlfeddiannaeth yn Abertawe. Rhaid i bob HMO â thri llawr neu fwy ac sydd wedi'i feddiannu gan bum meddiannydd neu fwy gael ei drwyddedu. Mae hyn yn ofyniad statudol a adweinir fel trwyddedu gorfodol. Rhaid i bob HMO sy'n bodloni'r disgrifiad hwn ym mhob rhan o Abertawe gael ei drwyddedu.

1.3 Mae pwerau disgresiynol ar gael i'r Cyngor i fynnu bod HMOau eraill nad ydynt yn destun trwyddedu gorfodol ac sy'n aml yn llai, yn cael eu trwyddedu. Mae adran 6 yn cynnwys rhagor o fanylion am hyn. O gyfanswm amcangyfrifedig yr HMOau yn Abertawe, amcangyfrifir bod 1,850 yn adrannau etholiadol y Castell ac Uplands. Mae cynlluniau trwyddedu HMOau ychwanegol wedi bod mewn grym yn y ddwy ardal yma ers cyflwyno'r ddeddfwriaeth yn 2006, gan ymgorffori HMOau llai gyda llai na thri llawr a'r rheini â thri meddiannydd neu fwy, gan gynnwys rhai fflatiau hunangynhwysol wedi'u haddasu. Yn 2020 ehangwyd y cynllun trwyddedu gwreiddiol i gynnwys St Thomas ac yn dilyn hynny, yn 2021, ward y Glannau a oedd newydd ei ffurfio.

1.4 Mae hyn yn golygu bod pob HMO yn adrannau etholiadol y Castell, Uplands a'r Glannau wedi bod yn destun trwyddedu, ac eithrio ambell eiddo a eithrir yn benodol o dan ddarpariaethau Deddf Tai 2004, e.e. y rhai a berchnogir ac a reolir gan brifysgol.

1.5 Mae cynlluniau trwyddedu HMOau ychwanegol yn para pum mlynedd ar y mwyaf.

1.6 Mae union nifer y tai amlfeddiannaeth yn Abertawe'n amrywio dros amser wrth i nifer y preswylwyr mewn eiddo newid. Mae'r manylion isod yn rhoi syniad o nifer a dosbarthiad daearyddol tai amlfeddiannaeth ar draws y ddinas, ynghylch HMOau trwyddedig.

Trwyddedwyd 1,848 o dai amlfeddiannaeth dan y cynlluniau gorfodol ac ychwanegol yn Abertawe ar 23 Awst 2024. Roedd y rhain yn y wardiau canlynol:

Y Castell510
Glandŵr3
Ystumllwynarth1
St Thomas112
Sgeti14
Townhill1
Uplands1,181
Y Glannau26


1.7 Mae materion cydlyniant cymunedol a chynaliadwyedd yn gysylltiedig â chrynodiadau uchel o HMOau yn Wardiau'r Castell ac Uplands. Mae gan y ddwy ward gyfrannau uchel a chynyddol o aelwydydd un person a sawl oedolyn. Mewn cyferbyniad, mae aelwydydd teuluol traddodiadol yn dirywio yn yr ardaloedd hyn.

1.8 Ochr yn ochr â phryderon cyffredinol am yr effaith y gall HMOau ei chael ar gymunedau penodol, yn enwedig ynghylch problemau gwastraff ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, mae aelodau ward a meddianwyr wedi codi pryderon am y cynnydd posib yn niferoedd y tai amlfeddiannaeth yn St Thomas. Mae hyn wedi bod yn bennaf ers datblygiad Campws y Bae Prifysgol Abertawe ym mis Medi 2015 a'r datblygiad dilynol gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn SA1. Mae pryderon yn ymwneud yn bennaf â'r posibilrwydd y bydd y gymuned yn chwalu a'r effaith arni yn y tymor hir, gyda niferoedd uwch o denantiaid HMO dros dro.

1.9 Mae tai amlfeddiannaeth yn destun cwynion mynych am gyflwr tai, sbwriel a'u heffaith ar gymdogion. Crynhoir cwynion yn y Castell ac Uplands, gan adlewyrchu nifer uchel y tai amlfeddiannaeth yn yr ardal. Mae gorfodi amodau trwyddedau'n ffactor arwyddocaol wrth sicrhau gwelliannau o ran cyflwr a rheoli HMO.

1.10 Mae'r Tîm HMO yn gyfrifol am archwilio tai amlfeddiannaeth a phrosesu ceisiadau newydd, ymweliadau cynnydd a rheoli, ceisiadau am wasanaeth adweithiol, cyngor a gorfodi, gan gynnwys erlyniadau. Ers i Bolisi Trwyddedu HMO 2011 gael ei gyflwyno, mae'r Cyngor wedi erlyn 46 o achosion a rhoi 47 o rybuddion syml. Mae'r Pwyllgor Trwyddedu wedi canfod nad oedd chwe landlord yn addas a phriodol, mae wedi diddymu 13 trwydded a gwrthod 10 cais. Apeliodd un landlord yn llwyddiannus i'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl yn erbyn penderfyniad y pwyllgor, ac adferwyd ei drwydded gyfredol, a chaniatawyd dau gais.

1.11 Mae llawer yn pryderu bod nifer ac amlder y tai amlfeddiannaeth mewn ardaloedd penodol yn cael effaith negyddol ar gynaliadwyedd cymunedau. Mae'r polisi hwn, sy'n seiliedig ar roi swyddogaethau ar waith o dan ran 2, Deddf Tai 2004, yn ymdrin â thrwyddedu, cyflwr a rheoli tai amlfeddiannaeth. Ni all fynd i'r afael â phroblemau dwysedd uchel o HMO sydd bellach yn fater cynllunio ac yr ymdrinnir ag ef bellach drwy'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a'r Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) newydd.

1.12 Adolygir y polisi hwn cyn i'r cynllun trwyddedu HMO ychwanegol ar gyfer wardiau'r Castell ac Uplands ddod i ben.

2. Nodau ac Amcanion

2.1 Nod y polisi yw gwella safonau tai a rheoli yn y sector rhentu preifat, a thai amlfeddiannaeth yn benodol.

2.2 Amcanion y polisi yw:

  • Bodloni rhwymedigaethau statudol Deddf Tai 2004 a'r rheoliadau a wneir yn unol â hi
  • Dileu cyflwr eiddo a safonau rheoli gwael drwy reoleiddio a gorfodi
  • Hyrwyddo safonau uchel ar draws y sector HMO.

3. Gwybodaeth am Boblogaeth ac Aelwydydd Abertawe

3.1 Yr amcangyfrif swyddogol diweddaraf o boblogaeth Dinas a Sir Abertawe yw 246,700 (amcangyfrifon canol blwyddyn 2023, Swyddfa Ystadegau Gwladol -      SYG). Mae gan Abertawe'r ail boblogaeth uchaf o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru sy'n cynrychioli bron 8% o boblogaeth Cymru gyfan (3,164,400).

3.2 Yr amcangyfrifon aelwydydd canol blwyddyn swyddogol diweddaraf yw'r rhai ar gyfer canol 2023 (fel y'u cyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2024). Mae'r amcangyfrifon hyn yn awgrymu bod tua 105,000 o aelwydydd yn Abertawe yn 2023.

3.3 Mae maint cyfartalog aelwyd yn darparu 'prif' fesur syml o gyfansoddiad aelwyd a chyfrifir hyn drwy rannu amcangyfrifon o nifer y bobl sy'n byw mewn aelwydydd preifat â nifer yr aelwydydd. Dros gyfnod o ddeng mlynedd, sef 2008-2018, mae nifer yr aelwydydd yn Abertawe wedi tyfu'n gynt na'r boblogaeth aelwydydd preifat (yn unol â holl rannau Cymru). O ganlyniad, mae maint cyfartalog aelwyd yn Abertawe wedi lleihau o 2.28 yn 2008 i 2.22 person fesul aelwyd yn 2021 (er mae'n is na chyfartaledd Cymru, sef 2.27).

3.4 Roedd 36,200 o aelwydydd un personyn Abertawe yn 2021 (34.4% o'r cyfanswm), cyfran uwch na Chymru'n gyffredinol (31.9%) a Chymru a Lloegr (30.2%). Yn Abertawe Ganolog, mae'r ffigur hwn yn codi i 42%.

3.5 Mae gan Farchnad Dai Abertawe Ganolog hefyd y gyfran fwyaf o aelwydydd sy'n rhentu eu cartrefi'n breifat (32.1%) ac mae hyn yn ôl pob tebyg wedi'i gysylltu'n rhannol â myfyrwyr sy'n chwilio am lety a rentir yn breifat pan fyddant yn y brifysgol neu wrth raddio, os ydynt yn aros yn y ddinas. Roedd Abertawe'n gartref i oddeutu 22,678 o fyfyrwyr 16 oed neu'n hŷn yng Nghyfrifiad 2021 gydag 17,954 o'r myfyrwyr hyn yn 18 oed neu'n hŷn a'r rhan fwyaf o'r rheini heb fod yn hŷn na 24 oed.

3.6 Eiddo tair ystafell wely sy'n ffurfio'r gyfran fwyaf o eiddo a rentir yn breifat ar draws holl ardaloedd Abertawe ac eithrio'r Gorllewin ac Abertawe Ganolog lle mae eiddo dwy ystafell wely yn fwyaf cyffredin. Yn ogystal, mae'r gyfran fwyaf o eiddo rhent un ystafell wely i'w chael yn yr ardal Ganolog, y gellid ei briodoli i gyfran uwch o bobl 16 i 24 oed (gan gynnwys myfyrwyr) sy'n byw yn yr ardal. Mae gan yr ardal Ganolog gyfran uwch hefyd o eiddo rhent a chanddynt o leiaf bedair ystafell wely, y gellid ei briodoli i fyfyrwyr sy'n rhentu tai amlfeddiannaeth.

3.7 Nododd ddata o Gyfrifiad Poblogaeth y DU 2021 fod 18.0% o aelwydydd yn byw yn y sector rhentu preifat yn Abertawe (18,900).  Mae nifer yr aelwydydd sy'n rhentu'n breifat yn Abertawe wedi cynyddu tua 3,600 neu 24% ers 2011, yn unol â thueddiadau cenedlaethol.  Ar draws Cymru, mae 17% o aelwydydd ar gyfartaledd yn byw yn y sector rhentu preifat.

4. Anghenion Tai a Rôl Tai Amlfeddiannaeth

4.1 Roedd yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol yn 2023 yn adrodd bod HMOau yn gwneud cyfraniad pwysig i'r sector rhentu preifat yn Abertawe, yn enwedig yn y wardiau canolog, drwy ddarparu tai ar gyfer grwpiau ac aelwydydd penodol, er enghraifft myfyrwyr. At hynny, maent yn cyfrannu at yr economi leol drwy ddarparu cyflenwad tai i'r rheini sy'n symud i ardal am resymau gwaith, neu i'r boblogaeth bresennol mewn swyddi â chyflog is.

4.2 Mae newidiadau a amlinellir yn y Ddeddf Diwygio Lles a Gwaith yn arwain at fwy o alw am lety llai yn ogystal â chynnydd mewn llety a rennir gan bobl sengl dan 35 oed. O'r blaen, roedd gan bobl sengl dros 25 oed hawl i Fudd- dal Tai i dalu am lety hunangynhwysol un ystafell wely. Mae'r newidiadau'n golygu bod pobl sengl hyd at 35 oed bellach yn cael eu hasesu gan ddefnyddio'r gyfradd llety a rennir is. Mae hyn yn cynyddu'r galw am lety HMO yn Abertawe.

4.3 Cyflwynodd Deddf Tai (Cymru) 2014 gyfrifoldebau newydd i awdurdodau lleol helpu pobl ddigartref a'r rheini sydd dan fygythiad o ddigartrefedd. Mae hyn yn    cynnwys opsiynau ar gyfer helpu pobl i ddod o hyd i gartref newydd yn y sector rhentu preifat ac mae tai amlfeddiannaeth yn parhau i ddarparu atebion ar gyfer rhai o'r sefyllfaoedd hyn.

4.4 Mae rôl y sector rhentu preifat wrth helpu i fodloni dyheadau tai aelwydydd lleol yn ehangu. Mae'r sector wedi tyfu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae nifer y myfyrwyr yn Abertawe wedi cynyddu'n sylweddol ac er bod y galw ar draws y farchnad dai leol wedi'i wasgaru'n dda, mae'r crynodiad o fyfyrwyr yn wardiau'r Castell ac Uplands yn dangos marchnad leol sy'n sensitif i ddylanwadau allanol.

4.5 Amlygodd yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol yn 2023 yr angen am gynnydd sylweddol yn nifer y cartrefi un ystafell wely, sydd, os na chânt eu darparu, yn dod yn ofyniad ar gyfer cartrefi un ystafell wely ychwanegol yn y sector preifat sy'n debygol o fod yn ofyniad i HMOau.

4.6 Mae cofnodion eiddo sydd wedi'u heithrio rhag talu Treth y Cyngor gan fod myfyrwyr yn byw yno yn awgrymu mai myfyrwyr sy'n byw mewn tua 65% o dai amlfeddiannaeth yn Abertawe. Mae'n bwysig sicrhau y darperir nifer priodol o letyai o safon i fyfyrwyr i ganiatáu ar gyfer twf cynaliadwy prifysgol Abertawe   sy'n tyfu ochr yn ochr â llety a adeiladwyd yn benodol i fyfyrwyr. Mae llety a adeiladwyd at y diben yn helpu'n gynyddol i ddiwallu anghenion myfyrwyr ac o bosib gallai leihau'r pwysau am gael rhagor o dai amlfeddiannaeth.

5. Y Fframwaith Cyfreithiol

5.1 System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai

Mae'r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS) yn berthnasol i bob tŷ, gan gynnwys tai amlfeddiannaeth, ni waeth be fo'r math neu'r ddaliadaeth. Mae'n cynnwys asesiad risg o effaith cyflwr tai ar iechyd meddianwyr ac asesiad o 29 o beryglon posib. Os ceir peryglon Categori 1 (sef y peryglon mwyaf difrifol), mae gan y Cyngor ddyletswydd i ofyn i'r perchennog gymryd camau gweithredu priodol. Os ceir peryglon Categori 2 (sef peryglon llai difrifol), gall y Cyngor gymryd camau gweithredu priodol yn unol â darpariaethau ei bolisïau gorfodi. Mae'n ofynnol i gynghorau asesu tai amlfeddiannaeth trwyddedadwy er mwyn sicrhau nad oes unrhyw   swyddogaethau o dan ran 1 y Ddeddf (HHSRS) y dylent eu cyflawni. Mae'n rhaid gwneud hyn o fewn pum mlynedd i drwydded gael ei rhoi; yn ymarferol, bydd angen cynnal archwiliad.

5.2 Diffinio HMO

Ceir tŷ amlfeddiannaeth pan fo tri o bobl neu fwy sy'n ffurfio mwy nag un aelwyd yn rhannu cyfleusterau, fel cegin neu ystafell ymolchi, ac yn defnyddio'r tŷ fel eu hunig gartref, neu eu prif gartref, a lle bo rhent yn daladwy  am ei ddefnyddio.

Mae'r Ddeddf yn diffinio adeilad fel HMO os yw'n bodloni un o'r meini prawf canlynol:

  • Y Prawf Safonol - unrhyw adeilad lle bo tri o bobl neu fwy sy'n ffurfio mwy nag un aelod yn rhannu cyfleusterau sylfaenol;
  • Y Prawf Fflat Hunangynhwysol - unrhyw fflat lle bo tri o bobl neu fwy sy'n ffurfio mwy nag un aelwyd yn rhannu cyfleusterau sylfaenol;
  • Y Prawf Adeilad wedi'i Addasu - unrhyw adeilad sydd wedi'i addasu y mae ganddo un uned neu fwy nad yw'n hunangynhwysol ac mae tri o bobl neu fwy sy'n ei ddefnyddio'n ffurfio mwy nag un aelwyd;
  • Blociau penodol o Fflatiau wedi'u Haddasu - unrhyw adeilad sydd wedi'i addasu sy'n cynnwys fflatiau hunangynhwysol nad ydynt yn bodloni Safonau Rheoliadau Adeiladu 1991 lle defnyddir mwy na thraean y fflatiau ar denantiaethau byr, a lle bo cyfanswm o dri o bobl neu fwy yn ffurfio mwy nag un aelwyd.

Eithrir adeiladau penodol o ddeddfwriaeth HMO:

  • Adeiladau a reolir gan gyngor lleol, cymdeithas tai, awdurdod yr heddlu, y gwasanaeth tân a'r gwasanaeth iechyd;
  • Cartrefi gofal cofrestredig;
  • Neuaddau preswyl a reolir gan y brifysgol;
  • Adeiladau a ddefnyddir gan gymunedau crefyddol;
  • Adeiladau a ddefnyddir yn bennaf gan y perchennog, gan gynnwys landlordiaid preswyl lle bo'r perchennog-preswyliwr yn defnyddio'r adeilad ar y cyd â dau berson arall (lletywyr) ar y mwyaf;
  • Adeiladau a ddefnyddir gan ddau berson yn unig nad ydynt yn ffurfio un aelwyd.

5.3 Trwyddedu HMO Gorfodol

Mae trwyddedu gorfodol yn berthnasol i dai amlfeddiannaeth lle bo pum  person (neu fwy) yn defnyddio eiddo tri llawr (neu fwy). Eithrir tai amlfeddiannaeth sy'n cynnwys fflatiau hunangynhwysol yn unig, na chânt eu defnyddio fel fflatiau amlfeddiannaeth, ac eithrio lle trefnir y fflat ei hun ar dri llawr (heblaw am rai blociau o fflatiau wedi'u haddasu fel y cyfeirir atynt yn 5.2). Wrth asesu nifer y lloriau, ystyrir holl loriau llety preswyl, boed uwchlaw neu islaw'r llawr gwaelod, gan gynnwys croglofftydd y gellir byw ynddynt.

Bydd holl rannau preswyl yr adeilad yn ddarostyngedig i'r darpariaethau hyn lle bo'r eiddo'n gyffredinol yn gymwys i'w drwyddedu, ac eithrio unrhyw rannau o'r eiddo a ddefnyddir gan y landlord yn unig.

5.4 Cofrestr Gyhoeddus

Mae'n ofynnol i'r Cyngor gyhoeddi cofrestr o'r trwyddedau HMO sydd ar gael, sy'n cynnwys gwybodaeth benodol. Bydd hyn yn cynnwys, ymysg pethau eraill: enw a chyfeiriad deiliad y drwydded, manylion yr eiddo a hyd a dyddiad dechrau cyfnod y drwydded.

6 Trwyddedu HMO Ychwanegol

6.1 Gall y Cyngor fabwysiadu cynllun trwyddedu HMO ychwanegol a all gynnwys tai amlfeddiannaeth llai, risg is sydd y tu allan i drwyddedu gorfodol. Gall y cynllun ychwanegol fod yn seiliedig ar ardal, neu ardaloedd, neu gall fod yn berthnasol i holl ardal y Cyngor. Bydd angen i'r cynllun fodloni meini prawf eraill a bennir gan Lywodraeth Cymru a gellir ei roi ar waith lle bo problemau rheoli gyda thai amlfeddiannaeth presennol yn yr ardal yn unig.

6.2 Mae trwyddedu HMOau ychwanegol yn cefnogi Cynllun Corfforaethol y Cyngor ar gyfer 2023 - 2028 ac yn cysylltu'n arbennig â gwerth Ffocws ar Bobl - gan ganolbwyntio ar anghenion a chanlyniadau cymunedol ac ar wella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yn Abertawe. Rydym am sicrhau bod gan Abertawe dai o ansawdd da ac rydym yn gweithio i wella cyflwr a rheolaeth tai

6.3 Mae trwyddedu HMOau ychwanegol yn cefnogi'r flaenoriaeth a amlinellir yng Nghynllun Gwasanaethau Tai ac Iechyd y Cyhoedd 2024-2026 i hyrwyddo gwelliant yng nghyflwr tai'r sector preifat a'u heffeithiolrwydd ynni, gan ddefnyddio camau gorfodi lle bo'n briodol.

6.4 Mae rheoleiddio HMOau i bob pwrpas yn eu hatal rhag mynd yn broblem i gymdogion a chymunedau cyfagos o ran yr adeilad ffisegol ac ymddygiad meddianwyr. Mae eiddo sy'n achosi problemau yn niweidio cydlyniant cymunedol ac yn cael effaith negyddol ganlyniadol ar eiddo cyfagos, a allai arwain at gymdogaeth yn dirywio os nad eir i'r afael â'r broblem. Gall tai amlfeddiannaeth heb eu rheoleiddio gael effaith ddifrifol ar iechyd a lles unigolion. Mae meddianwyr mewn tai o ansawdd gwael neu anniogel yn llai tebygol o gyfrannu'n gadarnhaol at y ddinas a ffynnu mewn gwaith neu addysg. Gall y Cyngor wneud gwelliannau cadarnhaol drwy weithio mewn partneriaeth â chymunedau, landlordiaid, asiantau, prifysgolion, yr heddlu ac asiantaethau gwirfoddol lleol.

6.5 Dangosir gwybodaeth am gwynion perthnasol yn ward y Castell, Uplands, y Glannau a St Thomas rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2024 yn y tablau isod. Mae'r gallu i ymdrin â llawer o'r materion hyn yn gysylltiedig ag amodau a gymhwysir o ganlyniad i drwyddedu HMO ac yn enwedig trwyddedu HMO Ychwanegol yn wardiau'r Castell ac Uplands.

Y Castell
Nifer y cwynion a dderbyniwyd rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2024, yn ôl mathPob eiddo preswylTai Amlfeddiannaeth
Gwastraff o fewn cwrtil yr eiddo22364
Sŵn (pob math gan gynnwys DIY, cerddoriaeth, cŵn yn cyfarth etc.)1273391
Ymholiadau cyffredinol am HMO-447
Cwynion am gyflwr gwael/broblemau HMO-158
Ymholiadau am drwyddedu HMO-316

 

Uplands
Nifer y cwynion a dderbyniwyd rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2024, yn ôl mathPob eiddo preswylTai Amlfeddiannaeth
Gwastraff o fewn cwrtil yr eiddo322197
Sŵn (pob math gan gynnwys DIY, cerddoriaeth, cŵn yn cyfarth etc.)861573
Ymholiadau cyffredinol  am HMO-684
Cwynion am gyflwr gwael/broblemau HMO-405
Ymholiadau am drwyddedu HMO-601

 

St Thomas
Nifer y cwynion a dderbyniwyd rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2024, yn ôl mathPob eiddo preswylTai Amlfeddiannaeth
Gwastraff o fewn cwrtil yr eiddo717
Sŵn (pob math gan gynnwys DIY, cerddoriaeth, cŵn yn cyfarth etc.)21826
Ymholiadau cyffredinol  am HMO-125
Cwynion am gyflwr gwael/broblemau HMO-32
Ymholiadau am drwyddedu HMO-83

 

Y Glannau
Nifer y cwynion a dderbyniwyd rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2024, yn ôl mathPob eiddo preswylTai Amlfeddiannaeth
Gwastraff o fewn cwrtil yr eiddo1-
Sŵn (pob math gan gynnwys DIY, cerddoriaeth, cŵn yn cyfarth etc.)302
Ymholiadau cyffredinol  am HMO-14
Cwynion am gyflwr gwael/broblemau HMO-2
Ymholiadau am drwyddedu HMO-0

6.6 Dangosir gwybodaeth am weithgarwch gorfodi mewn perthynas â thai, ac eithrio trwyddedu HMO, mewn tai amlfeddiannaeth yn y Castell, Uplands, St Thomas a'r Glannau rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2024 yn y tabl isod. Ymdrinnir â'r rhan fwyaf o broblemau drwy weithredu anffurfiol neu amodau trwydded.

Gweithgarwch gorfodi
WardNifer yr Hysbysiadau Gwella a roddwydNifer y Gorchmynion Gwahardd a roddwydNifer y llythyrau rhybudd a anfonwyd mewn perthynas ag amodau rheoli neu drwyddedu
Y Castell555
Uplands6517
St Thomas120
Y Glannau000

6.7 Caniatâd Cyffredinol

Rhoddodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru gymeradwyaeth gyffredinol ar 13 Mawrth 2007 i wneud ardaloedd dynodedig yn ddarostyngedig i drwyddedu ychwanegol gan y Cyngor o dan Ddeddf Tai 2004 (Trwyddedu HMO Ychwanegol) (Cymru) Caniatâd Cyffredinol 2007.

6.8 Dynodi

Mae dynodiad ardal sy'n destun trwyddedu ychwanegol yn dod i ben bum mlynedd ar ôl y dyddiad y daw i rym, oni bai iddo gael ei ddirymu'n flaenorol.

O dan delerau'r Gorchymyn Cydsynio Cyffredinol, mae'r Cyngor, drwy'r polisi hwn, yn dirymu'r dynodiad a wnaed yn 2020 mewn perthynas â wardiau'r Castell, Uplands a St Thomas a'r atodiad dilynol i gynnwys y Glannau yn 2022, a bydd y cynllun hwnnw'n peidio â bod mewn grym ar (-----/2026.)

Mae'r gofynion rhagnodedig ar gyfer ymgynghori wedi'u cymhwyso a bydd y gofynion ar gyfer cyhoeddi dynodi cynllun Trwyddedu HMO Ychwanegol yn cael eu cymhwyso i alluogi i wardiau'r Castell, Uplands, y Glannau a St Thomas gael eu dynodi'n ardaloedd Trwyddedu HMO Ychwanegol o 2025/26, yn amodol ar delerau'r polisi hwn. Gelwir y cynllun hwn yn Gynllun Trwyddedu HMO Ychwanegol (Y Castell, Uplands, y Glannau a St Thomas) 2025.

Mae'r cynllun Trwyddedu HMO Ychwanegol hwn yn benodol berthnasol i bob HMO nad yw'n rhan o gylch gwaith trwyddedu gorfodol yn wardiau'r Castell, Uplands a St Thomas gan gynnwys y tai amlfeddiannaeth a ddiffinnir o dan Adran 257, Deddf Tai 2004 h.y. blociau o fflatiau hunangynhwysol 'wedi'u haddasu'n wael'. Yr unig eithriadau i hyn fydd y tai amlfeddiannaeth hynny sydd wedi'u heithrio'n benodol o drwyddedu o dan y rhannau perthnasol o Ddeddf Tai 2004.

Bydd trwyddedau HMO a roddwyd dan y cynllun Trwyddedu HMOau Ychwanegol blaenorol yn Wardiau'r Castell, Uplands, y Glannau a St Thomas yn cael eu trosglwyddo drwodd i'r cynllun newydd. Ni fydd y cynllun newydd yn newid eu dyddiadau a'u hamodau trwydded newydd, ond pan ddaw'r drwydded i ben, bydd gofynion Cynllun Trwyddedu HMOau Ychwanegol (Y Castell, Uplands a St Thomas) 2021 yn berthnasol iddynt.

7 Proses Trwyddedu HMO

7.1 Mae'r broses trwyddedu HMO yn berthnasol i bob HMO sydd angen trwydded, boed dan y cynllun trwyddedu gorfodol neu ychwanegol.

7.2 Ceisiadau

Bydd y broses drwyddedu a'i hyd yn dechrau o'r dyddiad y derbyniwyd ffurflen gais wedi'i llenwi. Pan fydd ffurflenni anghywir neu anghyflawn, gellir rhoi trwydded am gyfnod byrrach sy'n ystyried yr oedi.

Ni dderbynnir ceisiadau gan yr un ymgeisydd i adnewyddu trwydded bresennol fwy na deufis cyn dyddiad dod i ben y drwydded bresennol. 

Bydd y dyddiad pan dderbynnir ceisiadau'n pennu'r flaenoriaeth archwilio.

Archwilir eiddo fel arfer cyn rhoi trwydded. Bydd yr archwiliad hefyd yn mynd i'r afael ag unrhyw broblemau dan ran 1 sy'n gysylltiedig â'r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai.

7.3 Caniatáu Trwydded

Yn unol â Deddf Tai 2004, Adrannau 64 - 66, er mwyn caniatáu trwydded, mae'n rhaid i'r Cyngor fod yn fodlon ar y canlynol:

Mae'r eiddo (neu gellir gwneud yr eiddo) yn rhesymol addas i'w ddefnyddio gan uchafswm nifer y meddianwyr, sef:

  • Mae'n bodloni'r safonau cyfleusterau a nodir yn Atodiad A
  • Mae ganddo ffordd foddhaol o ddianc os bydd tân, a rhagofalon tân eraill. Asesir risgiau unrhyw waith adfer ar gyfer pob eiddo, gan ddefnyddio'r atodlen yn Atodiad B fel sail.

Mae ymgeisydd y drwydded yn berson addas a phriodol

  • Bydd y Cyngor yn rhoi trwydded i berchennog neu reolwr HMO ar yr amod ei fod yn hunan-ardystio ei fod yn bodloni'r meini prawf ar gyfer Person Addas a Phriodol a nodir yn Atodiad C
  • Mewn achosion lle nad yw ymgeiswyr yn bodloni'r meini prawf hyn, bydd y Cyngor yn arfer ei ddisgresiwn i roi trwydded. Ystyrir yr achosion hyn gan y Pwyllgor Trwyddedu.
  • Gall y Cyngor erlyn a diddymu trwydded os darperir gwybodaeth anwir sylweddol ar y ffurflen gais sy'n dylanwadu ar y penderfyniad i roi trwydded.

Mae trefniadau rheoli boddhaol ar waith.

Gall y Cyngor roi trwydded os caiff ei fodloni bod trefniadau rheoli boddhaol ar waith. Mae'n rhaid i'r rhain gynnwys y canlynol, ond nid yw'n gyfyngedig iddynt:

  • Cymhwysedd i reoli (asesir hyn yn ôl disgresiwn y Cyngor)
  • Meini prawf person addas a phriodol unrhyw berson sy'n rhan o reoli'r tŷ (gweler Atodiad C)
  • Strwythurau rheoli addas (asesir y rhain yn ôl disgresiwn y Cyngor)
  • Trefniadau ariannu priodol (asesir hyn yn ôl disgresiwn y Cyngor)

Gall gynnwys materion eraill fel:

  • Y gallu i fodloni amodau'r drwydded (asesir hyn yn ôl disgresiwn y Cyngor)
  • Unrhyw hanes o reoli'r eiddo'n anfoddhaol (asesir hyn yn ôl disgresiwn y Cyngor).

Cynhwysir manylion y rheolwr, os caiff ei benodi, mewn trwydded a roddir gan y Cyngor. Bydd y Cyngor yn cynghori ymgeiswyr ar sut i ddangos trefniadau rheoli boddhaol.

7.4 Cymeradwyo Trwydded a'i Hyd

Bydd y Cyngor fel arfer yn caniatáu trwydded am gyfnod o bum mlynedd o ddyddiad y cais, ond gall ganiatáu trwydded am gyfnod byrrach mewn rhai amgylchiadau fel a ddisgrifir isod.

Yn achos adnewyddu trwydded i'r un deiliad trwydded, bydd y Cyngor fel arfer yn caniatáu trwydded newydd am bum mlynedd o'r dyddiad y daeth y drwydded flaenorol i ben.

Fel cosb gorfodi, gall y Cyngor roi trwydded am gyfnod byrrach. Mae'r amgylchiadau ar gyfer y gosb hon yn cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i'r canlynol:

  • Oedi wrth gyflwyno ffurflen gais gyflawn
  • Rhoi rhybudd syml i ymgeisydd y drwydded
  • Os oes gan y Cyngor bryderon penodol mewn perthynas â'r HMO ei hun neu'r rheolaeth ohono
  • Ystyriaethau'r Pwyllgor Trwyddedu.

Gyda'r newid i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987, bydd yn ofynnol i ddeiliaid trwydded gyflwyno tystiolaeth o ganiatâd cynllunio ar gyfer defnyddio'r eiddo fel HMO, lle bo'n briodol. Os yw'r caniatâd cynllunio yn yr arfaeth, neu os na chyflwynwyd cais amdano eto, bydd trwydded yn cael ei rhoi fel arfer am flwyddyn er mwyn penderfynu ar y caniatâd perthnasol.

7.5 Amrywio

Gall y Cyngor benderfynu amrywio trwydded, gan gynnwys lleihau tymor y drwydded, nifer y meddianwyr a ganiateir neu'r safonau sy'n gymwys.  Gall wneud hyn os yw'n ystyried y bu newid mewn amgylchiadau ers yr adeg y caniatawyd y drwydded. Mae "newid mewn amgylchiadau" i'r diben hwn yn cynnwys darganfod gwybodaeth newydd. Gall hyn gynnwys os oes pryderon penodol mewn perthynas â'r HMO ei hun, yr amwynderau neu reolaeth yr HMO, ond nid yw'n gyfyngedig i hyn.

7.6 Gwrthod

Y Pwyllgor Trwyddedu fydd yn penderfynu ar wrthod.

Gall y pwyllgor wrthod cais dan yr amgylchiadau canlynol:

  • Ni ellir gwneud yr eiddo yn addas i'w ddefnyddio
  • Nid yw deiliad y drwydded yn berson addas a phriodol
  • Nid yw'r trefniadau rheoli'n foddhaol.

Wrth ystyried a yw deiliad y drwydded neu'r rheolwr yn berson addas a phriodol, rhaid i'r pwyllgor ystyried:

  • A fu toriadau o ran y materion a nodir yn Atodiad C
  • Unrhyw faterion eraill sy'n cynnwys, ymysg pethau eraill, hanes blaenorol o reoli'r eiddo'n anfoddhaol.

7.7 Diddymu

Gall y Pwyllgor Trwyddedu ddiddymu trwydded os:

  • Torrwyd amodau'r drwydded
  • Nad yw deiliad y drwydded yn berson addas a phriodol.

7.8 Amodau Trwydded

Mae Deddf Tai 2004 yn pennu amodau gorfodol trwydded sy'n ymwneud â:

  • Darparu tystysgrifau diogelwch nwy blynyddol
  • Diogelwch offer trydanol a chelfi
  • Darparu larymau mwg, a'u cynnal a'u cadw
  • Darparu datganiad ysgrifenedig o delerau i denantiaid.

Ar ben hynny, gall y Cyngor osod ei amodau dewisol ei hun. Trwy osod amodau mwy heriol, gall y Cyngor gael rheolaeth reoliadol fwy effeithiol dros safonau ffisegol tai amlfeddiannaeth a'u safonau rheoli.

Bydd y Cyngor yn caniatáu trwydded yn amodol ar yr amodau a nodir yn Atodiad Ch. Gall y Cyfarwyddwr Lleoedd, neu swyddogion a awdurdodir i weithredu ar ei ran, amrywio'r amodau hyn ar gyfer gofynion eiddo penodol.

7.9 Ffïoedd

Bydd y Cyngor yn codi tâl am geisiadau am drwydded HMO. Pennir ffïoedd i dalu am gostau yr eir iddynt wrth weinyddu'r cynlluniau trwyddedu.

Ni chaiff ffïoedd eu had-dalu oni bai am amgylchiadau eithriadol, yn ôl disgresiwn y Cyfarwyddwr Lleoedd neu swyddogion a awdurdodir i weithredu ar ei ran.

7.10 Hysbysiadau Eithrio Dros Dro

Defnyddir y rhain pan fo landlord HMO, y dylid ei drwyddedu, yn hysbysu'r Cyngor am ei fwriad i gymryd camau er mwyn sicrhau na fydd angen i'r HMO gael ei drwyddedu mwyach.

Gall y Cyngor roi Hysbysiad Eithrio Dros Dro pan fo:

  • Perchennog HMO trwyddedadwy'n datgan yn ysgrifenedig ei fod yn gofyn i'w wneud yn HMO na ellir ei drwyddedu, ac
  • Mae'r Cyngor yn fodlon na fydd yn drwyddedadwy o fewn tri mis i'r dyddiad pan dderbyniwyd yr hysbysiad.

Ni fydd y Cyngor fel arfer yn rhoi mwy nag un Hysbysiad Eithrio Dros Dro fesul eiddo; wrth wneud hynny, bydd yn ystyried y cynigion ar gyfer yr eiddo, unrhyw ystyriaethau cynllunio a'r trefniadau i ddiwallu anghenion y meddianwyr, gan gynnwys y rhai a fydd yn debygol o gael eu symud.

Bydd y Cyngor yn rhoi ail Hysbysiad Dros Dro mewn amgylchiadau eithriadol yn unig.

8 Gorfodi

8.1 Yn gyffredinol, gall y Cyngor gymryd unrhyw gamau gorfodi perthnasol yn erbyn landlord sy'n gweithredu HMO heb drwydded neu sy'n peidio â chydymffurfio ag amodau trwydded HMO, neu landlord neu reolwr sy'n gosod eiddo i fwy o bobl nag a awdurdodir gan y drwydded, a hynny'n fwriadol.

8.2 Bydd y Cyngor yn ystyried diffyg cydymffurfio ac osgoi bwriadol a'r amgylchiadau hynny lle rhoddir meddianwyr neu gymdogion cyfagos mewn perygl, a hynny'n ddiangen.

8.3 Bydd y Cyngor yn arfer ei bwerau'n unol â Pholisi Gorfodi Diogelu'r Cyhoedd   2018 a bydd yn eu defnyddio mewn modd cyson, tryloyw a chymesur.

8.4 Ystyrir gofynion ar gyfer cofrestru gofrestru landlordiaid a thrwyddedu landlordiaid ac asiantiaid yn y sector rhentu preifat yng Nghymru o dan ran 1, Deddf Tai (Cymru) 2014 (Rhentu Doeth Cymru) pan roddir ystyriaeth i statws person addas a chymwys.

8.5 Deddf Tai 2004, Rhan 1 - System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS

Disgrifir y fframwaith ar gyfer HHSRS yn adran 3. Yn achos peryglon Categori 1 mewn tai amlfeddiannaeth, bydd y Cyngor yn arfer ei ddyletswydd statudol i          ymyrryd a chymryd yr opsiynau gorfodi priodol. Yn achos peryglon Categori 2, bydd y Cyngor yn arfer ei bŵer dewisol ac yn ystyried yr opsiwn gorfodi priodol.

Gall y Cyngor gyflwyno amrywiaeth o hysbysiadau gorfodi, gan gynnwys Gwella, Adfer Brys, Gwahardd ac Ymwybyddiaeth o Beryglon; gellir atal neu amrywio pob un ohonynt.

Ar ben hynny, mae gan y Cyngor bwerau o dan Ddeddf Eiddo 1985 o ran dymchwel a datgan Ardaloedd Clirio.

8.6 Gorchmynion Ad-dalu Rhent

Gall landlord a ddyfernir yn euog o weithredu HMO heb drwydded fod yn destun Gorchymyn Ad-dalu Rhent gan Dribiwnlys Eiddo Preswyl (Tribiwnlys Haen Gyntaf).

Ar gais gan denant, gall Gorchymyn Ad-dalu Rhent ofyn i'r landlord ad-dalu rhent a dderbyniwyd ganddo dros gyfnod o hyd at 12 mis. Lle telir rhent fel Budd-dal Tai, gall y Cyngor wneud cais i'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl am Orchymyn Ad-dalu Rhent.

8.7 Gorchmynion Rheoli Dros Dro a Therfynol

Mae'r Ddeddf yn rhoi pwerau i'r Cyngor gyflwyno hysbysiadau a chymryd camau gweithredu lle na ddisgwylir i HMO gael trwydded. Mewn amgylchiadau perthnasol, mae gan gynghorau ddyletswydd i weithredu. Dan amgylchiadau eithriadol, rhaid i gynghorau gymryd yr awenau o ran rheoli HMO, gan gymryd cyfrifoldeb am ei gynnal, gwneud gwelliannau angenrheidiol a chasglu rhent.

Mae'r Cyngor yn cadw'r pŵer i gyflwyno Gorchymyn Rheoli HMO mewn amgylchiadau eithriadol, gan ystyried y meini prawf a gynhwysir yn y Ddeddf.

8.8 Rheoliadau Rheoli

Mae Rheoliadau Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Cymru) 2006 yn berthnasol i bob HMO ac eithrio rhai blociau o fflatiau wedi'u haddasu, a gynhwysir yn Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Darpariaethau Ychwanegol) (Cymru) 2007.

Mae'r rheoliadau'n gosod dyletswyddau penodol ar reolwyr, gan gynnwys cynnal a chadw gosodion a ffitiadau, mesurau diogelwch tân, cyflenwadau nwy a thrydan, a threfniadau gwaredu gwastraff. Mae'r rheoliadau hefyd yn gosod dyletswyddau ar feddianwyr. Mae unrhyw un sy'n peidio â chydymffurfio â'r rheoliadau hyn yn troseddu a gall olygu dirwy heb fod yn fwy na Lefel 5 ar y raddfa safonol (£5,000 ar hyn o bryd) - gweler hefyd 8.9 isod.

Lle torrir y rheoliadau hyn, bydd y Cyngor fel arfer yn anfon llythyr rhybuddio at y person perthnasol, gan nodi mesurau adfer a'r goblygiadau os na fydd yn mynd i'r afael â hwy.

Lle bo achosion sylweddol o dorri'r rheoliadau hyn, gall y Cyngor erlyn ar unwaith.

8.9 Cosbau

Mae'r Ddeddf yn pennu nifer o droseddau sy'n gysylltiedig â thrwyddedu a'r cosbau cyfatebol, gan gynnwys y canlynol:

  • Gweithredu HMO heb drwydded neu ganiatáu i HMO gael ei feddiannu gan fwy o bobl nag a ganiateir yn y drwydded: dirwy diderfyn
  • Torri amod trwydded: dirwy nad yw'n fwy na Lefel 5 ar y raddfa safonol
  • Darparu gwybodaeth anghywir mewn cais am drwydded: dirwy nad yw'n fwy na Lefel 5 ar y raddfa safonol.

Mae'r raddfa safonol yn system lle pennir uchafsymiau dirwyon yn erbyn graddfa safonol.

Mae'n amddiffyniad yn erbyn unrhyw un o'r uchod os gall y person a gyhuddir ddangos bod ganddo esgus rhesymol.

9 Dirprwyo

9.1 Dirprwyir yr opsiynau gorfodi a gynhwysir yn rhan 1 (System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai), rhan 2 (Trwyddedu HMO), rhan 4 (Gorchmynion Rheoli a Hysbysiadau Gorlenwi), rhan 6 (Pwerau Mynediad, etc) a'r atodlenni perthnasol yn Neddf Tai 2004 i'r Cyfarwyddwr Lleoedd neu swyddogion a awdurdodir i weithredu ar ei ran.

9.2 Dirprwyir penderfyniadau sy'n ymwneud â gwrthod neu ddiddymu trwydded ar sail person addas a phriodol a threfniadau rheoli boddhaol i'r Pwyllgor Trwyddedu.

9.3 Lle rhoddir trwydded am gyfnod byrrach na phum mlynedd, fel cosb, bydd hawl i apelio i'r Pwyllgor Trwyddedu.

9.4 Dirprwyir newidiadau i'r manylebau technegol yn Atodiadau A (Cyfleusterau) a B (Ffordd o Ddianc a Rhagofalon Tân Eraill) i'r Cyfarwyddwr Lleoedd neu swyddogion a awdurdodir i weithredu ar ei ran.

9.5 Dirprwyir newidiadau i amodau trwydded (Atodiad Ch) i'r Cyfarwyddwr Lleoedd neu swyddogion a awdurdodir i weithredu ar ei ran.

10 Tai Amlfeddiannaeth na ellir eu trwyddedu

10.1 Bydd tai amlfeddiannaeth nad yw'r gofynion trwyddedu'n berthnasol iddynt yn ddarostyngedig i Reoliadau Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Cymru) 2006 neu Reoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Darpariaethau Ychwanegol) (Cymru) 2007.

10.2 Asesir risgiau pob eiddo sy'n cael ei archwilio o dan ran 1 y Ddeddf. Bydd y gwaith adfer ar gyfer diogelwch tân yn seiliedig ar Atodiad B.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu