Chwilio'r wefan
English

Gwasanaeth copio

A ydy'n bosibl archebu copiau o ddogfennau sydd gan Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg?

Gall staff ddarparu llungopïau i chi, o fewn canllawiau hawlfraint ac ar yr amod nad yw hyn yn difrodi'r ddogfen. Hefyd gallwch ddefnyddio'ch camera eich hunan i dynnu llun dogfennau, o fewn yr un canllawiau. Rydym hefyd yn gallu cynnig lluniau wedi'u sganio o ansawdd uchel. Am ragor o fanylion, cysylltwch â ni ar archifau@abertawe.gov.uk


Prisiau
Llungopïau trwy'r post: y tâl lleiafswm yw £6 sy'n talu am tua 10 copi. Mae pob copi pellach yn costu 60c yn ychwanegol.
Mae photocopïau a archebwyd a chasglwyd yn bersonol yn yr archifdy yn costu 60c yr un.
PDF Document Gwelwch fanylion o'n ffioedd a thaliadau (PDF, 80KB)Yn agor mewn ffenest newydd
 

Talu

  • Derbyniwn daliad trwy siec neu archeb post am archebion o'r DU.
  • Dylai pob taliad tramor fod mewn £ sterling, naill ai ar ffurf siec o fanc ym Mhrydain, neu drwy fanc tramor sydd ag asiant ym Mhrydain (gyda'r arian a nodir ar y siec yn £ sterling). 
  • Hefyd, mae'n bosibl i ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd i ddalu ar y ffôn. Ffoniwch ni yn ystod ein oriau agor​ ar 01792 636589 (neu +44 792 636589 os ydych yn ffonio o dramor)
  • Dylid anfon tâl ymlaen llaw bob tro. Cysylltwch â ni am bris cyn archebu.

Noder, er gwnawn ein gorau i foddhau ein holl ymwelwyr, diogelwch y dogfennau sydd o dan ein gofal yw ein prif ystyriaeth, a felly ni sydd i benderfynu a oes hawl i lungopïo, gan ystyried cyflwr y gwreiddiol.

Wedi'i bweru gan GOSS iCM