Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau cyffredin am barcio

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am barcio.

Tocynnau parcio

 2022/232021/22*2020/21*2019/20*2018/19
Nifer y tocynnau parcio a dderbyniwyd57,12449,49725,90855,36057,286
Nifer y tocynnau yr apeliwyd yn eu herbyn12,12911,2917,34917,42515,497
Nifer yr apeliadau a dderbyniwyd4,9743,7172,6813,8886,706

* Nodyn ychwanegol parthed ffigurau 2019/20, 20/21 a 21/22: mae'n bosib bod y pandemig Coronafeirws a'r cyfyngiadau symud wedi effeithio ar y ffigurau (cyfyngiadau symud swyddogol cyntaf 23 Mawrth 2020).

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am incwm a gwariant meysydd parcio yn adroddiadau blynyddol y gwasanaethau parcio.

Beth sy'n digwydd i unrhyw incwm a godir drwy orfodi?

Gellir defnyddio unrhyw arian a godir drwy orfodi at ddibenion gwella priffyrdd a ffyrdd, gwelliannau amgylcheddol neu er mwyn gwella gwasanaethau cludiant cyhoeddus yn unig.

Hawlen barcio i breswylwyr

Pa awdurdod sydd gan y cyngor i wneud y newidiadau hyn i'r cynllun parcio i breswylwyr?

O dan Ddeddf Rheoli Traffig 2004, mae gan y cyngor ddyletswydd statudol i reoli'r rhwydwaith priffyrdd mewn ffordd fel y gellir lleihau tagfeydd a llygredd aer. Golyga hyn bolisi i gefnogi dichonoldeb economaidd o ran trosiant ac argaeledd mannau parcio, diogelwch wrth annog pobl i beidio â stopio/parcio mewn lleoliadau sy'n achosi perygl i ddefnyddwyr eraill y ffordd, a thagfeydd drwy leihau rhwystrau i lif a symudiad y traffig. 

Y cabinet - Dydd Iau 18 Gorffennaf 2019

I ba leoliadau y mae'r cynllun parcio i breswylwyr hwn yn berthnasol?

Mae 428 o leoliadau parcio i breswylwyr yn unig yn Abertawe, yn bennaf mewn ymateb i geisiadau gan breswylwyr.

Faint o hawlenni sydd wedi'u cyflwyno ar hyn o bryd?

Mae tua 11,816 (Mai 2023).

Sut caiff y cynllun ei orfodi?

Mae gan Swyddogion Gorfodi Sifil amser gwirioneddol i gael mynediad at y gronfa ddata hawlenni i weld a oes gan gerbyd ganiatâd dilys ar gyfer y lleoliad lle mae wedi parcio. Byddai'r broses orfodi'n dilyn gweithdrefnau gorfodi sifil yn yr un ffordd ag unrhyw dramgwyddau parcio eraill.

Ffïoedd parcio

Pam mae'r cyngor wedi cynyddu ffïoedd parcio ceir?

Roedd parcio am ddim ar draws Abertawe yn ystod y cyfyngiadau symud i gefnogi gweithwyr hanfodol. Yn ystod y 12 mis diwethaf yn unig (2022/23), rydym wedi gwario £2.1m yn rhoi cymhorthdal i'r gwasanaeth i gadw costau parcio i lawr i gefnogi gweithwyr, siopwyr a busnesau yng nghanol y ddinas. Cyn hynny, roedd y ffïoedd wedi'u rhewi ers 2014. Roedd hyn yn golygu bod y taliadau 22% yn is nag y byddent wedi bod fel arall. Yn dilyn diwedd y pandemig a chyllid arbennig oherwydd COVID, yn anffodus bu'n angenrheidiol dychwelyd i ffïoedd cyn 2019 (wedi'u haddasu ar gyfer rhywfaint o chwyddiant ond nid yn llawn) er mwyn ariannu costau gweithredu, cynnal a chadw a gwella cyfleusterau meysydd parcio.

Faint o arian mae'r cyngor wedi'i wario ar gadw costau meysydd parcio yn isel?

Yn y 12 mis diwethaf (2022/23) gwnaethom wario £2.1m gan gadw taliadau mor isel â £2 i barcio yn ein meysydd parcio drwy'r dydd. Disgwylir y bydd angen cymhorthdal sylweddol ar gyfer hyrwyddiadau a chynigion yn y dyfodol.

Beth oedd y costau parcio cyn y pandemig?

Mae enghraifft o'r newidiadau, yn yr achos hwn ar gyfer MPAL y Stryd Fawr, gan gynnwys costau cyn y pandemig wedi'i nodi isod. Mae'r tabl yn dangos, o 2014 tan y pandemig, mai'r ffi parcio safonol am 12 awr ar gyfer y Stryd Fawr oedd £6, £2 yn llai na'r ffi i breswylwyr heddiw.

Ffïoedd parcio - y Stryd Fawr
AmserCyn y pandemigCyfradd arbennig oherwydd COVIDCyfradd gyfredol i breswylwyrCyfradd gyfredol i'r rheini nad ydynt yn breswylwyr
1 awr50c£2 drwy'r dydd£1£1.50
2 awr£1 £2£2.50
3 awr£3.50 £3£3.50
4 awr£4.50 £5£5.50
12 awr£6 £8£8.50
9.00pm - 8.00am£3 £3.50£3.50
Dydd SulAm ddimAm ddim£2£2

Mae rhagor o fanylion ynghylch ffïoedd parcio cyn y pandemig ar gael yma: Mae rhagor o fanylion ynghylch ffïoedd parcio cyn y pandemig ar gael yma

Pryd oedd y tro diwethaf i'r cyngor gynyddu ffïoedd parcio?

Wyth mlynedd yn ôl, yn 2014. Rydym bob amser wedi cydnabod pwysigrwydd ffïoedd parcio am bris cystadleuol i siopwyr, busnesau a phobl sy'n gweithio yng nghanol y ddinas. Yn groes i'r graen, bu'n rhaid i ni godi taliadau nawr i dalu am orbenion ffïoedd parcio, gan gynnwys costau ynni cynyddol y mae pawb yn gorfod delio â nhw.

Beth yw'r ffordd rataf o barcio mewn maes parcio a weithredir gan y cyngor?

Defnyddio'r gwasanaeth Parcio a Theithio yw'r ffordd rataf, a gallwch barcio yno am ddim ond £1 y dydd, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn: Parcio a theithio

Os na allaf ddefnyddio'r gwasanaeth Parcio a Theithio, beth yw fy opsiynau?

Disgwylir i gynigion parcio i siopwyr gael eu cyflwyno'n fuan - o gyn lleied â £1 yr awr. Cyflwynwyd adroddiad ar hyn i'r Cabinet ar 18 Mai. Mae hawlenni cost is ar gyfer gweithwyr y ddinas ar gael am gyn lleied â £1.37 y dydd.

Mae parcio ym maes parcio Dewi Sant, MPAL y Stryd Fawr neu mewn maes parcio talu ac arddangos yn rhatach na pharcio ym maes parcio'r Cwadrant. Mae arosiadau hirach o hyd at 12 awr yn rhatach os ydych yn parcio yn rhywle heblaw'r Cwadrant a maes parcio De Bae Copr.

Beth yw'r tocyn tymor rhataf sydd ar gael yng nghanol y ddinas?

Os yw'r cwmni rydych chi'n gweithio iddo yn aelod o BID, gall eich cwmni wneud cais am docyn tymor ar eich rhan am bris cyfartalog o £1.37 y dydd. Mae angen i chi siarad â'ch cyflogwr i gael y cynnig hwn.

Os nad yw fy nghwmni yn rhan o BID, ydw i'n gallu gwneud cais am docyn tymor ar gyfer canol y ddinas?

Ydych. Mae'r prisiau'n dechrau o gyn lleied â £2.27 y dydd. Gallwch chi wneud hynny yma: Tocyn tymor meysydd parcio

Gallwch dalu am docyn tymor yn fisol.

Pam mae'n ddrutach i barcio ym maes parcio'r arena (De Bae Copr)?

Maes parcio premiwm yw Maes Parcio De Bae Copr gyda mynediad uniongyrchol i Arena Abertawe. Mae'n faes parcio yng nghanol y ddinas ac mae'r pris am y 3 awr gyntaf yn debyg i brisiau'r Cwadrant. Ar gyfer arosiadau sy'n hirach na 3 awr mae'r pris yn cynyddu i lefelau tebyg i'r rheini mewn cyrchfannau poblogaidd allweddol yng nghanol dinasoedd eraill.

Dwi'n defnyddio MiPermit. Sut gallaf sicrhau fy mod yn cael y gostyngiad i breswylwyr?

Bydd angen i chi gofrestru gyda MiPermit i wneud cais am hawlen pris arbennig ar gyfer preswylydd. Ar hyn o bryd rydym yn bwriadu symleiddio'r broses gofrestru drwy'r ap i'w gwneud yn haws i chi gael mynediad at y gostyngiad.

I gofrestru ar gyfer eich hawlen pris arbennig i breswylydd ddigidol bydd angen i chi ddarparu eich côd post a rhif eich tŷ er mwyn gallu dewis eich eiddo o'r chwiliad a pharhau â'ch cofrestriad.

Bydd y broses gofrestru yn gofyn am eich manylion i sefydlu'ch cyfrif, a bydd rhif PIN yn cael ei anfon atoch drwy e-bost/neges destun er mwyn i chi allu mewngofnodi i'ch cyfrif sydd newydd ei greu. Os ydych chi'n cael anawsterau wrth gofrestru, ffoniwch MiPermit ar 0345 520 7007.

Adnewyddu neu wneud cais am eich hawlen barcio i breswylydd: Hawlen Pris Arbennig ar gyfer Preswylwyr

Pan fyddwch wedi mewngofnodi i'r porth MiPermit, dewiswch 'Trwyddedau digidol' o'r ddewislen, a dewiswch 'Adnewyddu / gwneud cais am hawlenni'. Yna gallwch ddewis y math o drwydded sydd ei hangen arnoch. Bydd pob maes yn cael ei ragboblogi gyda'ch manylion. Lanlwythwch un o'r dogfennau gofynnol a phwyswch 'Gorffen'.

Ydw i'n gallu defnyddio MiPermit i estyn fy arhosiad mewn meysydd parcio, gan gynnwys Y Strand?

Ydych. Un o fanteision MiPermit yw, os ydych chi'n gwybod eich bod chi'n mynd i gymryd mwy o amser nag a gynlluniwyd, gallwch fynd yn ôl ar yr ap a thalu am arhosiad hirach. Does dim rhaid i chi fynd yn ôl i'r car a phrynu tocyn newydd.

Faint mae'n costio i barcio yng nghanol y ddinas ar ddydd Sul? A yw'n berthnasol i bob maes parcio, gan gynnwys maes parcio'r arena?

Y gost yw £2 drwy'r dydd yng nghanol y ddinas. Mae ffïoedd maes parcio'r arena (De Bae Copr) ar  ddydd Sul yr un fath ag y maent o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.

Faint mae'n ei gostio i barcio mewn meysydd parcio y tu allan i ganol y ddinas?

Gallwch ddod o hyd i'n holl feysydd parcio a'n ffïoedd yma: Meysydd parcio

Cofiwch gall yr app MiPermit helpu hefyd.

Beth yw'r trefniadau ar gyfer parcio i'r anabl yng nghanol y ddinas?

Mae llawer o leoedd i bobl anabl barcio yng nghanol y ddinas: Gwybodaeth am barcio i bobl anabl

Mae deiliaid Bathodynnau Glas yn talu cyfraddau is mewn llawer o feysydd parcio'r cyngor. Mae'r ffïoedd newydd yn y tabl isod.

Bathodynnau Glas - ffïoedd newydd
 Cyn COVIDTâl cyfredol
Hyd at 2 awr70c£1.50
2-4 awr£1.20£3
4-6 awr£2.40£4

A fydd y ffïoedd parcio ym meysydd parcio'r blaendraeth a'r traeth yn gostwng yn nhymor y gaeaf?

Mae costau gaeaf is yn berthnasol rhwng 1 Tachwedd a 28/29 Chwefror yn y meysydd parcio canlynol:

Rwyf wedi clywed y bydd ap i breswylwyr a fydd yn cynnwys cynigion parcio. Sut gallaf gael rhagor o wybodaeth?

Bydd yr ap yn cynnig y gostyngiadau sydd ar gael i breswylwyr ar hyn o bryd. Bydd preswylwyr yn sganio côd QR yr ap i gael y gostyngiad i breswylwyr yn hytrach na'i ddewis ar y peiriant.

Pam na allwch roi'r gorau i adeiladu llwybrau cerdded a beicio a gwario'r arian ar leihau costau parcio?

Telir am lwybrau newydd i gerddwyr a beicwyr yn Abertawe drwy grantiau gan Lywodraeth Cymru. Mae'n rhaid i gynghorau wneud cais am gyllid teithio llesol ac, os ydynt yn llwyddiannus, maent yn derbyn arian y gellir ei wario ar lwybrau beicio a cherdded newydd yn unig. Ni ellir defnyddio'r arian i ariannu prosiectau eraill y cyngor fel llenwi tyllau yn y ffordd neu leihau costau parcio.

A yw'r ffïoedd parcio newydd yn Abertawe yn debyg i ganol dinasoedd eraill fel Caerdydd, Casnewydd a Bryste?

Mae'r ffïoedd parcio newydd yn Abertawe yn gystadleuol iawn o'u cymharu â dinasoedd tebyg fel Caerdydd a Chasnewydd. Pan gynigiwyd y newidiadau am y tro cyntaf, gwnaethom gymharu ein ffïoedd arfaethedig â'r rhai a gynigiwyd gan Gaerdydd, Casnewydd a chynghorau eraill. Gallwch ddod o hyd i enghreifftiau yma:

Abertawe

  • Maes Parcio Aml-Lawr y Stryd Fawr: 1 awr - £1.50 (gostyngiad £1); 2 awr - £2.50 (gostyngiad £2); hyd at 4 awr - £5.50 (gostyngiad £5); hyd at 12 awr - £8.50 (gostyngiad £8)
  • Paxton Street: 1 awr - £2 (gostyngiad £1.50); 2 awr - £3.50 (gostyngiad £3); hyd at 4 awr - £5.50 (gostyngiad £5); hyd at 12 awr - £9 (gostyngiad £8)

Caerdydd

  • Maes parcio Stablau'r Castell: 1 awr - £2.60; 2 awr - £3.60; 3 awr - £4.60; 4 awr - £5.60; 5 awr - £6.60; gyda'r hwyr (6.00pm i 8.00pm) - £2.60
  • Maes parcio Ffordd y Gogledd: hyd at 4 awr - £5.10; diwrnod llawn (tan hanner nos y diwrnod hwnnw) - £8.80

Casnewydd

  • Park Square: hyd at 3 awr - £2.60; hyd at 5 awr - £4.70; dros 5 awr a hyd at 24 awr - £6.20
  • Friars Walk: 1-2 awr - £1.50; 2-3 awr - £2.40; 3-4 awr - £3.60; 4-6 awr - £6; 6-10 awr - £8; 10-24 awr - £15

Reading

  • Maes parcio Canolfan Siopa Broad Street Mall: 1 awr - £1.60; 2 awr - £4.10; 3 awr - £6.10; 4 awr - £8.10; awr - £10.10; 6 awr - £12.20; 24 awr - £14.20
  • Maes parcio Queens Road: 1 awr - £2.30; 2 awr - £4.40; 3 awr - £6.70; 4 awr - £8.90; 5 awr - £10.60; 6 awr - £12.70; 6-24 awr - £16.70
Close Dewis iaith