Toglo gwelededd dewislen symudol

Cronfa Plant a Phobl Ifanc 2025 / 2026 - amodau'r grant

Diben y grant
Pwy all wneud cais?
Meini prawf cymhwysedd
Faint o arian gallaf wneud cais amdano?
Beth gellir ei ariannu?
Beth na ellir ei ariannu?
Grant - marchnata
Sut caiff ceisiadau eu hasesu?
Amserlenni a'r broses ymgeisio
 

Diben y grant

Dylai lleoliadau Gofal Plant ddefnyddio'r grant hwn i gefnogi eu busnes pan fo amgylchiadau'n golygu bod lleoliad wedi nodi problemau llif arian a all effeithio ar dalu cyflogau staff, biliau cyfleustodau a methiant i ddarparu gwasanaeth cyfan neu ran o wasanaeth. 

Os caiff y grant hwn ei ddyfarnu, ystyrir ei bod yn rhesymol y bydd y Grŵp yn lleihau'r risg ariannol yn y dyfodol er mwyn osgoi cyfnodau o bwysau ariannol ansefydlog. Ni ddylai'r Grŵp ddibynnu ar y Grant Plant a Phobl Ifanc fel dull ar gyfer anghenion cynaliadwyedd yn y dyfodol.

Ar gyfer lleoliadau gofal plant sy'n dymuno creu lleoedd newydd neu greu darpariaeth newydd, rhaid i chi gysylltu â'r Swyddog Cynllunio a Gweithredu Cyfalaf Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar drwy e-bostio fis@abertawe.gov.uk am rago o wybodaeth am y Rhaglen Grantiau Cyfalaf Bach Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar 2025 / 2026.

 

Pwy sy'n gallu gwneud cais?

Meini prawf cymhwysedd

Mae grant o hyd at £5,000 (£2,000 ar gyfer gwarchodwyr plant) ar gael i helpu lleoliadau gofal plant yn Abertawe i ddarparu busnes cynaliadwy.

Rhaid i'r rhesymeg o ran busnes ar gyfer y grant hwn ddangos yr angen i oresgyn unrhyw faterion llif arian sydd wedi'u nodi fel rhan o Wiriad Iechyd Busnes.

Gofynnir i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o'u rhangolwg ariannol ar gyfer blwyddyn ariannol Ebrill 2025 - Mawrth 2026.

Mae'n rhaid i'ch busnes fodloni'r canlynol:

  • Rhaid iddo fod yn Abertawe. Ni all darparwyr sydd y tu allan i Abertawe gyflwyno ceisiadau hyd yn oed os oes plant o Abertawe yn mynd yno. (Cysylltwch â'ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol am ragor o wybodaeth am grantiau yn eich ardal).
  • Rhaid iddo ddarparu gofal plant i blant 0-12 oed drwy ddarparu gwasanaethau fforddiadwy a hygyrch o safon sy'n helpu teuluoedd.
  • Rhaid iddo fod wedi'i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae hyn yn cynnwys gwarchodwyr plant, grwpiau'r sector preifat a gwirfoddol a lleoliadau a gynhelir sy'n cynnig gofal dydd, gofal ar ddechrau ac ar ddiwedd dydd, cynlluniau chwarae yn ystod y gwyliau, clybiau gofal plant y tu allan i'r ysgol etc.
  • Rhaid iddo fod yn barod i weithio ochr yn ochr â thîm Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar Cyngor Abertawe a/neu Swyddogion Datblygu Sefydliadau Partner i sicrhau gofal plant parhaol o safon a chynaliadwyedd tymor hir.

 

Faint o arian gallaf wneud cais amdano?

  • Gall ymgeiswyr gyflwyno mwy nag un cais y flwyddyn. Ebrill 2025 - Mawrth 2026.
  • Yr uchafswm (ac eithrio ar gyfer Gwarchodwyr Plant) y gall unrhyw ddarparwr wneud cais amdano mewn unrhyw gais unigol yw £5,000.
  • Yr uchafswm y gall gwarchodwyr plant wneud cais amdano yw £2,000 y flwyddyn ariannol.
  • Bydd swm y cyllid yn dibynnu ar anghenion busnes unigol a thystiolaeth i gefnogi cyfiawnhad.
  • Bydd ceisiadau'n cael eu pwyso yn erbyn meini prawf y gronfa hefyd.

Gwybodaeth gysylltiedig am y grant

Beth gellir ei ariannu?

  • Biliau cyfleustodau fel nwy, trydan, dŵr etc. Bydd y taliadau hyn wedi'u capio ar 25% o gostau misol.
  • Costau staff fel cyflogau, teithio a chynhaliaeth.
  • Cyfraniad tuag at gymwysterau sy'n cael eu henwi ar y rhestr gymeradwy: https://gofalcymdeithasol.cymru/cymwysterau-ac-ariannu/fframwaith-cymwysterau
  • Darparu costau cynnal ar gyfer cysylltiad wifi. Bydd y taliadau hyn wedi'u capio ar 25% o gostau misol.
  • Costau yswiriant, er enghraifft yswiriant adeiladau, yswiriant atebolrwydd cyflogwyr etc.
  • Hysbysebu eich busnes yn weithredol, a allai gynnwys dylunio a chreu deunyddiau marchnata.

Beth na ellir ei ariannu?

Mae'r cyllid ar gyfer costau refeniw, ni ddylai'r ceisiadau gynnwys:

  • Costau cyfalaf bach a mawr, gan gynnwys gwelliannau i adeilad neu ardal allanol.
  • Newid / atgyweirio gosodiadau a darnau gosod fel ystafell ymolchi a chyfleusterau cegin, ffenestri, drysau etc.
  • Cael offer / celfi / cyfarpar chwarae newydd yn lle'r hen rai.
  • Prynu cerbydau.
  • Grwpiau Rhieni a Phlant Bach.

Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr. Os oes unrhyw amheuaeth a yw eitem yn gymwys, e-bostiwch  fis@abertawe.gov.uk

Grant - marchnata

Rhaid i'r ymgeisydd sicrhau y dylid rhannu unrhyw gydnabyddiaeth o gynnig grant llwyddiannus drwy ddeunyddiau hyrwyddo a roddir i rieni / ofalwyr. Os nad ydych yn siŵr sut i gydnabod cais llwyddiannus am grant, cysylltwch â'n Tîm Cefnogi Gwasanaethau.

Sut caiff ceisiadau eu hasesu?

Bydd cyllid yn cael ei flaenoriaethu i'r:

  • Rhai sy'n cefnogi cynllun gweithredu'r awdurdod lleol a'r cynllun gweithredu cysylltiedig.
  • Lleoliadau sy'n darparu darpariaeth Gymraeg a/neu sydd â phwyslais penodol ar gryfhau'r ddarpariaeth Gymraeg.
  • Lleoliadau sy'n cefnogi agenda cydleoli gwasanaethau Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol, er enghraifft ar safleoedd ysgolion, mewn canolfannau cymunedol a hybiau iechyd.
  • Lleoliadau sy'n darparu'r cynnig gofal plant, Dechrau'n Deg a/neu leoedd Dysgu Sylfaenol mewn lleoliadau.
  • Gofal plant y gellir ei ddarparu yn ystod y diwrnod llawn, yn ystod y tymor ac yn ystod gwyliau'r ysgol er mwyn sicrhau'r ddarpariaeth fwyaf posib i deuluoedd ar draws y flwyddyn.
  • Y ceisiadau hynny sydd wedi darparu tystiolaeth llawn o angen ac wedi cwblhau'r cais yn llawn.

Amserlenni a'r broses ymgeisio

Bydd Cronfa Plant a Phobl Ifanc 2025 / 2026 ar agor drwy gydol y flwyddyn, gyda'r dyraniad olaf yn debygol o fod ym mis Ionawr 2026. Sylwer, mae'r amserlen isod fel arweiniad i'r rhai sydd â dyddiadau penodol ar gyfer cyflwyno darpariaeth.

Amserlenni a'r broses ymgeisio
Cais a dderbyniwyd cyn:Panel / penderfyniad yn cael ei wneud yn yr wythnos sy'n dechrau:
Dydd Gwener 6 Mehefin 2025Dydd Llun 9 Mehefin 2025
Dydd Gwener 4 Gorffennaf 2025Dydd Llun 7 Gorffennaf 2025
Dydd Gwener 1 Awst 2025Dydd Llun 4 Awst 2025
Dydd Gwener 26 Medi 2025Dydd Llun 29 Medi 2025
Dydd Gwener 7 Tachwedd 2025Dydd Llun 10 Tachwedd 2025
Dydd Gwener 19 Rhagfyr 2025Dydd Llun 5 Ionawr 2026

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Mehefin 2025