Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Trwyddedau gamblo

Rydym yn gyfrifol am ddyrannu trwyddedau gamblo masnachol. Mae mangreoedd cynnwys casinos, neuaddau bingo, swyddfeydd betio ac arcedau difyrion.

Rydym hefyd yn dyrannu trwyddedau betio ar gyfer peiriannau gemau mewn tafarndai a mangreoedd trwyddedig eraill sy'n gwerthu alcohol.

Mae ein Polisi Gamblo'n nodi'r egwyddorion y byddwn yn eu rhoi ar waith wrth arfer ein swyddogaethau trwyddedu o dan y Ddeddf. Adolygir y Polisi Gamblo bob tair blynedd.

Rhaid i'r holl geisiadau am drwyddedau gamblo fodloni'r tri amcan trwyddedu. Mae'r rhain yno i helpu i sicrhau bod y drwydded yn diogelu'r cyhoedd. Dyma'r tri amcan

  • Atal gamblo rhag achosi troseddu neu anhrefn, bod yn gysylltiedig â throseddu neu anhrefn neu gael ei ddefnyddio i gefnogi troseddu.
  • Sicrhau bod gamblo'n digwydd mewn modd teg ac agored.
  • Diogelu plant a phobl ddiamddiffyn eraill rhag cael eu niweidio neu eu hecsbloetio drwy gamblo.

Deddf gamblo ffurflenni cais

Mae ffurflenni cais ar gael ar gyfer trwyddedau, hawlenni, datganiadau dros dro, hysbysiadau mangre a'r hawl i gynnal lotrïau mewn mangre.

Datganiad o bolisi gamblo

Mae Dinas a Sir Abertawe wedi cyhoeddi Datganiad o Bolisi Trwyddedu o dan Ddeddf Gamblo 2005.

Ffïoedd trwyddedau gamblo

Manylion ffïoedd trwyddedau gamblo gan gynnwys ffïoedd blynyddol.

Hysbysiad o fwriad i gyhoeddi polisi diwygiedig yr awdurdod lleol mewn perthynas â Deddf Gamblo 2005

Yn unol ag Adran 349 o'r Ddeddf, hysbysir drwy hyn y bydd polisi'r awdurdod yn cael ei gyhoeddi ar 9 Tachwedd 2021, cyn dod i rym ar 7 Rhagfyr 2023.

Awdurdodau Cyfrifol mewn perthynas â Deddf Gamblo 2005

Os ydych yn gwneud cais ar gyfer Deddf Gamblo 2005 yna rhaid i chi hefyd anfon copi o'r cais at bob un o'r Awdurdodau Cyfrifol canlynol
Close Dewis iaith