Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Ystyried rhentu eich eiddo

Gall rhentu'ch eiddo gwag fod yn ffordd ddelfrydol o greu incwm ychwanegol, mae'n tueddu i wella safon yr eiddo ac yn helpu i atal fandaliaeth a throseddu.

Mae rhentu eiddo i berson arall yn creu perthynas gyfreithiol rhwng y landlord a'r tenant/deiliad contract. Pa bynnag mor anffurfiol y bwriadwch i'r trefniad fod, mae'n rhwymedig drwy Ddeddfwriaeth Tai benodol. Mae'r ddeddfwriaeth yn diffinio eich hawliau a'ch cyfrifoldebau chi, a'ch tenant.

Ar gyfer cyngor cyfreithiol annibynnol ar rentu eich eiddo, dylech gysylltu â'ch cyfreithiwr neu asiant rhentu preswyl proffesiynol.

Cyn gosod eich eiddo, mae'n bosib y bydd yn rhaid i chi ymgynghori â'ch benthyciwr morgais neu'ch rhydd-ddeiliad. Bydd hefyd angen i chi gael yswiriant adeiladu digonol ar waith.

Beth sydd angen i mi ei ddarparu?

Dylai unrhyw un sy'n penderfynu gosod ei eiddo wneud y canlynol:

  • Sicrhau bod yr eiddo'n addas i bobl fyw ynddo h.y. yn rhydd o beryglon i sicrhau ei fod yn ddiogel i fyw ynddo
  • Sicrhau bod gan yr eiddo synwyryddion mwg gwifredig
  • Sicrhau bod synhwyrydd carbon monocsid ym mhob ystafell alle ceir cyfarpar llosgi nwy.
  • Sicrhau bod archwiliad diogelwch nwy yn cael ei gynnal yn flynyddol
  • Sicrhau bod y dystysgrif diogelwch trydan yn ei lle ar gyfer y deiliaid cyntaf a'i bod yn cael ei hadnewyddu bob 5 mlynedd.
  • Sicrhau bod adeiledd a thu allan yr eiddo mewn cyflwr da
  • Sicrhau bod gosodiadau dŵr, nwy a thrydan ar gyfer glanweithdra a gwresogi gwagle yn gweithio'n iawn.

Os yw'r eiddo rydych chi'n ei osod wedi'i rannu'n nifer o unedau llety ar wahân (fel fflatiau neu fflatiau un ystafell) neu os ydych yn ei osod i bobl nad ydynt yn gysylltiedig â'i gilydd, gall fod yn Dŷ Amlfeddiannaeth (HMO). Mae gofynion penodol ar gyfer perchennog neu reolwr HMO. Mae'r rhain yn orfodadwy yn ôl y gyfraith ac yn cynnwys safonau diogelwch tân a rheolaeth a chynnal a chadw a rhannau a gwasanaethau cyffredin yr HMO. Os ydych chi'n ystyried gosod yr eiddo fel HMO, gallwch ddarllen rhagor am ofynion Tai amlbreswyl yn Abertawe.

Nid oes gennych unrhyw ofyniad cyfreithiol i ddarparu celfi. Gall y trefniadau rhentu arfaethedig ddylanwadu ar eich penderfyniad i ddarparu celfi ai peidio. Gall pobl sydd am rentu tŷ cyfan ddod â'u celfi eu hunain, ond mae'n debygol na fydd llawer o gelfi gan fyfyrwyr a phobl eraill sy'n rhentu fflatiau un ystafell, felly efallai byddai'n briodol dodrefnu'r eiddo hyn.

Dylai'r holl gelfi a deunyddiau dodrefnu a ddarperir mewn eiddo rhent gydymffurfio â Rheoliadau Dodrefn a Dodrefnu (Diogelwch Tân) 1988 (fel y'i diwygiwyd).

Pa fath o denantiaeth? Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn llywodraethu pob eiddo sy'n cael ei osod gan landlordiaid preifat dibreswyl. Ers i'r ddeddfwriaeth hon ddod i rym ar 1 Rhagfyr 2022, mae contractau meddiannaeth ysgrifenedig wedi disodli cytundebau tenantiaeth blaenorol.

Ar gyfer pob contract, rhaid i landlord roi copi o'r contract meddiannaeth i ddeiliad y contract (y tenant yn flaenorol) o fewn 14 niwrnod i'r 'dyddiad meddiannu' (y diwrnod yr oedd hawl gan ddeiliad y contract i symud i'r eiddo).

Mae tri math o gontract

  • Contract Diogel - a ddefnyddir yn bennaf gan awdurdodau lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.
  • Contract Meddiannaeth Safonol Cyfnod Penodol - mae'r contract hwn yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract a'r landlord ymrwymo i isafswm cyfnod (yn aml y chwe mis cyntaf o feddiannaeth, ond gall fod yn hirach). Unwaith y daw cyfnod y contract cychwynnol i ben, gall y landlord gytuno ar gontract meddiannaeth safonol cyfnod penodol newydd, neu, os yw deiliad y contract yn parhau i feddiannu'r eiddo (heb gontract newydd), caiff contract safonol cyfnodol ei greu'n awtomatig.
  • Contract Meddiannaeth Safonol Cyfnodol- contract sy'n parhau o un cyfnod rhentu i'r un nesaf (e.e. o wythnos i wythnos neu o fis i fis).

Ar gyfer pob contract, ni all y landlord geisio meddiannu'r eiddo am chwe mis o'r dyddiad meddiannu ac mae'n rhaid i unrhyw hysbysiad a roddir roi chwe mis o rybudd i ddeiliad y contract adael yr eiddo (gelwir hyn yn 'hysbysiad landlord'). 

Fodd bynnag, os yw deiliad y contract yn torri telerau'r contract meddiannaeth, gall y landlord geisio adennill meddiant yn gynt drwy gyflwyno'hysbysiad adennill meddiant', sy'n rhoi manylion ynghylch pam y gofynnir i ddeiliad y contract adael yr eiddo ac erbyn pryd y mae'n rhaid iddo adael. Mae faint o amser y bydd gan ddeiliad y contract cyn y disgwylir iddo adael ei gartref ('y cyfnod hysbysu') yn dibynnu ar y rheswm dros ofyn iddo adael. Mae'r contract meddiannaeth yn nodi'r gwahanol gyfnodau hysbysu.

Er bod y rhan fwyaf o gontractau meddiannaeth yn dod i ben drwy gytundeb rhwng y landlord a deiliad y contract, ni all landlord droi'r deiliad allan heb gael gorchymyn adennill meddiant gan y Llys Sirol yn gyntaf.

I gael rhagor o wybodaeth am y Ddeddf Rhentu Cartrefi cyfeiriwch at Landlordiaid: mae cyfraith tai wedi newid (Rhentu Cartrefi) (Llyw.cymru) (Yn agor ffenestr newydd)

Gofynion Cyfreithiol Eraill

Pa fath bynnag o gontract a ddarperir gennych, bydd angen i chi gydymffurfio â'r canlynol:

Dylech nodi'n glir yn y contract meddiannaeth dan ba amgylchiadau y gellir dal rhan o'r blaendal, neu'r blaendal cyfan, yn ôl ar ddiwedd y contract. Mae hefyd yn ddefnyddiol gwneud rhestr o'r celfi a nodi cyflwr yr eiddo. Gall rhai cwmnïau rhestru eiddo proffesiynol ddarparu adroddiad manwl i landlordiaid am ffi. Gall hyn helpu i sicrhau bod unrhyw anghydfod yn haws ei ddatrys.

Gallai methiant i gydymffurfio ag unrhyw un o'r uchod arwain at anhawster wrth ddod â'r contract meddiannaeth i ben.

Rhent

Ar gyfer tenantiaethau a grëwyd ers Deddf Tai 1988, mae ychydig gyfyngiadau ar y rhent y gall landlord ei godi, fodd bynnag, dylech ystyried safon y llety, ei faint a'i leoliad. Ceisiwch gyngor asiantau rhentu lleol a gwiriwch hysbysebion yn y wasg ar gyfer eiddo tebyg yn eich ardal.

Os yw landlord yn penderfynu newid swm y rhent, mae'n rhaid iddo roi deufis o rybudd bod y rhent yn newid. Os ydych chi'n newid y rhent, bydd yn rhaid i chi aros blwyddyn arall cyn i chi allu ei newid eto. 

Tenantiaid sy'n hawlio Budd-dal Tai/Credyd Cynhwysol

Os yw deiliad y contract ar incwm isel neu'n hawlio budd-daliadau, mae'n bosib y bydd yn gallu gwneud cais am Fudd-dal Tai i helpu gyda chostau rhent a/neu gymorth gyda chostau treth y cyngor. Mae'n ddefnyddiol i chi wirio gyda'r tenant i weld a yw'n gymwys ar gyfer budd-dal.

Bydd angen i chi gadarnhau'r canlynol:

  • A fydd y budd-dal tai yn talu'r rhent a godir?
  • Pryd bydd y taliad cyntaf yn cael ei wneud?
  • Dim ond mewn amgylchiadau penodol y gellir talu'r budd-dal tai yn uniongyrchol i landlord gan gynnwys y canlynol:
    • Mae gan ddeiliad y contract wyth wythnos neu fwy o ôl-ddyledion rhent
    • Mae deiliad y contract yn agored i niwed ac nid yw'n gallu bod yn gyfrifol am reoli'i faterion ei hun.
    • Nid yw deiliad y contract yn debygol o dalu'i rent
    • Mae arian yn cael ei ddidynnu o gymhorthdal incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith y deiliad contract i dalu ôl-ddyledion rhent.

Mae'r Lwfans Tai Lleol (LTLl) yn lwfans cyfradd safonol sy'n seiliedig ar faint yr aelwyd a'r ardal lle mae rhywun yn byw. Mae'r LTLl yn gosod uchafswm y budd-dal y gallai person ei dderbyn, ac yna ystyrir eu hincwm a'u cynilion er mwyn penderfynu ar swm y Budd-dal Tai y maent yn gymwys i'w hawlio.

Am ragor o wybodaeth, cyfeiriwch at

Cyngor ar fudd-daliadau os ydych yn landlord

Gostyngiad Budd-dal Tai a Threth y Cyngor

Defnyddio Asiant Gosod Eiddo Preswyl

Gall defnyddio asiant gosod eiddo fod yn syniad hynod dda os yw'r eiddo rydych chi'n bwriadu'i rentu'n bell i ffwrdd o'ch cartref, neu os ydych chi'n bell i ffwrdd yn aml am gyfnodau hir o amser.

Beth all asiant gosod eiddo ei wneud?

  • Dod o hyd i denantiaid
  • Cymryd geirdaon
  • Trefnu blaendaliadau tenantiaeth
  • Paratoi rhestr eiddo a chontractau
  • Casglu rhent
  • Delio ag atgyweiriadau mewn argyfwng
  • Monitro ac erlid ôl-ddyledion rhent
  • Archwilio'r eiddo o bryd i'w gilydd
  • Gweithredu fel yr asiant trwyddedig fel rhan o ofynion Rhentu Doeth Cymru.

Dylai landlord fod yn glir ynghylch pa wasanaeth sydd ei angen arno gan asiant rhentu, a dylai sicrhau bod yr asiant yn gallu darparu'r gwasanaethau hyn. Dewiswch eich asiant yn ofalus. Mae rhai cwmnïau gosod eiddo yn aelodau o'r Gymdeithas Asiantau Rhentu Preswyl, ac mae rhai yn cyflogi staff sy'n aelodau cymwysedig o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig. Os ydych yn mynd i reoli'ch eiddo drwy asiant, mae gennych hawl i gymaint o sicrwydd ag y mae ei angen arnoch i helpu i asesu lefel ei gymhwysedd, felly peidiwch â bod ag ofn gwirio pa wasanaeth y gall yr asiant ei ddarparu ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd fel ôl-ddyledion rhent, atgyweiriadau etc.

Os ydych chi'n mynd i reoli'r eiddo eich hun, bydd angen i chi ystyried:

  • Trefniadau ar gyfer casglu/talu rhent
  • Gweithdrefn mewn argyfwng
  • Cytundeb cyffredinol ar gyfer atgyweiriadau
  • Modd clir i'r tenant gysylltu â chi pan fo angen
  • Bydd angen i chi feddu ar y drwydded Rhentu Doeth Cymru gywir.

Gofyniad i gofrestru manylion y deiliad gyda Dŵr Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno rheoliadau sy'n effeithio ar unrhyw landlord y mae ei eiddo'n derbyn gwasanaethau dŵr neu garthffosiaeth gan Dŵr Cymru.

Mae'r rheoliadau'n ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid sicrhau bod Dŵr Cymru'n cael gwybod am unrhyw newid yn eu heiddo o fewn 21 diwrnod. Os na wneir hyn, gall y landlord ddod yn atebol ar y cyd ac yn unigol am y taliadau dŵr a charthffosiaeth.

Bydd angen i chi roi'r canlynol i Dŵr Cymru:

  • Cyfeiriad yr eiddo
  • Teitl, enw llawn a dyddiad geni deiliad yr eiddo sy'n oedolion
  • Dyddiad cychwyn y denantiaeth.

Landlordiaid: deddfwriaeth Llywodraeth Cymru - Dŵr Cymru (Yn agor ffenestr newydd) 

Close Dewis iaith