Toglo gwelededd dewislen symudol

Canllawiau gyrwyr a cherbydau ar gyfer Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat

Amodau trwyddedu ar gyfer gyrwyr cerbydau Hurio Preifat

1. Gwnaed yr amodau hyn yn unol ag Adran 51 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976. Gall torri un neu ragor o'r Amodau hyn arwain at atal, dirymu neu wrthod adnewyddu'r drwydded yn unol ag Adran 61 o'r Ddeddf honno a/neu erlyniad pe bai trosedd o dan gyfraith Trwyddedu Tacsi.

2. Yn y drwydded hon:

Ystyr "y Cyngor" yw Dinas a Sir Abertawe

Ystyr "Deddf 1976" yw Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976

Ystyr "Swyddog Awdurdodedig" yw unrhyw berson a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan y Cyngor at ddibenion y Ddeddfwriaeth Berthnasol

Ystyr "Trwydded Gyrwyr Cerbydau Hurio Preifat"yw Trwydded a ddyroddir yn unol ag Adran 51 o Ddeddf 1976

Ystyr "Teithiwr" yw unrhyw berson sy'n hurio'r Cerbyd a, lle mae'r cyd-destun yn caniatáu, yn cynnwys unrhyw berson sydd â hawl i gael ei gludo yn y cerbyd yn unol â'i hurio

Ystyr "Platiau Trwydded" yw'r platiau a roddir gan y Cyngor at ddibenion adnabod y cerbyd fel Cerbyd Hurio Preifat a drwyddedwyd gan y Cyngor hwn

Ystyr "y Cerbyd" yw'r Cerbyd Hurio Preifat a bennir yn y Drwydded

Ystyr "Y Gyrrwr Trwyddedig" yw'r person sydd wedi'i drwyddedu gan y Cyngor i yrru cerbydau o'r math penodol hwn at ddibenion hurio neu dderbyn tâl

Ystyr "Arwyddion Drws" yw'r arwyddion a roddir gan y Cyngor at ddibenion adnabod y cerbyd fel Cerbyd Hurio Preifat a drwyddedwyd gan y Cyngor

3. Mae'r Drwydded yn cael ei rhoi i'r person a enwir arni i weithredu fel gyrrwr Cerbyd Hurio Preifat yn ardal y Cyngor yn amodol ar gydsyniad gweithredwr/perchennog y cerbyd hwnnw ac yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth sydd mewn grym yn yr ardal honno.

4. Ni roddir trwydded i unrhyw un nad yw'r cyngor yn ei ystyried yn addas ac yn briodol i weithredu fel gyrrwr cerbyd hurio preifat.

5. Dim ond teithwyr sydd wedi archebu eu taith ymlaen llaw trwy weithredwr trwyddedig y bydd gyrwyr Cerbyd Hurio Preifat yn eu cludo. Rhaid i yrwyr cerbyd hurio preifat beidio â cheisio cael eu hurio.

6. Mae'r Cyngor yn cadw'r hawl i wrthod rhoi trwydded pan fo'r ymgeisydd eisoes wedi'i gyflogi fel gyrrwr mewn gweithgaredd arall, e.e. gyrrwr bws neu drafnidiaeth.

7. Ar ôl talu'r ffi briodol, bydd y drwydded yn parhau i fod yn weithredol, oni bai ei bod yn cael ei hatal neu ei dirymu gan y Cyngor, am flwyddyn a bydd yn dod i ben ar ddiwrnod olaf y mis cyn cyhoeddi'r drwydded.

8. Pan delir ffi'r drwydded gyda siec nad yw'n cael ei anrhydeddu, bydd y drwydded a roddir yn ddi-rym.

9. Rhaid gwneud cais i adnewyddu trwydded cyn i'r drwydded gyfredol ddod i ben i sicrhau cysondeb. Bydd ceisiadau i adnewyddu a dderbynnir ar ôl y dyddiad y daw'r drwydded i ben yn cael eu trin fel ceisiadau newydd.

10. Mae'n rhaid i bob ymgeisydd ar gyfer trwydded yrru newydd ddarparu tystiolaeth i'r Cyngor ei fod ef/hi wedi cael archwiliad meddygol Grŵp II o fewn pedair wythnos cyn dyddiad y cais, ynghyd â thystysgrif wedi'i llofnodi gan yr archwiliwr meddygol yn cadarnhau ffitrwydd yr ymgeisydd i yrru cerbyd trwyddedig. Rhaid i'r dystysgrif feddygol gael ei chwblhau gan feddyg teulu'r ymgeisydd. Mae'n rhaid i'r ymgeisydd fod wedi cofrestru gyda'r meddyg teulu am y 12 mis blaenorol.

11. Wrth wneud cais am drwydded, rhaid i'r gyrrwr ddatgelu'r holl euogfarnau a rhybuddion blaenorol. Mae methiant bwriadol i wneud hynny, neu ffugio'r ffurflen gais yn drosedd a all arwain at erlyniad. Mae angen manylion unrhyw erlyniadau sydd ar y gweill hefyd. Mae'r Gwiriad Biwro Cofnodion Troseddol yn ddilys am 3 blynedd ar yr amod bod y drwydded yn parhau i fod yn weithredol yn ystod y cyfnod hwnnw.

Bathodyn/trwydded gyrwyr

12. Rhaid gwisgo'r bathodyn cyfredol a roddwyd gan y Cyngor fel ei fod yn amlwg ac yn weledol bob amser tra bod y gyrrwr yn ymgymryd â dyletswyddau trwyddedig. Rhaid arddangos ail fathodyn, fel y'i rhoddwyd gan y Cyngor, ar ffasgia'r car neu mewn safle amlwg fel ei fod yn amlwg i'r holl deithwyr. Rhaid i'r holl fathodynnau sydd wedi dod i ben gael eu tynnu o'r cerbyd ac ni ddylid eu harddangos.

13. Rhaid hysbysu'r Swyddfa Drwyddedu ar unwaith os bydd unrhyw drwydded neu fathodyn yn mynd ar goll neu'n cael ei ddwyn.

14. Os bydd trwydded neu fathodyn yn cael ei golli, mae'n rhaid cael un newydd cyn gynted â phosibl. Codir ffi am amnewid trwydded neu fathodyn.

Y Gyrrwr

16. Rhaid i yrwyr ymddwyn mewn modd cwrtais a threfnus tuag at yr holl deithwyr ac aelodau o'r cyhoedd pan fydd ar ddyletswydd.

17. Wrth gyrraedd lleoliad a drefnwyd gyda'r huriwr, bydd y gyrrwr yn nodi ei fod wedi cyrraedd drwy guro ar y drws neu ganu'r gloch drws fel bo'n briodol. Ni ddylid seinio corn y cerbyd heblaw mewn amgylchiadau a nodir yn rheolau'r ffordd fawr, neu mewn argyfwng.

18. Mae'n rhaid i yrwyr gydymffurfio â gofynion deddfwriaeth traffig ffyrdd bob amser.

19. Rhaid i yrwyr fod wedi'u gwisgo'n briodol ac yn rhesymol mewn dillad glân addas. Nid yw brest noeth, festiau neu ddillad budr yn dderbyniol.

20. Ni chaiff gyrrwr ddefnyddio cerbyd fel cerbyd hurio preifat nad yw wedi'i drwyddedu at y diben hwnnw gan y Cyngor.

21. Rhaid i yrwyr gynorthwyo teithwyr gyda nifer rhesymol o fagiau a chynnig cymorth rhesymol os oes angen, gan gynnwys cario bagiau i fynedfa unrhyw adeilad, gorsaf neu ardal lle bydd yn codi neu'n gollwng teithwyr o'r fath.

22. Bydd gyrrwr yn cymryd pob rhagofal i sicrhau diogelwch y rhai sy'n cael eu cludo yn y cerbyd, neu'n mynd i mewn neu allan ohono.

23. Ni chaiff gyrrwr cerbyd hurio preifat gludo mwy o bobl yn y cerbyd na nifer y bobl y mae'r cerbyd wedi'i drwyddedu i'w cludo.

24. Bydd y gyrrwr yn mynd â'r cerbyd ar yr amser a benodwyd i'r lle a benodwyd, oni bai ei fod yn cael ei oedi'n anorfod neu'n cael ei atal am reswm y gellir ei gyfiawnhau, pan fydd trefniant i hurio wedi cael ei dderbyn.

25. Bydd gyrrwr y cerbyd sydd wedi'i hurio i fynd i gyrchfan benodol yn teithio i'r gyrchfan honno ar y llwybr byrraf sydd ar gael oni bai bod y sawl sy'n hurio yn gofyn iddo wneud fel arall.

26. Ni fydd gyrrwr cerbyd hurio preifat yn cludo nac yn caniatáu cludo unrhyw berson arall heb ganiatâd y sawl sy'n hurio ar y daith honno.

27. Rhaid i yrwyr beidio ag ysmygu ar unrhyw adeg yn y cerbyd. Gwaherddir yfed neu fwyta hefyd wrth gario teithwyr oni bai bod y sawl sy'n hurio yn caniatáu.

28. Rhaid i yrwyr bob amser yrru mewn modd gofalus a phriodol gan ystyried teithwyr a defnyddwyr eraill y ffordd.

29. Rhaid i'r gyrrwr gynnal a chadw'r Cerbyd Trwyddedig i sicrhau lefel uchel o lendid.

30. Bydd y gyrrwr yn sicrhau nad yw unrhyw radio sydd wedi'i osod yn y cerbyd nac unrhyw offer arall ar gyfer chwarae cerddoriaeth yn cael ei ddefnyddio mewn modd sy'n tarfu ar bobl eraill o ganlyniad i ddefnydd parhaus, swnllyd neu ailadroddus, boed hynny y tu mewn neu du allan i'r cerbyd. Bydd unrhyw offer (ac eithrio ar gyfer derbyn negeseuon) yn cael ei ddiffodd ar gais y sawl sy'n hurio.

31. Rhaid i yrrwr cerbyd hurio preifat fynd â pherson anabl, yng nghwmni tywysydd, ci clyw neu gi cymorth arall, neu unrhyw berson sy'n ofynnol iddo fynd gydag ef mewn cerbyd hurio preifat heb unrhyw ffi ychwanegol oni bai bod yr awdurdod trwyddedu yn rhoi eithriad ar sail feddygol.

32. Mae'n rhaid i yrrwr cerbyd hurio preifat gydymffurfio gyda'r holl geisiadau rhesymol ynghylch materion trwyddedu tacsi a wneir gan swyddog awdurdodedig neu Swyddog yr Heddlu.

33. Ni fydd gyrrwr yn caniatáu i'r canlynol gael eu cludo ym mlaen cerbyd trwyddedig:

   (i) unrhyw blentyn o dan 10 oed;

   (ii) Mwy na'r nifer o bobl a ganiateir.

Hysbysiadau

34. Rhaid i yrrwr cerbyd hurio preifat trwyddedig hysbysu'r Cyngor yn ysgrifenedig am unrhyw newid i'w gyfeiriad o fewn 7 diwrnod i'r newid hwnnw.

35. Rhaid i yrrwr cerbyd hurio preifat trwyddedig hysbysu'r Cyngor yn ysgrifenedig os bydd yn trosglwyddo i gyflogwr arall o fewn 3 diwrnod i'r newid hwnnw.

36. Rhaid i unrhyw yrrwr a gafwyd yn euog o unrhyw drosedd gan y llysoedd yn ystod cyfnod y drwydded hysbysu'r Swyddog Trwyddedu yn ysgrifenedig, o fewn 3 diwrnod gwaith i'r euogfarn honno, yn enwedig:

   (i)  unrhyw drosedd o dan y Deddfau Traffig Ffyrdd a'r Rheoliadau a wneir oddi tanynt:

   (ii)  unrhyw drosedd sy'n ymwneud ag anonestrwydd / anweddusrwydd/trais / cyffuriau;

   (iii)  unrhyw rybuddion.

37. Rhaid i'r gyrrwr hysbysu perchennog y cerbyd ar unwaith os yw'r diffoddydd tân a ddarperir wedi'i ddefnyddio.

Prisiau

38. Os bydd mesurydd tacsi wedi'i osod mewn cerbyd hurio preifat, ni fydd y gyrrwr yn achosi i'r ffi a gofnodwyd ar y mesurydd gael ei ganslo na'i guddio nes bod y sawl sy'n hurio wedi cael cyfle rhesymol i'w weld a thalu'r pris.

39. Ni ddylai gyrrwr cerbyd hurio preifat fynnu gan yr huriwr swm uwch na'r hyn y cytunwyd arno rhwng yr huriwr a'r gweithredwr, neu os oes mesurydd tacsi wedi'i osod yn y cerbyd ac nad oes cytundeb blaenorol ynghylch y pris, bydd y pris yn dangos ar wyneb y mesurydd tacsi.

Gwiriadau cerbydau

40. Bydd gyrrwr cerbyd trwyddedig yn cynnal archwiliad o du mewn a thu allan y car yn ddyddiol i sicrhau bod y gofynion goleuo a'r Rheoliadau Adeiladu a Defnydd yn cael eu dilyn, a bod y cerbyd yn addas ac yn ddiogel (ar y tu mewn a'r tu allan) i gael ei ddefnyddio fel cerbyd trwyddedig. Rhaid i'r gyrrwr neu'r perchennog unioni unrhyw ddiffygion ar unwaith.

41. Rhaid i yrrwr cerbyd trwyddedig hysbysu'r perchennog yn ysgrifenedig ar unwaith am unrhyw ddiffygion, a allai effeithio ar ddiogelwch y gyrrwr, teithwyr neu bersonau eraill.

42. Cyn dechrau unrhyw shifft, rhaid i'r gyrrwr archwilio'r cerbyd i sicrhau bod yr arwyddion a'r plât wedi'u harddangos ar y cerbyd yn y safleoedd cywir.

Eiddo coll

43. Bydd y gyrrwr, yn syth ar ôl diwedd taith neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedi hynny, yn chwilio'r cerbyd yn ofalus am unrhyw eiddo a allai fod wedi cael ei adael ynddo ar ddamwain.

44. Ar ôl dod o hyd i unrhyw eiddo a adawyd mewn cerbyd ar ddamwain, rhaid i'r gyrrwr ei roi i'r swyddog perthnasol mewn prif Orsaf Heddlu o fewn 24 awr oni bai bod y perchennog yn ei hawlio'n gynt. Rhaid gadael yr eiddo yng ngofal y swyddog cyfrifol yng Ngorsaf yr Heddlu a rhaid i'r gyrrwr gael derbynneb amdano.

Gwiriadau Meddygol

45. Bydd tystysgrif feddygol Grŵp ll a gynhyrchir ar gais, ar ôl rhoi'r drwydded, yn parhau i fod yn ddilys am y cyfnod a nodir isod, ar yr amod na fydd y drwydded yn cael ei dirymu, ei hildio neu'n dod i ben yn ystod y cyfnod hwnnw ac yn amodol ar y Cyngor yn cadw'r hawl i fynnu bod archwiliad meddygol yn cael ei gynnal ar unrhyw adeg gan ei archwilydd meddygol ei hun.

   (a) Bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd newydd basio archwiliad meddygol Grŵp II fel y nodir gan y Cyngor. Bydd y dystysgrif hon yn ddilys, yn amodol ar yr uchod, nes bod deiliad y drwydded yn cyrraedd 45 oed.

   (b) Ar ôl cyrraedd 45 oed, bydd yn ofynnol i ddeiliad y drwydded gyflwyno tystysgrif feddygol Grŵp II eto, ac wedi hynny bob pum mlynedd nes y bydd yn cyrraedd 65 mlwydd oed.

   (c) Ar ôl cyrraedd 65 oed, bydd yn ofynnol i ddeiliad y drwydded gyflwyno tystysgrif feddygol Grŵp II eto, ac yn flynyddol wedi hynny.

46. Rhaid i yrwyr hysbysu'r Cyngor am unrhyw newid yn eu cyflwr iechyd a allai effeithio ar eu gallu i yrru cerbyd hurio preifat trwyddedig.

Gwiriadau biwro cofnodion troseddol

47. Bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd ar y cais cyntaf a phob 3 blynedd dilynol gwblhau a llofnodi cais am Wiriad Biwro Cofnodion Troseddol.

Derbynebau ysgrifenedig

48. Rhaid i'r gyrrwr ar gais y teithiwr ddarparu derbynneb ysgrifenedig iddo ar gyfer y pris a dalwyd. Bydd y dderbynneb yn dangos enw a chyfeiriad y gweithredwr a/neu ei fusnes.

Atal/ dirymu ac erlyn

49. Mae gan y Cyngor y pŵer i atal, dirymu neu wrthod adnewyddu trwydded ar sail briodol. Pan fo trwydded wedi'i chael drwy roi gwybodaeth ffug neu anghyflawn, rhoddir ystyriaeth i atal, dirymu neu wrthod drwydded. Gall y gyrrwr hefyd fod yn agored i erlyniad.

50. Gall torri unrhyw un o'r amodau hyn arwain at ddirymu/atal trwydded a/neu erlyniad pe byddai'r tor-rheol yn drosedd o dan gyfraith trwyddedu tacsis.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu